Neidio i'r cynnwys

Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru - 2024 - 1. Crynodeb Gweithredol

Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) sy’n rhestru’r cwestiynau ymchwil y mae gennym ddiddordeb mewn dysgu rhagor amdanynt. Rydym wedi llunio a chyhoeddi’r rhestr hon mewn perthynas â’n chwe blaenoriaeth strategol hirdymor, er mwyn galluogi ymchwilwyr, cyllidwyr a chydweithwyr i ddeall ein blaenoriaethau a chanolbwyntio eu hymdrechion er mwyn cael yr effaith fwyaf.

Rydym yn awyddus i drafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys ymchwilwyr a chyllidwyr i elwa ar ystod eang o gryfderau ac arbenigedd er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Gellir cysylltu â ni drwy Swyddfa Ymchwil a Datblygu ICC [email protected] sydd wrth law i ganfod arbenigwyr mewn meysydd penodol ar draws ICC er mwyn dechrau’r sgwrs.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ICC (2023-2026) sy’n disgrifio’r ffordd y byddwn yn gweithio i ddatblygu gwaith Ymchwil a Gwerthuso o  fewn y sefydliad ac mewn cydweithrediad â phartneriaid. I gael gwybod rhagor am y rhaglenni a’r gwasanaethau arbenigol y mae ICC yn eu darparu, ochr yn ochr â’n harbenigedd a’n blaenoriaethau iechyd cyhoeddus, gweler  Ein Cynllun Strategol (2023-2026) a’n Strategaeth Hirdymor

Sylwer, nid oes gan y cyhoeddiad hwn na’r cwestiynau ymchwil cysylltiedig unrhyw gyllid ynghlwm wrthynt. Gan fod gofynion Ymchwil a Gwerthuso ICC yn helaeth ac y byddant yn esblygu, nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’n holl feysydd o ddiddordeb. Bwriad y cyhoeddiad hwn yw dechrau sgyrsiau â phartneriaid, cyllidwyr a chydweithredwyr a chaiff ei ddiweddaru’n flynyddol. O ystyried bod angen i ni fod yn ymatebol i fygythiadau newydd i iechyd, a rhai sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft newid hinsawdd, yr argyfwng costau byw a phathogenau newydd, rydym yn fodlon ystyried ymchwil sydd y tu allan i’r meysydd a amlinellir isod, ond a allai fod yn berthnasol o hyd i bolisi neu ymarfer ICC. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2026