Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae arolygon cenedlaethol yn dangos bod llesiant meddwl oedolion yng Nghymru wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn gweld cyfraddau uchel parhaus o oryder hunangofnodedig.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mawr o ran pobl yn siarad yn fwy agored am heriau iechyd meddwl a salwch. Rydym am adeiladu ar hyn i gael pobl i siarad am yr hyn sy’n eu cefnogi i aros yn iach yn feddyliol.
Er bod pobl yn gwybod ei bod yn bwysig gofalu am ein llesiant, mae arolygon a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod lefelau is o ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gweithio i gynnal llesiant meddwl cadarnhaol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid wedi lansio Hapus, sgwrs genedlaethol ar lesiant meddwl. Nod Hapus yw cael pobl i siarad am yr hyn sy’n helpu i amddiffyn a gwella llesiant meddwl; beth sy’n ein helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda.
Roedd y weminar hon yn rhoi trosolwg byr o lesiant meddwl a Sgwrs Genedlaethol Hapus. Rhoddodd wybodaeth am ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a’r camau yr ydym yn eu cymryd i liniaru effeithiau negyddol. Buom yn siarad am rôl Cefnogwyr Hapus, yn gwahodd sefydliadau i ymgeisio ac yn amlinellu manteision dod yn Gefnogwr Hapus.
Canlyniadau Dysgu:
- Datblygu dealltwriaeth o les meddyliol a’r pethau y gall pobl eu gwneud i’w ddiogelu a’i hyrwyddo.
- Byddwch yn ymwybodol o nodau, amcanion a dull ymgyrch Hapus.
- Deall rôl ‘Cefnogwr Hapus’ a sut i wneud cais.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Hapus - Ar gyfer ein lles meddyliol (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad