Neidio i'r cynnwys

Hepatitis A

Mae Hepatitis A yn feirws sy’n heintio’r afu. Fel arfer, mae pobl yn cael hepatitis A drwy fod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi’i heintio, drwy fwyta bwyd neu yfed diodydd a baratowyd gan rywun sydd wedi’i heintio, neu drwy fwyta pysgod cregyn a gafwyd o ddŵr sydd wedi’i halogi gan garthffosiaeth. Gellir ei ddal hefyd drwy gyswllt rhywiol. Mae brechlyn ar gael a all amddiffyn rhag Hepatitis A. 

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sy’n achosi hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru. 

Pa mor gyffredin yw Hepatitis A yng Nghymru?

Er bod nifer yr achosion o Hepatitis A a gafwyd drwy gyswllt rhywiol yn isel, bu brigiadau o achosion ymysg rhai grwpiau, megis dynion hoyw a deurywiol sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM), pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, a rhai grwpiau eraill. 

Bydd pobl sydd heb eu brechu ac sy’n dychwelyd o wledydd lle bydd hepatitis A yn gyffredin yn cyflwyno’n achlysurol â’r salwch.

Sut allaf i ddweud os bydd rhywun â hepatitis A?

Haint aciwt neu dymor byr yn unig yw hepatitis A a bydd yn para dim mwy na 6 mis fel rheol. Ni fydd llawer o bobl sydd â hepatitis firaol ag unrhyw symptomau ac ni fyddant yn gwybod eu bod wedi’u heintio. Gyda hepatitis A, bydd symptomau’n ymddangos fel rheol o fewn sawl wythnos i sawl mis o amlygiad a gall bara hyd at 6 mis. Gall symptomau cynnwys:

  • Tymheredd uchel (twymyn);
  • Teimlo’n flinedig drwy’r amser;
  • Colli archwaeth bwyd;
  • Teimlo’n sâl neu chwydu (cyfog a chwydu);
  • Poen yn yr abdomen (stumog);
  • Poen yn y cymalau;
  • Melynu’r croen a gwynion y llygaid (clefyd melyn);
  • Wrin tywyll ac ysgarthion (pŵ) golau; 
  • Croen yn cosi.

Bydd y rhan fwyaf o oedolion sydd â hepatitis A yn teimlo’n sâl am ychydig fisoedd ac yn gwella’n llwyr fel rheol heb unrhyw niwed parhaol i’r iau. Er yn brin, gall hepatitis A beri methiant yr afu a marwolaeth.

Nid oes yna unrhyw wellhad penodol na thriniaeth ar gyfer hepatitis A, ond mae yna ffyrdd o liniaru’r symptomau.

Cewch wybod mwy ynglŷn â thrin hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru.

Fe wnaiff eich corff glirio’r haint ond gall hynny gymryd sawl mis. Unwaith y byddwch wedi clirio’r haint, rydych yn imiwn ac ni ellir ei gael hepatitis A eto – ond fe allwch gael mathau eraill o hepatitis.

Sut ddylwn i fy niogelu fy hun rhag hepatitis A?

  • Golchi dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi bwyd;
  • Gofalu cynnal hylendid personol da;
  • Ymarfer rhyw diogel i leihau’r risg o drosglwyddiad rhywiol;
  • Gallwch osgoi dal hepatitis A drwy olchi eich dwylo ar ôl rhyw (a golchi’r pen-ôl, y werddyr, y fagina a’r pidyn hefyd, os yn bosibl), newid condomau rhwng rhyw yr anws a rhyw drwy’r geg, defnyddio menig tafladwy wrth fyseddu neu ffystio, defnyddio haen ar gyfer rimio (fel dam deintyddol, a ddefnyddir ar gyfer rhyw drwy’r geg), a pheidio â rhannu teganau rhyw na chyfarpar ffrydio dŵr (douching). 

Mae yna frechiad hefyd ar gyfer hepatitis A – holwch yn eich clinig iechyd rhywiol lleol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar wefan GIG 111 Cymru.

Gallwch gael condoms am ddim mewn amrywiaeth o feintiau a mathau, gan gynnwys rhai heb latecs, drwy wasanaeth archebu condomau Iechyd Rhywiol Cymru. Gallwch hefyd gael cyflenwadau eraill, gan gynnwys: 

  • Liwb. 
  • Damiau: Defnyddir y rhain ar gyfer rhyw drwy’r geg ac rydym yn gallu darparu fersiynau heb latecs. 

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch ar ein platfform archebu, cysylltwch â ni: [email protected] 

Archebwch eich cyflenwadau iechyd rhywiol am ddim

Sut ydw i’n diogelu eraill rhag cael hepatitis A?

Os oes gennych chi hepatitis A, mae’n bwysig hefyd ceisio lleihau’r risg i eraill gael yr haint oddi wrthych chi.

Gallwch gael gwybod sut i ddiogelu eraill rhag hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru.

Os byddaf yn credu fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o hepatitis A beth ddylwn i ei wneud?

Dylech fynd i gael cyngor gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am hepatitis A?

Mae llawer o wybodaeth am hepatitis A ar gael ar wefan GIG 111 Cymru. Gallwch hefyd geisio cyngor gan eich meddyg teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn