Tlodi plant
Mae tua 1 o bob 3 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae plant yn wynebu tlodi pan nad yw incwm eu cartref yn ddigon i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol neu ddarparu safon byw dderbyniol – sy’n golygu bod un neu fwy o flociau adeiladu iechyd ar goll. Gall olygu bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd cynhesu eu cartrefi, bwyta deiet maethlon, teithio i’r ysgol, gwaith, neu wasanaethau hanfodol, fforddio dillad, cael mynediad digidol, neu ofal plant, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol.
Mae tlodi plant yn cael ei yrru gan gyfuniad o incwm isel aelwydydd sy’n gweithio, rhwyd ddiogelwch annigonol o daliadau lles, a chostau byw uchel a chynyddol. Mae rhai mathau o deuluoedd yn wynebu risg uwch, gan gynnwys teuluoedd rhiant sengl, teuluoedd mewn tai rhent, teuluoedd ag oedolyn neu blentyn anabl, teuluoedd â thri neu fwy o blant, teuluoedd â babanod neu blant ifanc iawn, ac aelwydydd ethnig lleiafrifol.
Mae tlodi yn gymhleth ac yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Yng Nghymru, rydym weithiau’n cyfeirio at wahanol fathau o dlodi, er enghraifft: Tlodi tanwydd; Tlodi bwyd; Tlodi gwledig; Tlodi trafnidiaeth; Tlodi mislif; Tlodi pensiynwyr, a Thlodi plant. Mae tlodi yn achosi iechyd gwael, a gall iechyd gwael hefyd achosi tlodi.
Pam mae tlodi plant yn bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
anghydraddoldebau?
Gall tyfu i fyny mewn tlodi gael canlyniadau gydol oes o ran iechyd a chyfleoedd bywyd plant. Mae’n cynyddu’r tebygolrwydd o iechyd gwael, diweithdra, a dibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus yn nes ymlaen mewn bywyd. Tlodi plant yw un o brif achosion y bylchau a welwn yng nghanlyniadau iechyd a llesiant pobl ledled Cymru (a elwir hefyd yn anghydraddoldebau iechyd).
Mae tlodi yn effeithio ar iechyd a llesiant plant mewn sawl ffordd:
- Iechyd corfforol: pwysau geni is, risg uwch o ordewdra, lefelau is o weithgarwch corfforol, iechyd y geg gwaeth, risg uwch o gyflyrau hirdymor
- Iechyd meddwl: mwy o straen, gorbryder a straen emosiynol
- Datblygiad: datblygiad llai yn ystod y blynyddoedd cynnar ac yn llai parod ar gyfer yr ysgol, yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd yn eu harddegau
- Addysg: presenoldeb a chyflawniad is
- Canlyniadau yn y dyfodol: enillion is, risg uwch o ddiweithdra, iechyd gwaeth fel oedolion, disgwyliad oes a disgwyliad oes iach byrrach
Mae lleihau tlodi plant yn hanfodol er mwyn gwella iechyd plant heddiw ond hefyd er mwyn eu hiechyd fel oedolion yn y dyfodol, ac er mwyn torri cylchoedd anfantais i greu Cymru sy’n fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i wella tlodi ac iechyd plant?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod tlodi plant yn flaenoriaeth greiddiol o ran iechyd y cyhoedd ac yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae ein ffocws strategol yn cynnwys blaenoriaethu tlodi plant fel mater iechyd y cyhoedd, cryfhau dulliau data a systemau ar gyfer gweithredu uniongyrchol, a chefnogi partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ysgogi newid cydlynol.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Ffafrio polisïau sy’n lleihau tlodi plant a’i effaith niweidiol ar iechyd
- Darparu tystiolaeth, mewnwelediadau a dadansoddiad ar effeithiau tlodi plant ar iechyd
- Cefnogi partneriaid cenedlaethol a lleol i gymryd camau ataliol, cydweithredol, system gyfan
- Datblygu offer data a mewnwelediadau i nodi angen a deall gyrwyr
- Cefnogi sefydliadau i flaenoriaethu tlodi plant mewn strategaethau a chynlluniau
- Tynnu sylw at ymyriadau cost-effeithiol sy’n lleihau anghydraddoldebau
Pa gamau y dylid eu cymryd i leihau tlodi plant a gwella iechyd?
Mae tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn her barhaus a chymhleth. Mae angen i sefydliadau gydweithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i geisio lleihau tlodi plant a lleihau ei effeithiau niweidiol ar iechyd a llesiant.
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn