Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cyfathrebu i fynd i’r afael â phryderon ac annog derbyn brechlynnau: crynodeb cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2020

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Gwnaethom gynnal y crynodeb cyflym hwn yn ystod camau cynnar y pandemig COVID-19 i nodi ffyrdd o gyfathrebu â’r cyhoedd a phroffesiynau gofal iechyd i fynd i’r afael â phryderon am frechlyn COVID-19 ac annog ei dderbyn.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliom chwilio am y crynodeb cyflym hwn yn 2020 a chynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2011 a 2020.

Beth wnaethom ei ganfod

Adnabuwyd pum adolygiad systematig, dau ganllaw, dwy astudiaeth ymyrraeth, dwy astudiaeth ansoddol a 12 arolygon trawsadrannol. Adnabuwyd rhwystrau ac ysgogwyr amrywiol i dderbyn brechlynnau, ochr yn ochr â sawl strategaeth gyfathrebu i annog derbyn ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd. Cyflwynwyd hefyd ystyriaethau pwysig ar gyfer ymgyrchoedd brechu masnachol COVID-19 yn y dyfodol

Beth mae hyn yn ei olygu

Gall y crynodeb hwn helpu i adnabod prif bwyntiau ar y pwnc. Fodd bynnag, nid yw’r ymchwil a gynhwysir wedi’i gwerthuso ar gyfer ansawdd ac mae’n tarddu o amrywiaeth eang o ddeunydd cyhoeddus.

Gwybodaeth dechnegol

Rydym wedi chwilio trwy gronfeydd data academaidd a llenyddiaeth las i adnabod ac adolygu tystiolaeth ymchwil er mwyn ateb y cwestiwn canlynol:

  • Pa ddulliau effeithiol allai fod ar gyfer cyfathrebu gyda’r cyhoedd (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol gofal iechyd) i fynd i’r afael â phryderon am y brechlyn ac annog ei ddefnyddio?

Geirfa

Adolygiad systematig: Adolygiad sy’n crynhoi’r dystiolaeth ar gwestiwn adolygu wedi’i lunio’n glir yn unol â phrotocol wedi’i ddiffinio ymlaen llaw, gan ddefnyddio dulliau systematig ac eglur i nodi, dewis ac arfarnu astudiaethau perthnasol, ac i echdynnu, dadansoddi, casglu ac adrodd eu canfyddiadau. Gall ddefnyddio technegau ystadegol, megis meta-ddadansoddiad, neu beidio.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cyfathrebu i fynd i'r afael â phryderon ac annog derbyn brechlynnau: crynodeb cyflym

PDF, 461KB

Llawrlwytho PDF - Cyfathrebu i fynd i'r afael â phryderon ac annog derbyn brechlynnau: crynodeb cyflym (461 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig