Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd
Cyhoeddwyd ar: 21ain Hydref 2026
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cefndir
Mae niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol yng Nghymru a gall effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a’r gymdeithas ehangach. Gall niwed effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, llesiant ariannol, perthnasoedd, cyflogaeth, addysg a thai. Er bod ymwybyddiaeth o’r niwed hwn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae bylchau pwysig yn y dystiolaeth o hyd ynghylch nodi, atal a lleihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
Yr hyn a wnaethom
Er mwyn cefnogi ymchwil, polisi ac ymarfer yn y dyfodol, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru weithdy blaenoriaethu ymchwil ar-lein dan arweiniad rhanddeiliaid. Roedd wedi’i lywio gan dystiolaeth Cymru a’r DU, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid arbenigol ac egwyddorion cydnabyddedig ar gyfer pennu blaenoriaethau ymchwil iechyd.
Yr hyn a ganfuom
Drwy’r broses hon, nodwyd pum maes o ddiddordeb ymchwil ar gyfer ymchwil i niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru, gan adlewyrchu blaenoriaethau a rennir rhanddeiliaid a meysydd allweddol ar gyfer ymchwil bellach:
- Amgylcheddau digidol a masnachol
- Atal a rheoleiddio ar lefel y boblogaeth
- Anghydraddoldebau Iechyd a Phoblogaethau sy’n Agored i Niwed
- Ymyrraeth gynnar ar draws cwrs bywyd
- Ymateb systemau, triniaeth ac adferiad
Lawrlwythiadau adroddiadau
Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd
PDF, 480KB
Llawrlwytho PDF - Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd (480 KB)
Llawrlwytho PDF