Neidio i'r cynnwys

Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 7 Goruchwylio’r strategaeth

Mae’n hanfodol sicrhau cydberchnogaeth ar y Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn allanol, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus ac er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein nod, sef cael amgylchedd ymchwil a gwerthuso llewyrchus sy’n mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu Cymru o safbwynt iechyd.

Bydd Grŵp Goruchwylio Strategol Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu ac yn hybu’r cynllun ar gyfer gweithredu’r strategaeth hon, ac yn asesu cynnydd yn erbyn deilliannau’r strategaeth ac yn monitro gweithgareddau ymchwil a gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff y grŵp hwn ei gadeirio gan y Pennaeth Ymchwil a Datblygu a bydd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu, y Tîm Gwerthuso, Arweinwyr Ymchwil a Gwerthuso Is-adrannau/Cyfarwyddiaethau (neu’u dirprwyon enwebedig) a chynrychiolaeth o’r Cyfarwyddiaethau Datblygu Sefydliadol a Phobl, Llywodraethu Gwybodaeth a Gweithrediadau a Chyllid yn ôl yr angen.

Bydd Arweinwyr Ymchwil a Gwerthuso y Cyfarwyddiaethau/Is-adrannau yn cynorthwyo i weithredu’r strategaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu capasiti a gallu ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso. Bydd y Grŵp yn atebol ac yn adrodd i Dîm Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy’r Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd. Bydd yn atebol i Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Caiff Panel Partneriaeth Ymchwil a Gwerthuso allanol ei ddatblygu, a fydd yn canolbwyntio ar wneud yn fawr o gyfleoedd ymchwil a gwerthuso mewn cydweithrediad â phartneriaid ymchwil allanol, ac a fydd yn darparu cyngor i gefnogi datblygu arweinyddiaeth ym maes ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Bydd y gwaith o weithredu’r strategaeth hon yn cael ei arwain gan ein hegwyddorion ar gyfer ymchwil a gwerthuso, sydd wedi’u halinio yn gadarn â’n pum ffordd o weithio fel y diffinnir yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Pum ffordd o weithio  Egwyddorion arweiniol 
Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd Byddwn yn datblygu gwaith ymchwil a gwerthuso, ac yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil a gwerthuso, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i iechyd poblogaethau ac yn alinio â’r blaenoriaethau strategol hirdymor ar gyfer iechyd poblogaethau yng Nghymru
Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion. Byddwn yn datblygu gwaith ymchwil a gwerthuso, ac yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil a gwerthuso, i atal neu liniaru iechyd a llesiant gwael yn y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau.
Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill Byddwn yn datblygu gwaith ymchwil a gwerthuso, ac yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil a gwerthuso, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i iechyd poblogaethau, a fydd wedi’i integreiddio ar draws y blaenoriaethau strategol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a fydd yn rhychwantu nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant. Byddwn yn meithrin trefniadau cydweithredu yng nghyswllt gwaith ymchwil a gwerthuso, yn fewnol ac yn allanol ar draws gwahanol sefydliadau, disgyblaethau a phartneriaethau, gan weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr.
Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu. Byddwn yn datblygu ac yn cyflawni ein gwaith ymchwil a gwerthuso gan gydweithredu â’r sawl y mae’r ymchwil yn debygol o effeithio arnynt, gan gynnwys y cyhoedd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026