Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC)
Mae adolygiad 2023 o’r Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC) (a gyhoeddwyd yn 2010, a ddiwygiwyd yn 2014 a 2018) yn nodi’r safon ofynnol ar gyfer ymateb amlasiantaethol i farwolaeth annisgwyl plentyn neu unigolyn ifanc. Nod PRUDiC yw sicrhau bod yr ymateb hwn yn ddiogel, yn gyson ac yn sensitif i’r rhai dan sylw a bod unffurfiaeth yn y dull a ddefnyddir ledled Cymru. Dylid rhoi’r weithdrefn ar waith ar gyfer pob marwolaeth annisgwyl plentyn a’i dilyn i’w chwblhau yn y Cyfarfod Adolygu Achos.
Hwyluswyd adolygiad 2023 gan y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) ar ran y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru. Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, cynhaliwyd gweithdy aml-asiantaeth ym mis Tachwedd 2022 i gytuno ar newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn. Dosbarthwyd sylwadau ar ddrafft PRUDiC 2023 drwy Rwydwaith Diogelu GIG Cymru a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Gwnaed diwygiadau mewn ymateb i sylwadau a chyhoeddwyd y ddogfen derfynol i’w rhoi ar waith o fis Ebrill 2023. Cynhaliwyd gweminar i fanylu ar y newidiadau ym mis Mawrth 2023.
Mae’r adolygiad hwn yn cyflwyno nifer o newidiadau i’r Broses PRUDiC, sy’n anelu at gryfhau gweithio mewn partneriaeth ynghylch marwolaethau plant. Mae hyn yn cynnwys rhai newidiadau i
- Rannu Gwybodaeth
- Anghytundeb ar Gychwyn y broses PRUDiC
- Penodau newydd ar Farwolaethau Newydd-anedig Annisgwyl, Rhoi Organau a Meinweoedd, Hunanladdiad, Archwiliwr Meddygol Annibynnol, pan fydd Plentyn yn Marw’n Annisgwyl mewn Maes Arall, Marwolaethau Annisgwyl ar Uned Gofal Critigol Pediatrig (PCCU), Pobl 16 a 17 Oed sy’n Derbyn Gofal mewn Meysydd Oedolion y Bwrdd Iechyd
- Diogelwch Emosiynol a chefnogaeth i Staff fynychu cyfarfodydd PRUDiC
Y gobaith yw y bydd cyhoeddi’r Ymateb Gweithdrefnol newydd yn galluogi ymchwiliad cyson, cefnogol ac effeithiol i Farwolaethau Annisgwyl Plant yng Nghymru.
Arweiniad
-
Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC) 2023
Mae’r weithdrefn hon yn gosod safon ofynnol ar gyfer ymateb i farwolaethau annisgwyl mewn babandod a phlentyndod. Mae’n disgrifio’r broses o gyfathrebu, gweithredu ar y cyd a rhannu gwybodaeth yn dilyn marwolaeth annisgwyl plentyn.
Atodiadau
Taflenni ar gyfer Teuluoedd a gweithwyr Proffesiynol
Mae asiantaethau fel iechyd, awdurdodau lleol a’r heddlu yn deall proses PRUDiC. Fodd bynnag, nodwyd angen i ddatblygu gwybodaeth glir i rieni a gweithwyr proffesiynol sy’n esbonio’r prosesau sy’n digwydd yn dilyn marwolaeth annisgwyl plentyn.
Datblygwyd y taflenni hyn mewn ymgynghoriad â rhieni sydd â phrofiad byw, ochr yn ochr â chynrychiolwyr iechyd ac addysg. Yn dilyn ymgynghoriad, cynhyrchwyd dwy daflen; un ar gyfer rhieni a gofalwyr a’r llall ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Roedd y broses ymgynghori drylwyr yn sicrhau bod y wybodaeth yn cyfleu proses PRUDiC yn glir ac yn dosturiol i bawb a effeithiwyd gan farwolaeth y plentyn.
I deuluoedd
I proffesiynol
2wish
Mae 2wish yn darparu cefnogaeth ar unwaith a pharhaus i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan golled sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc 25 oed ac iau. Gyda chaniatâd, caiff manylion eu atgyfeirio i 2wish, fel arfer o’r ysbyty neu’r heddlu ac, unwaith y derbynnir yr atgyfeiriad, bydd cyswllt yn cael ei wneud o fewn 24-48 awr gan Gydlynydd Cymorth Uniongyrchol. Mae’r cymorth yn cynnwys blychau cof, cefnogaeth emosiynol ac cefnogaeth ymarferol, cwnsela a therapi chwarae, cymorth grŵp ac encilion preswyl. Gweler rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.2wish.org.uk neu cysylltwch dros y ffôn ar 01443 853125 neu drwy e-bost ar [email protected]