Neidio i'r cynnwys

Ymchwil

Ein rôl mewn ymchwil

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ac yn cefnogi ymchwil i wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chryfhau gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt i gynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio polisi, ymarfer a gwelliannau i iechyd y boblogaeth.

Rydym hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth lunio ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd a helpu i gyd-ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol y maes yng Nghymru.

I weld uchafbwyntiau ein hymchwil diweddaraf gweler – Adroddiad Uchafbwyntiau Ymchwil 2024-2025.

Ein strategaeth ymchwil a’n blaenoriaethau

Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026), sy’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

1. Meithrin rhagoriaeth ymchwil

2. Datblygu capasiti a gallu

3. Cryfhau partneriaethau

4. Cynyddu cyfranogiad ac effaith

Caiff ymchwil ei goruchwylio ar draws y sefydliad i sicrhau ei bod yn cefnogi blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cyfrannu at Gymru iachach.

Rydym wedi cyhoeddi ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil a Gwerthuso (2024), sy’n amlinellu ein meysydd blaenoriaeth ar gyfer cydweithio a buddsoddi. Gobeithiwn y bydd y rhain yn helpu ymchwilwyr a phartneriaid i weld y meysydd y mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fwyaf o ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd ymchwil, cydweithio a chyllido newydd.

Partneriaethau strategol a chydweithio

Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, sefydliadau’r GIG, awdurdodau lleol, cymunedau, cyllidwyr a diwydiant i ddatblygu ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau mawr ym maes iechyd y cyhoedd. Rydym hefyd yn gweithio ar draws rhwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gysylltu polisi, ymarfer, arbenigedd academaidd a chymunedau mewn ffyrdd sy’n cefnogi gwaith atal, arloesi ac effaith. Anfonwch e-bost i: [email protected] i drafod cyfleoedd ymchwil neu weithio mewn partneriaeth.

Newyddion, digwyddiadau a diweddariadau

Cylchlythyr Misol

Mae ein cylchlythyr misol yn rhannu manylion am gyfleoedd ymchwil, digwyddiadau a chyhoeddiadau. Cysylltwch â’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu i gofrestru neu i hyrwyddo eitem: [email protected].

Cynhadledd Ymchwil a Gwerthuso

Rydym yn cynnal Cynhadledd Ymchwil a Datblygu flynyddol bob mis Rhagfyr i rannu dysgu, arddangos canlyniadau a chefnogi rhwydweithio.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr Ymchwil a Gwerthuso misol i gael manylion digwyddiadau sydd ar ddod a chyfleoedd ariannu.

Cymorth ymchwil a llywodraethu

Y Swyddfa Ymchwil a Datblygu yw gwasanaeth cymorth ymchwil canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n helpu staff a phartneriaid i ddatblygu, llywodraethu a chyflwyno ymchwil a gwerthuso o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys sefydlu astudiaethau, sicrhau cymeradwyaeth, ceisiadau am gyllid, adolygu gan gymheiriaid a chyngor arbenigol.

Os ydych chi’n aelod o staff neu’n ymchwilydd allanol sy’n cynllunio astudiaeth sy’n cynnwys staff, gwasanaethau, data, safleoedd neu adnoddau eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru, cysylltwch â’r tîm Ymchwil a Datblygu i gael cyngor ar gymeradwyaeth, llywodraethu a sefydlu astudiaethau.

Gwerthuso a’r tîm gwerthuso

Mae gwerthuso yn rhan bwysig o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall yr hyn sy’n gweithio, ar gyfer pwy ac o dan ba amgylchiadau. Mae ein gwaith gwerthuso yn cefnogi dysgu, gwelliant ac effaith ar draws amrywiaeth eang o raglenni iechyd y cyhoedd, gyda ffocws cryf ar anghydraddoldebau a mynediad teg at wasanaethau ac ymyriadau.

Mae tîm gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi gwerthuso o ansawdd uchel ar draws y sefydliad drwy ddarparu cyngor arbenigol, canllawiau ymarferol a chyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth drwy safonau gwerthuso, clinigau galw

heibio, Cymuned Ymarfer Gwerthuso a’r rhaglen Hyrwyddwyr Gwerthuso, sy’n helpu staff i feithrin hyder a chryfhau gwerthuso o gam cynnar dylunio rhaglenni a gwasanaethau. Cysylltwch â [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu data iechyd y boblogaeth a gofod dichonoldeb SAIL

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cryfhau ei rôl mewn cysylltu data iechyd y boblogaeth i gefnogi ymchwil a all ddeall patrymau iechyd, anghydraddoldebau a chanlyniadau ledled Cymru yn well. Mae’r gwaith hwn yn helpu i greu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil sy’n seiliedig ar ddata, drwy ddwyn ynghyd arbenigedd iechyd y cyhoedd a mynediad diogel at ddata cysylltiol ar lefel poblogaeth.

Mae ein tîm cysylltu data iechyd y boblogaeth yn cefnogi datblygiad y gwaith hwn, gan gynnwys drwy’r gofod dichonoldeb ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).

Mae hyn yn helpu staff Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio a ellir defnyddio data cysylltiol i ateb cwestiynau ymchwil pwysig, datblygu astudiaethau cryfach a meithrin gallu mewn gwyddor data poblogaeth.

Cyfranogiad a dylanwad y cyhoedd

Rydym wedi ymrwymo i wneud gwaith ymchwil sy’n berthnasol, yn gynhwysol ac sy’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cyfranogiad y cyhoedd, a gwella sut rydym yn rhannu effaith ymchwil ar bolisi, gwasanaethau ac iechyd y boblogaeth.

Dogfennau allweddol a dolenni

  1. Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023-2026
  2. Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil a Gwerthuso
  3. Adroddiad Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd
  4. Adroddiad Uchafbwyntiau Ymchwil 2024-2025
  5. Cofrestrwch i gael y cylchlythyr Ymchwil a Gwerthuso misol

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn