Adfyd ac Iechyd yn Hwyrach mewn Bywyd: Mewnwelediadau o Ymchwil yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas sy’n oed-gyfeillgar lle mae pobl o bob oed yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu byw a heneiddio’n dda. Mae atal anawsterau yn hwyrach mewn bywyd sy’n gallu niweidio iechyd a llesiant yn ganolog i’r ymrwymiad hwn ac yn hanfodol i wella manteision cymdeithasol poblogaeth hŷn sy’n cynyddu.
Tynnodd y weminar hon sylw at effeithiau adfyd yn hwyrach mewn bywyd ar iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o astudiaethau diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Arolwg poblogaeth cenedlaethol o oedolion 60 oed a hŷn yn archwilio amlygiad i brofiadau niweidiol gan gynnwys cam-drin, tlodi, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a’u heffaith ar iechyd a llesiant
- Monitro tymheredd cartrefi a chyfweliadau â thrigolion yn archwilio effaith cartrefi oer ar iechyd a llesiant
- Crynhoi gwybodaeth ac ymarfer ar ynysigrwydd cymdeithasol, unigrwydd a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru
Canlyniadau Dysgu
- Ymwybyddiaeth o ymchwil sy’n dod i’r amlwg ar bobl hŷn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Deall effeithiau adfyd yn hwyrach mewn bywyd ar iechyd a llesiant
- Nodi datrysiadau a chyfleoedd yng Nghymru
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Profiadau Bywyd Hwyrach - Karen Hughes
PDF, 507KB
Llawrlwytho PDF - Profiadau Bywyd Hwyrach - Karen Hughes (507 KB)
LlawrlwythoUnigrwydd, ynysigrwydd, cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru
PDF, 425KB
Llawrlwytho PDF - Unigrwydd, ynysigrwydd, cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru (425 KB)
LlawrlwythoPobl hŷn a chynhesrwydd tai - Hayley-Janssen
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Pobl hŷn a chynhesrwydd tai - Hayley-Janssen (2 MB)
Llawrlwytho