Adroddiadau
Adroddiad monitor Cyllun Gwên 2024 i 2025
Mae 32.4% o blant 5 oed yng Nghymru wedi profi pydredd dannedd. Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig fod ddwywaith yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd ac i gael tair gwaith cymaint o ddannedd wedi’u heffeithio â phydredd. Mae rhaglen Cynllun Gwên yn gweithio i atal pydredd dannedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
- Darparwyd hyfforddiant iechyd y geg i 253 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr a 1,570 o weithwyr proffesiynol gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
- Dosbarthwyd 37,333 o becynnau brwsio dannedd cartref a 16,433 o gwpanau hyfforddi bwydo i deuluoedd gan ymwelwyr iechyd yn ystod ymweliadau wedi’u trefnu gan Raglen Plant Iach Cymru.
- Cymerodd 60,586 o blant ran mewn rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn 667 o feithrinfeydd a 557 o ysgolion. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 88%.
- Derbyniodd 4,012 o staff meithrinfeydd ac ysgolion hyfforddiant gan y tîm Cynllun Gwên i gyflwyno eu rhaglen brwsio dannedd.
- Cynhaliwyd 3891 o ymweliadau sicrhau ansawdd yn ystod y flwyddyn, ac adroddodd 82% o leoliadau eu bod yn brwsio bob diwrnod Ysgol.
- Dosbarthwyd 164,678 o becynnau brwsio dannedd cartref mewn meithrinfeydd ac ysgolion i blant a oedd yn cymryd rhan yn y Cynllun Gwên, i annog brwsio dannedd ddwywaith y dydd gartref.
- Hwylusodd 677 o leoliadau ymweliadau gan weithwyr proffesiynol deintyddol Cynllun Gwên i roi farnais fflworid ar ddannedd plant.
- Derbyniodd 30,614 o blant farnais fflwroid ddwywaith yn ystod y flwyddyn, a derbyniodd 12,228 o blant farnais fflwroid unwaith. Roedd cyfradd rhieni/gofalwyr yn cydsynio i gymryd rhan ar gyfartaledd yn 77%.