Neidio i'r cynnwys

Ysmygu a fêpio

Ysmygu yw prif achos clefydau a marwolaethau cynamserol y gellir eu hatal yng Nghymru o hyd.

Ysmygu yw prif achos clefydau a marwolaethau cynamserol y gellir eu hatal yng Nghymru o hyd

Rhwng 2020 a 2022, roedd cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau bob blwyddyn ymhlith oedolion 35 oed a hŷn y gellid eu priodoli i ysmygu – sef mwy nag un ym mhob deg marwolaeth yn y grŵp oedran hwn. Mae mwy na 17,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn a achosir gan gyflyrau sy’n gysylltiedig ag ysmygu.

Mae ysmygu hefyd yn un o brif achosion anghydraddoldebau yng Nghymru

Mae oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron dair gwaith yn fwy tebygol o ysmygu na’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae’r gwahaniaethau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn canlyniadau iechyd, nifer y marwolaethau a’r defnydd o ofal iechyd.

Mae ysmygu yn un o ysgogwyr mawr tlodi ac anghydraddoldeb economaidd.

Mae’r oedolyn cyffredin sy’n ysmygu yn y pumed mwyaf difreintiedig o ardaloedd yng Nghymru yn gwario £38.70 yr wythnos ar ysmygu. Mae hyn yn cyfateb i 42% o uchafswm wythnosol y Lwfans Ceisio Gwaith, a mwy na phumed o uchafswm y Taliad Annibyniaeth Personol. Amcangyfrifir bod ysmygwyr sy’n byw mewn tlodi yn gwario 10-12% o’u hincwm cyfan ar ysmygu.

Mae ysmygu hefyd yn niweidio cymunedau: amcangyfrifir bod £1,776 fesul ysmygwr yn gadael economïau lleol bob blwyddyn. Ar lefel y DU, mae modelu’n awgrymu y byddai gostyngiad o 10% yn y gwariant ar dybaco yn rhoi hwb o £1.86 biliwn i’r economi ac yn creu dros 31,000 o swyddi llawnamser.

Mae ysmygu yn rhoi baich enfawr ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru

Mae triniaeth a chymorth ar gyfer cyflyrau a achosir gan ysmygu yn costio mwy na £650 miliwn y flwyddyn – mae hyn yn fwy na 5% o gyfanswm cyllideb Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Wrth ystyried costau eraill, fel colli cynhyrchiant oherwydd salwch, mae’r ffigwr ar gyfer Cymru yn codi i £1.56 biliwn y flwyddyn.

Cyffredinrwydd Ysmygu

Mae’r polisi ar ysmygu, ynghyd ag atal a rhoi’r gorau iddo, wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng un rhan o dair dros y degawd diwethaf, ac maent bellach yn debyg i’r rhai yn Lloegr. Mae’r Arolwg Cenedlaethol i Gymru diweddaraf yn amcangyfrif bod 10% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu. Pe na bai cyfraddau ysmygu wedi newid yn y cyfnod hwn, byddai mwy na 150,000 yn rhagor o ysmygwyr. Fodd bynnag, mae rhagamcanion ynghylch cyffredinrwydd yn dangos nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed strategol o 5% neu lai o oedolion sy’n ysmygu erbyn 2030.

Mae cyfle enfawr i Gymru arwain y ffordd wrth gyflawni gostyngiad sy’n ymestyn dros genedlaethau o ran nifer y bobl sy’n ysmygu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ‘Cymru Heb Fwg’ – sef y bydd llai na 5% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu erbyn 2030 – ac mae gweithgareddau i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, ac i atal pobl rhag dechrau, yn allweddol i gyflawni hynny. Mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn galluogi llywodraeth a system iechyd y cyhoedd uchelgeisiol i gyflwyno polisïau sy’n arwain y byd. Nod y rhain yw dad-normaleiddio ysmygu a sicrhau y bydd llai o bobl yn cael mynediad at gynhyrchion a fydd yn lladd y rhan fwyaf o’u defnyddwyr os na fyddant yn rhoi’r gorau iddo. Mae polisïau ‘cam olaf’ pellach wedi’u diffinio a’u modelu’n dda, ac maent yn ennill tir yng Nghymru a’r DU.

Helpa Fi i Stopio

Cyrhaeddodd Helpa Fi i Stopio – sef y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru – 7.1% o’r rhai yr amcangyfrifir eu bod yn ysmygu yn 2024-25 (h.y. o leiaf un sesiwn rhoi’r gorau i ysmygu a phennu dyddiad i roi’r gorau iddo). Gwelwyd canlyniadau tebyg i ysmygwyr oedd yn byw yn y pumed o ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r pumed lleiaf difreintiedig; yn Lloegr, y ffigur oedd 4.9%. Mae’r llwyddiant hwn wedi arwain Llywodraeth Cymru i godi’r targed ar gyfer nifer yr ysmygwyr sy’n cael triniaeth bob blwyddyn i 7.5% o’r boblogaeth sy’n ysmygu. Mae’r system rhoi’r gorau i ysmygu yn darparu mecanwaith ar gyfer buddsoddiad wedi’i dargedu mewn gweithgareddau ataliol effeithiol a chost-effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ymyrraeth brofedig sy’n seiliedig ar dystiolaeth, system integredig i nodi ysmygwyr mewn lleoliadau ledled Cymru, eu cefnogi ac ymgysylltu â nhw, a nifer gynyddol o opsiynau digidol.

Fepio yng Nghymru

Mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n fepio, a’r dirwedd newidiol o ran technoleg, cymdeithas a masnach sydd wedi galluogi’r cynnydd hwn, yn achosi pryder cynyddol – yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc, sef y grŵp â’r lefelau fepio uchaf. Er bod fepio’n llawer llai niweidiol nag ysmygu, ac er bod tystiolaeth y gall fêps helpu rhai ysmygwyr i roi’r gorau i ysmygu, mae’r risg y bydd cenhedlaeth newydd yn dibynnu ar nicotin yn bryder gwirioneddol o ran iechyd y cyhoedd. Mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn darparu fframwaith polisi ar gyfer rheoli’r tensiynau hyn, ac mae’r gwaith o ddatblygu llwybrau effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer rhoi’r gorau i fepio hefyd yn flaenoriaeth i’r Ddeddf. 

Gwaith y Rhaglen Tybaco, Fêps a Dibyniaeth ar Nicotin

Rydym yn lleihau’r defnydd o dybaco a nicotin trwy ddull cynhwysfawr, sy’n cyfuno gwaith ataliol, cymorth i roi’r gorau i’w defnyddio ac arweinyddiaeth system. Rydym yn gweithio ar draws y cylch bywyd, gan roi pwyslais ar ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag dibynnu ar nicotin wrth barhau i gefnogi pobl sy’n ysmygu i roi’r gorau iddo ar yr un pryd.

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd â pholisi cenedlaethol a newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a grëwyd gan y Ddeddf Tybaco a Fêps. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, awdurdodau lleol, y sector addysg, gweithleoedd, sefydliadau cymunedol a’r sector gwirfoddol. Mae’r broses gyflawni yn cyfuno dylanwadu ar bolisi, gwella gwasanaethau, marchnata cymdeithasol ac arloesi digidol i gefnogi camau gweithredu ar raddfa eang a lleihau anghydraddoldebau.

Gwaith Ataliol a Chenhedlaeth Ddi-fwg

Mae atal pobl rhag dechrau ysmygu yn elfen allweddol o’n gwaith i leihau nifer yr ysmygwyr a’r niwed cysylltiedig, a hefyd i wireddu’r uchelgais o greu Cymru Ddi-fwg erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda rhaglen Ysgolion Iach Cymru i lunio canllawiau ac adnoddau ar gyfer ysgolion, a gweithio gyda darparwyr addysg bellach ac uwch a gweithleoedd i ddatblygu dulliau wedi’u targedu ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Ein nod yw manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a grëwyd gan Ddeddf Tybaco a Fêps (2026) i gyfyngu ymhellach ar werthu a hyrwyddo tybaco a fêps, a chreu Cenhedlaeth Ddi-fwg.

Dad-normaleiddio

Rydym yn cydosod y dystiolaeth i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar ehangu’r ystod o fannau cyhoeddus awyr agored di-fwg, ac ar ymestyn hyn i gynnwys mannau cyhoeddus dan do a mannau yn yr awyr agored lle na chaniateir defnyddio dyfeisiau fepio, a hyn gan ddefnyddio pwerau a roddwyd gan y Ddeddf Tybaco a Fêps. Yn ogystal, rydym yn datblygu rhaglen waith i hyrwyddo cartrefi di-fwg, er mwyn amddiffyn babanod, plant a grwpiau eraill sy’n agored i niwed, gan gynnwys menywod beichiog.

Helpa Fi i Stopio

Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau Helpa Fi i Stopio sydd wedi’u lleoli mewn Byrddau Iechyd a fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru, â’r nod o wella’r gefnogaeth ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu. Rydym wedi datblygu offer digidol o ansawdd uchel, gan gynnwys cynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu ar-lein a’r ap Helpa Fi i Stopio, er mwyn cyrraedd mwy o’r boblogaeth sy’n ysmygu yn gynt. Mae gwaith datblygu pellach ar lwybrau yn y system ehangach ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu yn cynnwys datblygu ymyriadau i leihau anghydraddoldebau ac i gefnogi’r broses o roi’r gorau i fepio yn fwy effeithiol.

Mae’r rhaglen ‘Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty’ wedi cyflymu’r nifer sy’n dechrau ar y broses o roi’r gorau i ysmygu ymhlith y poblogaethau mwyaf agored i niwed dros y tair blynedd diwethaf. Mae ffocws presennol y gwaith yn cynnwys gwaith pellach i ddatblygu hyfforddiant, cymorth i staff ac integreiddio systemau ar hyd y llwybrau cyn-derbyn a rhyddhau. Bwriad y gwaith hwn yw gwella’r broses o nodi ac ymgysylltu’n gynnar, lleihau nifer y bobl sy’n gadael y broses, a sicrhau bod cynifer o ysmygwyr â phosibl yn rhoi’r gorau i ysmygu.

Lleihau Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd

Wrth weithio ar y cyd â thimau mamolaeth ac iechyd y cyhoedd mewn Byrddau Iechyd, mae’r rhaglen hon yn cryfhau llwybrau rhoi’r gorau i ysmygu o fewn gwasanaethau mamolaeth, ac mae’n cefnogi menywod beichiog sy’n ysmygu i roi’r gorau iddo. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar wella darpariaeth gwasanaethau, ymgorffori arferion gorau a gweithio mewn partneriaeth i gynyddu’r nifer o bobl sy’n rhoi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd.

Marchnata Cymdeithasol a Chymorth Digidol

Mae ymgyrchoedd marchnata cymdeithasol wedi’u targedu yn y cyfryngau torfol yn hyrwyddo atal ysmygu a chymorth i roi’r gorau iddo. Maent hefyd yn annog pobl i geisio rhoi’r gorau i ysmygu; mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd fel ‘Torri’r Gafael’, sy’n defnyddio hysbysebu ar y teledu, sianeli’r cyfryngau cymdeithasol ac astudiaethau achos o’r byd go ‑iawn, ynghyd ag ymgyrchoedd sy’n targedu oedolion ifanc trwy ddylanwadwyr. Mae cymorth digidol i ysmygwyr a phobl sy’n fepio’n cael ei ehangu trwy adnoddau ar-lein, cymorth rhyngweithiol ar wefan Helpa Fi i Stopio, ac ap i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu. Mae gwaith hefyd ar y gweill i gynllunio gwasanaeth cenedlaethol i helpu oedolion i roi’r gorau i fepio, a llwybr i helpu plant a phobl ifanc i roi’r gorau i fepio.

Data ac ymchwil

Mae Helpa Fi i Stopio yn adnodd unigryw sy’n gweithredu fel platfform i gefnogi arloesi ac fel cronfa ar gyfer gwybodaeth fanwl am ysmygwyr yng Nghymru a’u hanghenion. Mae gennym raglen uchelgeisiol o ymchwil a gwaith gwerthuso i ddeall a chefnogi ysmygwyr trwy nodi, treialu ac ehangu ymyriadau effeithiol.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn