Rwbela
Mae rwbela (a elwir hefyd yn frech goch yr Almaen) yn salwch anghyffredin a achosir gan feirws. Mae’n cael ei ledaenu trwy besychu a thisian.
Gall symptomau gymryd pythefnos i dair wythnos i ddatblygu. Gall pobl drosglwyddo’r afiechyd i eraill cyn iddyn nhw hyd yn oed wybod eu bod nhw wedi’i gael. Prif symptom rwbela yw brech smotiog sy’n dechrau ar yr wyneb neu y tu ôl i’r clustiau ac sy’n lledaenu i’r gwddf a’r corff. Mae symptomau eraill yn cynnwys chwarennau chwyddedig a thymheredd uchel (twymyn).
Gall dal rwbela yn ystod beichiogrwydd fod yn ddifrifol iawn i’r babi yn y groth. Gall niweidio’n ddifrifol olwg, clyw, calon ac ymennydd babanod heb eu geni. Gelwir y cyflwr hwn yn syndrom rwbela cynhenid (CRS).
Dysgwch mwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechydon maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 (safle allanol) neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Data
-
Hysbysiadau o rwbela
Mae’r dangosfwrdd hwn yn cyflwyno data ar hysbysiadau o rwbela yng Nghymru dros amser. Mae’n…