Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Hygyrchedd brechu torfol: crynodeb cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2020

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Cynhaliwyd y crynodeb cyflym hwn gennym yn ystod camau cynnar pandemig COVID-19.

Ein nod oedd ateb y cwestiynau canlynol:

  • Pa grwpiau (yn enwedig ymhlith grwpiau blaenoriaeth tebygol) a allai ei chael yn anodd, neu a allai fod yn amharod, i fynychu lleoliadau torfol?

Sut y gellid cynyddu’r nifer sy’n cael y brechlyn ymhlith grwpiau anodd eu.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2020 ac mae’n cynnwys tystiolaeth o 2009 i 2020.

Beth wnaethom ei ganfod

Ychydig iawn o dystiolaeth ymchwil a ganfuwyd i ateb y cwestiynau hyn. Nodwyd tri ar ddeg o ffynonellau a oedd yn berthnasol yn fras, gan gynnwys arolygon, astudiaethau ansoddol ac astudiaethau achos. Nid oedd unrhyw ffynonellau yn cynnwys data o’r DU.

  • Mae poblogaethau anodd eu cyrraedd yn cynnwys:
  • Pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig
  •  Mudwyr, grwpiau crwydrol, ac unigolion digartref
  • Lleiafrifoedd ethnig a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau iaith neu ddiwylliannol
  • Unigolion sy’n gaeth i’r tŷ oherwydd problemau symudedd neu anabledda
  •  Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau eu Hunain
  • Poblogaethau heb ddogfennau
  • Unigolion LHDT+ (na allant bob amser geisio gofal iechyd)
  • Pobl ag anawsterau dysgu neu anableddau
  • Pobl ar incwm isel neu’n byw mewn tlodi

Negeseuon allweddol ar draws y dystiolaeth:

• Darparu gwybodaeth briodol a sensitif ar gyfer gwahanol grwpiau
• Defnyddio safleoedd brechu cyfarwydd ac hawdd eu cyrraedd
• Gweithio gyda ffynonellau cymunedol dibynadwy
• Cynnig trafnidiaeth neu glinigau symudol i wella mynediad

Strategaethau ychwanegol ar gyfer grwpiau penodol:


• Lleiafrifoedd ethnig: defnyddio cyfathrebu wedi’i deilwra’n ddiwylliannol, cyfieithwyr, hyrwyddwyr cymunedol, ac ymgyrchoedd addysgol. Rhannu negeseuon cyson drwy’r cyfryngau a sianeli cymdeithasol.
• Pobl hŷn: cynnal clinigau mewn lleoliadau cyfarwydd, trefnu trafnidiaeth, neu gynnig brechiadau cartref.
• Digartref: darparu clinigau mewn llochesi neu mewn mannau lle maent yn ymgynnull.
• Cymunedau gwledig: cynnig brechiadau yn y gweithle neu drafnidiaeth i safleoedd.
• Pobl anabl: defnyddio unedau symudol neu ymweliadau cartref a lleoliadau clinig cyfarwydd.
• Mewnfudwyr: osgoi gofyn am statws mewnfudo. Defnyddio gweithwyr iechyd dwyieithog a deunyddiau priodol yn ddiwylliannol.

Gwybodaeth dechnegol

Gall y crynodeb cyflym hwn fod yn ddefnyddiol i nodi pwyntiau allweddol ar y pwnc. Fodd bynnag, nid yw’r ymchwil a gynhwysir wedi’i hasesu o ran ansawdd ac mae’n deillio o ystod eang o ddeunydd cyhoeddedig.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Hygyrchedd brechu torfol: crynodeb cyflym

PDF, 307KB

Llawrlwytho PDF - Hygyrchedd brechu torfol: crynodeb cyflym (307 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig