Neidio i'r cynnwys

Pecyn hyfforddi senarios diogelu

Mae’r ffilmiau rydych chi ar fin eu gwylio wedi cael eu datblygu gan AFTA Thought mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol.

Mae’r pecyn fideo hwn yn cynnwys cyfres o 8 fideo dysgu seiliedig ar senario.
Mae pob ffilm yn tynnu sylw at sefyllfa ddiogelu wahanol a chymhleth.

Mae’r senarios yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn a dysgu o adolygiadau statudol. Maent wedi cael eu dramateiddio at ddibenion hyfforddi.

Cynlluniwyd y fideos i gryfhau diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl drwy hyrwyddo gwell cydnabyddiaeth ac ymarfer diogelu ledled Cymru.

Bydd yr adnoddau amlasiantaeth hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i gyflawni cymwyseddau dysgu sy’n bodloni Grŵp C (Gofal Cymdeithasol Cymru) a Lefel 3 (Dogfen Ryng-golegol).