Rhaglen Diwygio Deintyddol Cymru
Noddir a lletyir y Rhaglen Diwygio Deintyddol Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae Grŵp Goruchwylio Strategol Deintyddol (DSOG) aml-randdeiliad sy’n goruchwylio’r Rhaglen Diwygio Deintyddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor iechyd y cyhoedd deintyddol a chymorth hanfodol ar gyfer rheoli rhaglenni i’r rhaglen ddiwygio.
Dyma amcanion strategol cyffredinol y Rhaglen Diwygio Deintyddol:
- Gwella iechyd y boblogaeth, iechyd y geg a llesiant trwy ganolbwyntio’n fwy ar atal a mynd i’r afael ag achosion anghydraddoldebau
- Gwella mynediad, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, profiad a chanlyniadau gofal deintyddol
- Cyfoethogi llesiant ac ymgysylltiad y gweithlu deintyddol a sicrhau bod capasiti a gallu’r gweithlu’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i ddiwallu anghenion gofal iechyd (gan gynnwys atal eilaidd) y boblogaeth
- Cynyddu’r gwerth a geir o ariannu gwasanaethau a rhaglenni deintyddol
- Sicrhau bod systemau ansawdd, diogelwch a gwella ar waith ar gyfer deintyddiaeth ac iechyd y geg
Caiff y rhain eu cynnwys mewn pum ffrwd gwaith:
Ffrwd waith 1: Monitro Contract
Y nod yw monitro gweithrediad Contract Deintyddol newydd y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a datblygu fframwaith sicrwydd cenedlaethol.
Bydd y ffrwd waith yn sicrhau dull cenedlaethol o gyfathrebu â chleifion a gweithwyr proffesiynol, yn monitro mynediad cleifion er mwyn llywio cynllunio gwasanaethau, ac yn defnyddio data i wella mynediad, ansawdd, tegwch a chomisiynu gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru.
Ffrwd waith 2: Ailgynllunio Gwasanaethau ac Arloesi
Y nod yw rheoli’r gwaith o ailgynllunio ac integreiddio gwasanaethau deintyddol ledled Cymru gan sicrhau bod gofal yn cael ei gynllunio a’i ddarparu yn unol ag anghenion y boblogaeth.
Bydd y ffrwd waith yn cefnogi gweithrediad Rhaglen Diwygio Deintyddol Cymru, gan gynnwys y contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol newydd.
Bydd yn ystyried yr ystod lawn o wasanaethau deintyddol a llwybrau gofal y GIG.
Ei nod yw gwella mynediad, ansawdd, effeithlonrwydd a thegwch drwy gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau integredig, gyda chefnogaeth gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a gwelliant parhaus.
Ffrwd waith 3: Y Gweithlu, Hyfforddiant a Chymysgedd Sgiliau
Y nod yw sicrhau gweithlu deintyddol cynaliadwy, medrus a hyblyg a all ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y dyfodol.
Bydd y ffrwd waith yn mynd i’r afael â phrinder gweithlu, yn gwella mynediad at ofal, yn manteisio i’r eithaf ar gyfraniad y tîm deintyddol ehangach, ac yn cefnogi datblygu’r gweithlu drwy fentrau addysg, hyfforddiant, a recriwtio a chadw staff.
Ffrwd waith 4: Iechyd y Boblogaeth, Gwaith Ataliol ac Anghydraddoldebau
Y nod yw darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer iechyd y geg y boblogaeth, ac atal a lleihau anghydraddoldebau fel rhan o Raglen Diwygio’r System Ddeintyddol yng Nghymru.
Bydd y ffrwd waith yn hyrwyddo dull ataliol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n deg o wella canlyniadau iechyd y geg, gan sicrhau bod adnoddau, polisïau a gwasanaethau yn cefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Bydd ei waith yn cyd-fynd â deddfwriaeth allweddol a blaenoriaethau strategol Cymru, gan gynnwys Cymru Iachach, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddyletswydd Ansawdd a’r Ddyletswydd Gymdeithasol-Economaidd.
Ffrwd waith 5: Data, Digidol a Deallusrwydd
Y nod yw sicrhau bod galluoedd Digidol, Data a Deallusrwydd yn cefnogi cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau deintyddol teg, sy’n seiliedig ar anghenion yng Nghymru.
Bydd y ffrwd waith yn gwella’r gwaith o gasglu, integreiddio a defnyddio data deintyddol i alluogi gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, monitro canlyniadau, cefnogi gwella ansawdd, a nodi cyfleoedd i leihau anghydraddoldebau o ran mynediad a gofal.
Bydd yn cyd-fynd â datblygiadau digidol ehangach GIG Cymru ac yn hyrwyddo defnyddio arloesedd digidol, ymchwil, gwerthuso ac ymgysylltu â’r cyhoedd i wella gwasanaethau iechyd y geg.
Asesiad Deintyddol ar gyfer Risg Clinigol a Geneuol (ACORN)
Mae asesiad deintyddol (a elwir hefyd yn ‘wiriad deintyddol’) yng nghytundeb Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDS) 2026 Cymru yn cynnwys Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol ac Iechyd y Geg (ACORN). Dylai ACORN rheolaidd ei gwneud hi’n haws i dimau deintyddol a chleifion gytuno ar gynllun gofal deintyddol wedi’i bersonoli sy’n canolbwyntio ar atal a all gynnwys un neu fwy o’r Pecynnau Gofal a ddisgrifir yng nghytundeb GDS 2026.
Adnoddau