Cost ysmygu yng Nghymru
Awduron: Rajendra Kadel, Brendan Collins, Chris Emmerson, Mariana Dyakova, Hannah Thomas, Aronrag Meeyai, Cathy Madge, Sumina Azam
Cyhoeddwyd ar: 9fed Gorffennaf 2026
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cefndir a chyd-destun strategol
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli tybaco dros y degawdau diwethaf ac mae ganddi ymrwymiad polisi cryf i sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030. Fodd bynnag, mae tua un o bob saith oedolyn yn dal i ysmygu, gyda chyffredinrwydd ysmygu yn parhau i fod yn sylweddol uwch mewn cymunedau mwy amddifad. Mae ysmygu yn parhau i osod baich sylweddol ar wasanaethau iechyd, yr economi a’r amgylchedd yng Nghymru, ond nid yw cost lawn ysmygu yn cael ei chasglu’n rheolaidd mewn un lle. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yng Nghymru am gost ysmygu wedi dyddio ac yn aml yn seiliedig ar ddulliau cyfyngedig, gan leihau ei pherthnasedd i heriau polisi presennol. Ar adeg o gyllid cyhoeddus cyfyngedig ac anghydraddoldebau iechyd parhaus, mae asesiad cyfredol a chynhwysfawr o gostau ysmygu yn hanfodol er mwyn llywio polisi, cefnogi ymdrechion atal ac arwain gweithredu teg ledled Cymru.
Mae’r gwaith hwn yn helpu i gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru a pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr uchelgais am Gymru ddi-fwg. Mae’n darparu dadansoddiad manwl o gostau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ar draws saith maes allweddol: derbyniadau i’r ysbyty, presenoldeb cleifion allanol, gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau presgripsiwn, gofal cymdeithasol, colli cynhyrchiant ac effaith amgylcheddol. Mae’r costau’n cael eu dadansoddi yn ôl rhyw, cwintel amddifadedd ac awdurdod lleol, gan roi cipolwg gwerthfawr ar raddfa, ysgogwyr a dosbarthiad niwed sy’n gysylltiedig ag ysmygu ledled Cymru, a chryfhau’r achos dros atal cynnar ac ymyrraeth wedi’i thargedu.
Er bod y dadansoddiad yn canolbwyntio ar ysmygu tybaco, gallai gwaith pellach hefyd archwilio effeithiau iechyd ac economaidd e-sigaréts a fepio, a all hefyd achosi niwed.
Canfyddiadau allweddol
Cost gyffredinol ysmygu
- Mae ysmygu yn costio £1.56 biliwn i Gymru bob blwyddyn, gan greu baich ariannol sylweddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchiant a’r amgylchedd.
- Mae cost flynyddol ysmygu yn cyfateb i £499 y pen, £622 yr oedolyn, a £4,661 i bob oedolyn sy’n ysmygu yng Nghymru.
- Amcangyfrifwyd bod costau blynyddol sy’n gysylltiedig ag ysmygu fel a ganlyn:
- £670.0 miliwn o ganlyniad i golli cynhyrchiant
- £241.2 miliwn oherwydd effeithiau amgylcheddol
- £210.2 miliwn ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty
- £196.2 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol
- £94.0 miliwn ar gyfer presgripsiynau
- £78.3 miliwn ar gyfer gofal cleifion allanol
- £71.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu
- Mae’r £650 miliwn a wariwyd ar drin a chefnogi ysmygwyr sy’n profi salwch ac anabledd hirdymor yn cynrychioli 5% o gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
- Amcangyfrifir bod ysmygu yn arwain at golli 143,264 o flynyddoedd bywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd (QALYs) bob blwyddyn, gyda gwerth y colledion hyn mewn ansawdd bywyd yn cael ei amcangyfrif rhwng £2.86 biliwn a £10.03 biliwn.
Ysmygu ac anghydraddoldebau
- Mae ysmygu yn yr ardaloedd mwyaf amddifad (22.6%) yn fwy na thair gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf amddifad (6.8%), gan adlewyrchu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ehangach.
- Mae bron i draean o gyfanswm y costau sy’n gysylltiedig ag ysmygu (£489.8 miliwn; 31.4%) wedi’u crynhoi yn y pumed rhan fwyaf amddifad o’r boblogaeth, o’i gymharu â £169.4 miliwn (10.9%) yn y pumed rhan leiaf amddifad.
- Mae anghydraddoldebau i’w gweld yn gyson ar draws y graddiant amddifadedd ym mhob categori cost, yn enwedig mewn perthynas â cholledion cynhyrchiant a chostau gofal cymdeithasol.
- Gwelir amrywiad sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Caerdydd sydd â’r costau mwyaf sy’n gysylltiedig ag ysmygu (£171.4 miliwn), ac yna Rhondda Cynon Taf (£163.1 miliwn) ac Abertawe (£111.7 miliwn). Gyda’i gilydd, mae’r tair ardal hyn yn cyfrif am bron i 29% o gyfanswm cost ysmygu yng Nghymru.
- Mae gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol yn adlewyrchu amrywiadau mewn cyfraddau ysmygu, strwythur y boblogaeth, amddifadedd a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd.
- Roedd dynion yn gyfrifol am gyfran ychydig yn fwy o gyfanswm y costau sy’n gysylltiedig ag ysmygu (£807.6 miliwn; 52%) na menywod (£753.7 miliwn; 48%), gyda’r gwahaniaeth mwyaf i’w weld yng nghostau derbyniadau i’r ysbyty.
- Mae baich economaidd colledion QALY yn disgyn yn anghymesur ar ddynion ac ar y cymunedau mwyaf amddifad, lle mae’r colledion yn fwy na thair gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf amddifad.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cost ysmygu yng Nghymru
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Cost ysmygu yng Nghymru (3 MB)
Llawrlwytho PDF