Adnoddau Diogelu Hyfforddwr-i-Hyfforddwr
Dod â Hyfforddiant Diogelu yn Fyw
Croeso i dudalennau adnoddau diogelu Hyfforddi’r Hyfforddwr y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys cyfres o ddeunyddiau o safon uchel, rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i gryfhau arferion diogelu ar draws GIG Cymru a sefydliadau partner.
Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi ymarferwyr, hyfforddwyr ac arweinwyr diogelu i ymgorffori dysgu cyson, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar draws eu gwasanaethau. Mae pob pecyn yn cynnwys nodiadau i hyfforddwyr, taflenni i ddysgwyr, ac ymarferion sy’n seiliedig ar senarios wedi’u mapio i:
- Lefel 3 o’r Ddogfen Ryng-golegol: Rolau a Chymwyseddau ar gyfer staff gofal iechyd
- Grŵp C Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru
Ynglŷn â’r Adnoddau
Mae’r Pecynnau Hyfforddiant Diogelu wedi’u cynllunio i helpu hwyluswyr i gyflwyno sesiynau difyr a myfyriol ar themâu diogelu cymhleth.
Mae pob pwnc yn cynnwys:
- Nodiadau i hyfforddwyr – canllawiau cryno, strwythuredig i gefnogi cyflwyno sesiynau.
- Taflenni i ddysgwyr – gwybodaeth glir ac ymarferol ar gyfer staff.
- Dysgu yn seiliedig ar senarios – yn dod â heriau diogelu go iawn yn fyw trwy achosion a ysgrifennwyd a’u gweithredu’n broffesiynol.
Mae’r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Cydymffurfiaeth ffug
- Cyfarfodydd Strategaeth
- Chwilfrydedd Proffesiynol
- Llais y Gofalwr
- Rheoli Datgeliadau
- Galluedd Meddyliol a Gofal Iechyd
- Codi Llais
- Meddiannu Cartrefi
Mae pob modiwl wedi’i adeiladu o amgylch profiad bywyd y plentyn neu’r oedolyn. Maent yn annog ymarferwyr i gynnal chwilfrydedd proffesiynol, adnabod cydymffurfiaeth ffug, a gwneud penderfyniadau diogelu amserol a hyderus.
Mae’r deunyddiau hyn yn addas ar gyfer:
- Hyfforddwyr ac arweinwyr diogelu mewn sefydliadau iechyd a gofal
- Gweithwyr proffesiynol sy’n darparu hyfforddiant diogelu mewnol
- Ymarferwyr amlasiantaeth sy’n chwilio am ddealltwriaeth gyffredin ac ymarfer cyson
Fe’u bwriedir i’w haddasu a’u defnyddio ar draws GIG Cymru a chan asiantaethau partner ehangach.
Sut i ddefnyddio’r Adnoddau?
Gellir defnyddio adnoddau hyn yn annibynnol, neu fel rhan o raglen ddysgu ddiogelu lawn.
Mae hyfforddwyr yn cael eu hannog i wneud y canlynol:
- Adolygu’r nodiadau i hyfforddwyr cyn eu cyflwyno.
- Defnyddio’r set sleidiau PowerPoint fel fformat sy’n gosod cyd-destun y fideos. Mae’n rhannu amcanion cyffredinol, ac yn darparu rhybudd cynnwys i’r cyfranogwyr.
- Lawrlwytho a rhannu’r daflen i ddysgwyr ym mhob sesiwn.
- Hwyluso myfyrio a thrafod i gysylltu dysgu ag ymarfer go iawn.
Adnoddau Cyfryngau Cysylltiedig
Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys offer dysgu amlgyfrwng newydd, yn cynnwys:
- Adnodd ymwybyddiaeth Holiadur Risg Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSERQ)
- Fideos gwybodaeth ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar yr Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC)
Ein Hymrwymiad
Mae’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol wedi ymrwymo i:
- Hyrwyddo Cymru fwy diogel drwy adnoddau hyfforddi diogelu hygyrch, o safon uchel
- Cefnogi gwelliant parhaus a dysgu myfyriol ar draws gwasanaethau
- Cryfhau diwylliant diogelu cyson yn GIG Cymru
Cyswllt: Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, Iechyd Cyhoeddus Cymru