Adroddiad yn nodi ffactorau risg ar gyfer iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc
Cyhoeddwyd ar: 23 Medi 2026
Mae materion fel cysgu’n wael, cael eu bwlio, bod â delwedd negyddol o’r corff, anawsterau gyda chyfeillgarwch a phwysau academaidd i gyd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant gwaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Mae hynny yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n defnyddio data o adroddiad Iechyd a Llesiant Plant Ysgol Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) i gael cipolwg heb ei ail ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol pobl ifanc. Mae dros 100,000 o ddysgwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg ddwywaith y flwyddyn, sy’n holi am ystod eang o agweddau ar fywydau pobl ifanc, megis eu llesiant, anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, cwsg, profiadau o’r ysgol ac ymddygiadau iechyd.
Mae’r adroddiad yn dangos bod iechyd meddwl a llesiant yn wahanol, ond eu bod yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae anawsterau iechyd meddwl yn cynnwys pethau fel gorbryder, hwyliau isel, trafferth canolbwyntio neu orfywiogrwydd, a phroblemau gyda chyfoedion. Mae llesiant yn adlewyrchu teimlo’n gysylltiedig, yn werthfawr, yn obeithiol a’ch bod yn gallu ymdopi â phwysau cyffredinol o ddydd i ddydd. Mae iechyd meddwl yn effeithio ar lesiant, ac i’r gwrthwyneb. Mae ymchwil, gan gynnwys gan Sefydliad Iechyd y Byd, yn dangos bod y ddau yn ystyriaethau pwysig ar gyfer deall pobl ifanc.
Edrychodd yr adroddiad ar sut roedd sgoriau llesiant yn amrywio ar draws gwahanol fathau o anawsterau iechyd meddwl, ac yna gwirio i weld a oedd y patrwm yn aros yr un fath gan ystyried newidynnau fel oedran, rhyw, amddifadedd, cwsg, pwysau academaidd, bwlio, a chefnogaeth ganfyddedig.
Wrth i anawsterau iechyd meddwl gynyddu, dangosodd y data bod llesiant yn lleihau mewn patrwm clir, graddol, ac roedd hyn yn wir ar draws sbectrwm llawn yr anawsterau hynny. Y bobl ifanc hynny oedd yn delio â’r heriau emosiynol uchaf a ddangosodd y llesiant isaf yn gyffredinol. Roedd patrymau tebyg, er eu bod yn llai cryf, ymhlith y bobl ifanc hynny ag anawsterau ymddygiadol a chanolbwyntio.
Canfu’r astudiaeth fod sawl ffactor yn gysylltiedig ag anawsterau iechyd meddwl uwch a llesiant is y gellid mynd i’r afael â nhw, o roi’r gefnogaeth briodol. Roedd y rhain yn cynnwys anawsterau cysgu, pwysau academaidd, cael eu bwlio, problemau gyda chyfoedion, delwedd negyddol o’r corff a chanfyddiad is o gefnogaeth gan athrawon neu ffrindiau.
Mewn gwirionedd, canfu’r arolwg fod anawsterau cysgu yn dangos y cysylltiadau cryfaf ag anawsterau iechyd meddwl uwch a llesiant is. Mae’r adroddiad yn dweud ei fod wedi cael un o’r “effeithiau ehangaf a mwyaf sylweddol” ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.
Er y deellir yn eang fod treulio amser yn hwyr y nos ar y cyfryngau cymdeithasol a sgrolio yn cael effaith negyddol ar gwsg, mae’r adroddiad yn dangos yn glir bod cwsg yn chwarae rhan hanfodol yn iechyd a llesiant cyffredinol pobl ifanc.
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at bwysigrwydd ysgolion i iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, a bod dull system gyfan yn hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth yn gynnar.
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu ystod o ffactorau risg ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u llesiant, ond mae hefyd yn dangos, drwy dargedu’r ffactorau risg hynny’n gynnar, y gellir gwneud gwelliannau.
“Mae pwysigrwydd cwsg yn arbennig o ddiddorol, fel achos a symptom o iechyd meddwl a llesiant is. Gall cyflwyno mesurau hylendid cwsg effeithiol – fel osgoi amser sgrin yn ystod yr awr cyn mynd i’r gwely, cael trefn amser gwely reolaidd a bod yn gorfforol egnïol yn ystod y dydd, gael effaith sylweddol ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant.
“Mae’r adroddiad hefyd yn dangos, drwy hyrwyddo dull system-gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, y bydd o fudd i’r rhai y mae iechyd meddwl a llesiant gwael yn effeithio arnynt. Mae gan rieni a gofalwyr, ysgolion a’r system iechyd ehangach rôl i’w chwarae wrth helpu pobl ifanc yng Nghymru i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant cyffredinol.”
Mae’r adroddiad yn un o gyfres o dri adroddiad.