Diogelu
Beth yw diogelu?
Diogelu yw’r broses o amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod, cam-fanteisio neu niwed. Mae’n cynnwys hyrwyddo eu llesiant, sicrhau eu bod yn ddiogel, a chymryd camau gweithredu pan fo pryderon ynghylch eu llesiant. Mae gan bawb gyfrifoldeb i nodi risgiau, adrodd pryderon, a helpu i greu amgylcheddau diogel.
Os ydych chi’n pryderu am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl, ffoniwch 999 mewn argyfwng, neu cysylltwch â gwasanaethau plant neu oedolion eich awdurdod lleol.
Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol GIG Cymru
Mae Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol GIG Cymru yn dîm o arbenigwyr sy’n darparu ffocws strategol ac arweinyddiaeth broffesiynol er mwyn gwella diogelu ar draws GIG Cymru.
Gall gweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru gael mynediad at gyngor a chymorth diogelu drwy’r Fewnrwyd/platfform SharePoint.
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn