Rhaglen niwed sy’n gysylltiedig â gamblo
Gall niwed sy’n gysylltiedig â gamblo gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, gan effeithio ar iechyd, perthnasoedd, cyllid a llesiant.
Bydd y Rhaglen Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo yn meithrin dull cydlynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o atal y niweidiau hyn ledled y wlad, a hynny drwy godi ymwybyddiaeth, cael gwared â stigma a darparu ymyrraeth gynnar. Yn dilyn cylch gwaith gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Pherfformiad a Gwelliant GIG Cymru, a fydd yn arwain ar waith ataliol a thriniaeth yn y drefn honno.
Ein nod
Rydym yn gweithio i greu Cymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach. Bydd y Rhaglen Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo yn helpu drwy leihau amlygiad i gamblo niweidiol, dadnormaleiddio hyrwyddo gamblo a’i argaeledd a gwreiddio gwaith ataliol cynnar, yn enwedig i’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf.
Cronfa Grantiau Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ar gyfer y Sector Gwirfoddol
Mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio’r Gronfa Grantiau Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ar gyfer y Sector Gwirfoddol. Rhaglen dwy flynedd yw hon a fydd yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol a mentrau cymdeithasol i gyflawni gweithgarwch atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru.
Bydd y gronfa’n darparu hyd at £700,000 y flwyddyn dros gyfnod o ddwy flynedd, a bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais am hyd at £75,000 bob blwyddyn.
Mae’n agored i elusennau cofrestredig, cwmnïau buddiant cymunedol, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol. Rhaid i bob gweithgaredd a ariennir gael ei gyflawni yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arbennig o awyddus i glywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n profi caledi ariannol, y rhai sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol a’r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo rhywun arall.
Mae’r gweithgareddau cymwys yn cynnwys y gweithgareddau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a dadnormaleiddio ymddygiadau gamblo niweidiol
- Gwaith ataliol wedi’i dargedu ar gyfer poblogaethau â risg uwch
- Allgymorth cymunedol a gweithredu cymdeithasol
- Cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo pobl eraill
- Dulliau newydd ac arloesol o atal gamblo
Bydd gan bob gweithgaredd effaith ar atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y tymor hir, boed drwy godi ymwybyddiaeth, ymgorffori profiad bywyd neu hyd yn oed ddatblygu tystiolaeth o sut olwg sydd ar ymyrraeth effeithiol.
Bydd ceisiadau’n agor ar 31 Awst 2026. Os hoffech chi gael gwybod rhagor cyn hynny, cynhelir gweminar gwybodaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a CGGC ar 12 Awst.
I gofrestru, ewch i dudalen CGGC i gofrestru ar gyfer y weminar.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn