Brechiad oedolion: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2026
Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Mynediad ein mapCyflwyniad
Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i gynyddu brechu mewn oedolion. Gall ffynonellau sydd wedi’u cynnwys yn y map ddarparu tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn canlynol: Pa ymyriadau sy’n effeithiol o ran cynyddu’r nifer sy’n cael brechiadau ymhlith oedolion (≥18 oed)?
Prif bwyntiau
Mae ein cyfres o mapiau tystiolaeth ddigidol wedi’u cynllunio i roi mynediad strwythuredig at gorff o dystiolaeth gyfredol, lefel uchel a chadarn ar ystod o bynciau. Maent yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y ‘pyramid tystiolaeth’ h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd yn gadarn a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Eu nod yw rhoi mynediad hawdd i ymarferwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy a methodolegol gadarn, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.
Mynediad ein mapGwybodaeth dechnegol
Gwybodaeth am fapiau tystiolaeth
Mae adolygiadau tystiolaeth a chanllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y map hwn wedi’u grwpio yn ôl y boblogaeth y maent yn canolbwyntio arni a’r math o ymyriad. Fe’u harddangosir mewn map gwres rhyngweithiol. Gall rhai adolygiadau ymddangos mewn mwy nag un categori os ydynt yn cwmpasu sawl grŵp neu ymyriad.
Rydym wedi cofnodi’r lleoliadau lle cynhaliwyd ymyriadau (er enghraifft, ysgolion neu leoliadau cymunedol) a’r canlyniadau a fesurwyd. Gallwch ddefnyddio’r hidlwyr i gulhau canlyniadau yn ôl lleoliad neu ganlyniad.
Bydd clicio ar flwch yn y map gwres yn dangos rhestr o adolygiadau neu ganllawiau perthnasol. O’r fan honno, gallwch agor tudalen crynodeb ar gyfer pob un. Mae’r crynodebau hyn yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis amcanion, darganfyddiadau a chasgliadau, wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cyhoeddiad gwreiddiol. Nid ydym yn dehongli nac yn dadansoddi’r canfyddiadau hyn ein hunain. Yn hytrach rydym yn eu cyflwyno i’ch helpu i benderfynu a ddylech archwilio’r ffynhonnell lawn.
Sut mae defnyddio’r Map hwn
Mae’r map wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ymchwil yn gyflym sydd eisoes wedi’i dwyn ynghyd mewn ffordd yr ydym yn ei hystyried yn gadarn yn fethodolegol ac felly a allai fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau. Gall hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth ystyried tystiolaeth i lywio penderfyniadau.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol:
- Bod y chwiliadau a ddefnyddir i greu’r map hwn wedi’u targedu, nid ydynt yn gynhwysfawr. Nid yw’r map yn cynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael.
- Dylid defnyddio’r adolygiadau a ddangosir fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth ac nid eu defnyddio’n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach eu cymhwysedd i Gymru.
- Dylech ystyried a yw’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol, fel Cymru.
Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae’r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi’u cynnwys chwaith.
Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae’r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi’u cynnwys chwaith.
Adroddiadau perthnasol
-
Brechiad plentyndod: ymyriadau i gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn
Disgwylir y diweddariad nesaf: Ionawr 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn rhoi mynediad strwythuredig i gorff diweddar, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y […]
Cyhoeddwyd: 31ain Ionawr 2025
-
Mewnwelediadau integedig plant oedran ysgol 2026
Cefndir Mae brechiadau oedran ysgol ar gael i bob person ifanc yng Nghymru. Rhwng 2023-2026, bu’r tîm yn ymgysylltu â phobl ifanc a chynhyrchu pum adroddiad yn ymdrin ag adnoddau […]
Cyhoeddwyd:
-
Arolwg dal i fyny ar frechiadau pobl ifanc yn eu harddegau dros yr haf 2025
Cefndir yr arolwg Roedd nifer y plant oed ysgol oedd yn cael eu brechu yn gostwng, felly gofynnwyd i’r byrddau iechyd ddarparu sesiynau dal i fyny yn ystod gwyliau’r haf […]
Cyhoeddwyd:
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]
Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026
-
Adroddiad chwarterol COVER: Ionawr i Mawrth 2026
Mae’r adroddiad COVER chwarterol yn crynhoi canran y rhai sy’n cael eu himiwneiddio ymhlith plant yng Nghymru sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol rhwng misoedd Ionawr a Mawrth 2026.
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2026
-
Modelau o frechu màs mewn lleoliadau nad ydynt yn y gofal iechyd: crynodeb cyflym
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Gwnaethom gynnal y crynodeb cyflym hwn yn ystod camau cynnar pandemig COVID-19 i gefnogi’r rheini yn ceisio […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2020
Setiau data cysylltiedig
-
Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion o heintiau anadlol acíwt (ARI)
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o glwy’r pennau
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Hysbysiadau o rwbela
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Dangosfwrdd goruchwiliaeth COVID-19 cyflym Cymru
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Goruchwyliaeth brechlyn yr eryr
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 17, 2026