Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Atal Diabetes GIG Cymru yn lleihau'r risg o ddatblygu diabetes math 2 gan bron i chwarter

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2025

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (RhADCG) yn llwyddo i atal neu ohirio diabetes math 2, yn ôl adroddiad gwerthuso a ryddhawyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar hyn o bryd, mae dros 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, yn bennaf diabetes math 2 – sy’n gyflwr hirdymor a all leihau ansawdd bywyd a byrhau oes. Heb ymyriadau i atal diabetes math 2, mae rhagamcanion yn dangos y bydd un o bob 11 oedolyn yng Nghymru yn datblygu diabetes math 2 erbyn 2035.

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn ymyriad byr ac arloesol sy'n cefnogi ac yn cynghori’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. Mae'r rhaglen yn cefnogi pobl sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu diabetes math 2 i wneud newidiadau i'w deiet ac i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Caiff pobl eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl drwy brawf gwaed, sy'n mesur lefelau siwgr gwaed (glwcos) cyfartalog unigolyn dros y ddau i dri mis diwethaf.
Caiff pobl gymwys sy’n byw mewn ardaloedd lle mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno eu hatgyfeirio at weithiwr cymorth gofal iechyd hyfforddedig a fydd yn siarad â nhw am yr hyn y gallant ei wneud i leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2.  Gellir eu hatgyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol hefyd.

Lansiwyd y rhaglen genedlaethol hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan y byrddau iechyd yn 2022 ac mae wedi cael ei chynnig i dros 10,000 o bobl ledled Cymru.

Canlyniadau Cadarnhaol yn Helpu Pobl ledled Cymru

Mae gwerthusiad o'r rhaglen a wnaed dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu tystiolaeth o effeithiolrwydd y rhaglen. Mae’r gwerthusiad yn dangos bod y risg y bydd unigolyn yn mynd ymlaen i fyw gyda lefelau glwcos diabetig yn y gwaed wedi'i lleihau 23 y cant ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen atal cyn-ddiabetes.

Ehangu Mynediad i Ddiwallu’r Angen Cenedlaethol

Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ar waith mewn 35 o’r 60 o glystyrau gofal sylfaenol sy’n bodoli ledled Cymru. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl a sicrhau tegwch iechyd ledled y genedl, mae angen sicrhau buddsoddiad cynaliadwy i ehangu’r model llwyddiannus hwn i gwmpasu pob un o ranbarthau Cymru.

Wedi'i gyflwyno'n lleol mewn gofal sylfaenol gan dimau ymroddedig o weithwyr cymorth gofal iechyd hyfforddedig a deietegwyr, mae’r cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth bersonol i wneud newidiadau deietegol, gwneud mwy o weithgarwch corfforol, a chynnal pwysau iach. Profwyd bod yr ymyriadau hyn yn atal datblygiad diabetes.

Dywedodd Dr Sarah Davies, meddyg teulu yng Nghaerdydd ac arweinydd Gofal Sylfaenol ar gyfer Diabetes yng Nghymru:

"Mae diabetes math 2 yn gyflwr dinistriol a all effeithio'n ddifrifol ar ansawdd a hyd bywyd. Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod darparu'r math hwn o gefnogaeth amserol yn helpu pobl i wneud newidiadau cymedrol ond ystyrlon i’w deiet a’u gweithgarwch corfforol, a all atal neu ohirio diabetes rhag datblygu.

"Rwy'n llawn gefnogi darparu’r ymyriad hwn i bawb yng Nghymru sydd angen ei gael, gan fod ei fanteision yn amlwg."

Tynnodd Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, sylw at arwyddocâd y canfyddiadau:

"Mae'r gwerthusiad yn dangos i ni fod y rhaglen atal diabetes yn effeithiol wrth atal a lleihau cynnydd lefelau glwcos diabetig yn y gwaed.  Mae'r rhaglen yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at atal diabetes yng Nghymru.

"Bydd parhau i gofnodi'r manteision i gleifion drwy fonitro a gwerthuso cadarn yn ein helpu i ddeall ei effaith barhaus dros amser ar glefyd pwysig y gellir ei atal yng Nghymru."

Gwybodaeth Mynediad

I gael mynediad at Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan wyneb yn wyneb, siaradwch â'ch meddyg teulu a all eich atgyfeirio os ydych yn wyneb risg uchel o ddatblygu diabetes Math 2, yn y lleoedd hynny y mae'r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd.

Am ragor o wybodaeth am Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan:

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan - Iechyd Cyhoeddus Cymru