Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV) ac atgyfnerthiad PCV Niwmococol (13 seroteipiau) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae llid yr ymennydd niwmococol yn afiechyd hysbysadwy.

Mae afiechyd niwmococol yn haint anadlol sy'n aml yn ymddangos fel niwmonia neu otitis media acíwt, a all ddatblygu i fod yn ymledol gan achosi bacteremia neu'n anaml, llid yr ymennydd. Mae afiechyd niwmococol yn cael ei achosi gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae, ac mae llawer o wahanol seroteipiau o hwn. Mae'n effeithio'n bennaf ar yr ifanc iawn a'r hen iawn. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddo gyfnod deor sydd wedi'i ddiffinio'n wael a all fod mor fyr ag un i dri diwrnod

Brechu arferol

Dechreuodd Rhaglen Imiwneiddio Plentyndod Rheolaidd y Brechlyn Niwmococol Cyfun (PCV) ym mis Medi 2006 ar gyfer babanod dau a phedwar mis oed gyda brechlyn atgyfnerthu tua thri mis ar ddeg oed. Ym mis Ebrill 2010 daeth PCV 13 i gymryd lle’r brechlyn PCV 7. Ym mis Ionawr 2020, yn dilyn adolygiad gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), adolygwyd amserlen brechlynnau plentyndod arferol PCV a gweithredwyd fel a ganlyn:

  • Dylid cynnig Prevenar 13® fel un dos sylfaenol yn 12 wythnos oed i fabanod sydd wedi cael eu geni ar neu ar ôl 01 Ionawr 2020 gyda dos atgyfnerthu rhwng 12 a 13 mis oed (amserlen 1+1).
  • Dylai babanod sydd wedi cael eu geni ar neu cyn 31 Rhagfyr 2019 fod wedi derbyn dau ddos sylfaenol yn 8 ac 16 wythnos oed yn ôl yr amserlen flaenorol gyda dos atgyfnerthu rhwng 12 a 13 mis oed (amserlen 2 +1).

Mae rhaglen imiwneiddio PCV y DU wedi llwyddo i sicrhau lefelau uchel o amddiffyniad rhag y 13 seroteip niwmococol sydd yn y brechlyn.

Brechu anarferol

Efallai y bydd angen brechlyn PCV ar unigolion sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol

Edrychwch ar Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK.

Y brechlyn

Mae PCV yn cynnwys polysacarid o dri ar ddeg o fathau capsiwlaidd cyffredin (PCV 13). Fe'i nodir ar gyfer imiwneiddio gweithredol er mwyn atal afiechyd ymledol, niwmonia ac otitis media acíwt a achosir gan Streptococcus pneumonia.   

Mae Prevenar 13 (PCV 13) yn frechlyn anweithredol sy’n cael ei chwistrellu mewn chwistrell wedi'i lenwi ymlaen llaw.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys y grwpiau cymwys, y dosau a’r dull rhoi ar gael yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae canllawiau amserlen y llyfr gwyrdd, pennod 25 yn disodli'r crynodeb o nodweddion cynnyrch.

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. meningococol)

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Y brechlyn cyfun niwmococol ar gyfer babanod (PCV) amserlen imiwneiddio: newidiadau (WHC/2019/041) | LLYW.CYMRU

Cymhwysedd ar gyfer brechiadau nad ydynt yn rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol (WHC/2018/048) | LLYW.CYMRU

 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK

Brechiad niwmococol: canllawiau i weithwyr iechyd - GOV.UK

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau yn y Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau tudalen.

Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

Data a goruchwyliaeth