Llunio dyfodol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru
Cyhoeddwyd ar: 15fed Gorffennaf 2026
Crynodeb Gweithredol
Mae amgylchedd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd cryf (APHR) yn hanfodol i wella iechyd y boblogaeth, llywio polisi, ysgogi arloesedd a chefnogi twf economaidd yng Nghymru. Er bod gan Gymru hanes ymchwil cryf a chyd-destun polisi cefnogol ar gyfer iechyd y cyhoedd, mae amgylchedd a chapasiti APHR ar hyn o bryd wedi’i gyfyngu gan gyllid cyfyngedig, gweithgarwch tameidiog, a diffyg gweledigaeth, strategaeth a dylanwad cydlynol ar draws y system ar draws cyllidwyr Cymru a’r DU. Mae hyn yn bygwth twf a chynaliadwyedd ac yn tynnu sylw at botensial sylweddol heb ei ddefnyddio i fynd i’r afael â heriau iechyd y cyhoedd presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg trwy ymchwil a datblygu o ansawdd uchel ac effeithiol.
Nododd Prif Swyddog Meddygol (CMO) Cymru (2023), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) fod APHR yn faes sy’n wynebu cyfnodau heriol yng Nghymru, ond gyda’r potensial i gael ei gryfhau er budd y boblogaeth.
Nododd Prif Swyddog Meddygol (CMO) Cymru (2023), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) fod APHR yn faes sy’n wynebu cyfnodau heriol yng Nghymru, ond gyda’r potensial i gael ei gryfhau er budd y boblogaeth.
Er mwyn helpu i lywio dull gweithredu yn y dyfodol, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cynhwysfawr o dirwedd APHR yng Nghymru, gyda chefnogaeth grŵp llywio ledled y DU. Ym mis Mai 2025 cyhoeddwyd “Optimeiddio Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru“, roedd yr adroddiad yn dangos tystiolaeth o’r duedd ariannu ar i lawr, heriau’r gweithlu, a’r risgiau strategol i Gymru. Roedd yr adolygiad yn nodi pedwar argymhelliad allweddol:
- Datblygu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer APHR
- Canolbwyntio ar gryfderau ymchwil strategol ac arloesol Cymru
- Gwella cyllid a phartneriaethau drwy gydweithrediad a chydweithio
- Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd y Cyhoedd
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod angen gweledigaeth unedig i Gymru i wella cydlyniant, cryfhau cydweithio, a chynyddu effaith ymchwil ar bolisi, canlyniadau iechyd, ac anghydraddoldebau. Argymhellodd yr adroddiad, drwy feddwl yn wahanol, gweithio ar y cyd, a buddsoddi mewn cydlynu strategol, meithrin gallu, a datblygu gyrfaoedd, y gall Cymru greu amgylchedd APHR ffyniannus. Un sy’n darparu manteision mesuradwy i iechyd y boblogaeth, polisi, a’r economi. Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ystyried mewn sefyllfa dda i gefnogi cydlynu, rhaid rhannu a hwyluso arweinyddiaeth gyda phartneriaid – ar draws Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Prif Swyddog Meddygol, sefydliadau addysg uwch, y GIG, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Llunio dyfodol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru
PDF, 544KB
Llawrlwytho PDF - Llunio dyfodol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru (544 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Iechyd Cyhoeddus Cymru Ymchwil a Gwerthuso Uchafbwyntiau 2024 i 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ac yn cefnogi ymchwil i wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chryfhau gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru. I weld uchafbwyntiau ein hymchwil diweddaraf gweler […]
Cyhoeddwyd:
-
Optimeiddio ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru
Mae amgylchedd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd (APHR) cadarn yng Nghymru yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau o ran iechyd y boblogaeth, hyrwyddo arloesedd, a chynorthwyo twf […]
Cyhoeddwyd: 21ain Mai 2025