Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC)
Mae Canolfan Gydweithredol World Health Organization (WHO CC) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant’ wedi’i dynodi ym mis Mawrth 2018 ac wedi’i hailddynodi am gyfnod pellach o bedair blynedd ym mis Mawrth 2022. Y Ganolfan yw’r gyntaf ac unig WHO CC yn y maes arbenigedd hwn yn y byd, yn rhan o rwydwaith byd-eang o dros 800 o Ganolfannau Cydweithredol mewn mwy nag 80 o wledydd. Mae hyn yn adeiladu ar bartneriaeth hirsefydlog gyda World Health Organization, gan weithio’n agos gyda Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi ar Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal (Swyddfa Fenis), yn ogystal â swyddfeydd a rhwydweithiau WHO eraill.
Mae’r WHO CC wedi bod yn datblygu, casglu, defnyddio a rhannu arbenigedd, tystiolaeth, dulliau ymarferol ac offer arloesol ar sut i fuddsoddi er mwyn gwella iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau iechyd, adeiladu cymunedau cryfach a systemau mwy gwydn o fewn ac y tu hwnt i ffiniau Cymru. Mae’n llywio ac yn hyrwyddo polisïau cynaliadwy, seiliedig ar dystiolaeth ac ar fewnbwn pobl; gan gofleidio egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth a gwerth cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant cenedlaethau presennol a’r dyfodol, gan ysgogi datblygiad cynaliadwy a bywydau llewyrchus i bawb, heb adael neb ar ôl.
Mae ein gwaith yn cefnogi’r WHO a gwledydd eraill i weithredu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (y Nodau Datblygu Cynaliadwy), Rhaglen Waith Gyffredinol Pedwerydd ar Ddeg WHO 2025–2028, a Rhaglen Waith Ewropeaidd WHO ‘United Action for Better Health’. Yn genedlaethol, mae’n helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Ffyniant i Bawb: cynllun gweithredu economaidd, a’r cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol Cymru Iachach, gan adeiladu ar egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb a gwerth cymdeithasol; meddwl tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chyfranogi. Mae gwaith y WHO CC yn cryfhau ein cydweithrediadau a’n partneriaethau Ewropeaidd a byd-eang; yn galluogi gwaith traws-sector ac amlddisgyblaethol mwy effeithiol; ac yn agor cyfleoedd amrywiol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil, dysgu o brofiad ac arfer da; a datblygu ein pobl a’n sefydliadau, gan gyflawni Strategaeth Hirdymor ac Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ail-ddynodi WHO CC 2022 – 2026
Mae rhaglen waith newydd pedair blynedd y WHO CC yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth wyddonol a pholisi ac arbenigedd i adeiladu capasiti a gweithredu polisïau rhyng-sector effeithiol ar gyfer iechyd a chydraddoldeb ar draws cwrs bywyd. Mae hefyd yn bwriadu arloesi a manteisio ar ddulliau ac offer economaidd ac amlddisgyblaethol i gefnogi datblygu Economi Llesiant yng Nghymru, gan archwilio a nodi atebion i heriau byd-eang megis y bwlch iechyd sy’n ehangu ac anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd, ymateb ac adferiad COVID-19, a newid hinsawdd. Gallwch ddarllen mwy am ail-ddynodi’r WHO CC yma.
Telerau cyfeirio wedi’u hadnewyddu:
TOR 1: Darparu tystiolaeth wyddonol a pholisi ac arbenigedd i’r WHO, gan gefnogi cymorth technegol uniongyrchol i Aelod-wladwriaethau i adeiladu capasiti a gweithredu polisïau rhyng-sector effeithiol sy’n mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a chydraddoldeb ar draws cwrs bywyd.
TOR 2: Arloesi a manteisio ar fethodolegau economaidd a dulliau amlddisgyblaethol i gefnogi’r WHO i weithredu’r fenter Economi Llesiant.
TOR 3: Darparu tystiolaeth a chefnogaeth i’r WHO i gynnull deialogau rhanddeiliaid a chreu gofod cyffredin ar gyfer archwilio a nodi atebion i heriau hanfodol ym maes cydraddoldeb iechyd.
| Gweithgareddau | Disgrifiad |
|---|---|
| Gweithgaredd 1 | Darparu cymorth technegol i’r WHO i lywio a chyflymu gweithredu ac atebion ar draws Aelod-wladwriaethau er mwyn rhoi cydraddoldeb iechyd wrth wraidd pob polisi a buddsoddiad. |
| Gweithgaredd 2 | Darparu arbenigedd technegol a mewnbwn i helpu’r WHO i gryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn llesiant a chydraddoldeb iechyd, a gweithredu Economi Llesiant ar draws Aelod-wladwriaethau. |
| Gweithgaredd 3 | Symbylu tystiolaeth, arferion da a dulliau arloesol i helpu’r WHO i gryfhau Iechyd a Chydraddoldeb ym mhob Polisi, er mwyn cyflawni datblygiad cynaliadwy heb adael neb ar ôl. |
| Gweithgaredd 4 | Cefnogi’r WHO i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth a sbarduno buddsoddiad i adeiladu capasiti a gwytnwch i atal adfyd, trawma ac anafiadau ar draws cwrs bywyd. |
Dros y pedair blynedd diwethaf fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rôl hanfodol wrth sefydlu a chryfhau ei effaith sefydliadol, yn ogystal â rôl Cymru fel dylanwadwr byd-eang a safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd a ffyniant i bawb. Mae rhai o brif lwyddiannau Canolfan Gydweithredol WHO Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys:
- Galluogi a chyflawni Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, gan wella gwelededd ac effaith Cymru ar y llwyfan byd-eang.
- Sefydlu’r fenter genedlaethol gyntaf ar gyfer Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), gan gymhwyso fframwaith a methodoleg arloesol y WHO i helpu lleihau’r bwlch tegwch iechyd yng Nghymru. Dysgwch fwy am WHESRi yma.
- Datblygu portffolio o waith i gryfhau’r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau, gan ddatblygu offer, canllawiau a rhwydweithiau arloesol.
- Datblygu portffolio o waith i fynd i’r afael ag adfyd a thrawma ar draws cwrs bywyd, gyda ffocws ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), atal trais a meithrin gwytnwch.
- Datblygu portffolio o waith ar Ddatblygu Cynaliadwy ac Iechyd ym Mhob Polisi, gan lywio polisi ac ymarfer yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Dysgwch fwy am waith y Ganolfan Gydweithredol WHO ar fuddsoddi cynaliadwy ac economi llesiant yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gronfa ddata a phorth Canolfannau Cydweithredol y WHO.