Neidio i'r cynnwys

Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 5 Gweithredu’r strategaeth

Mae Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgan y bydd y sefydliad yn datblygu agenda newydd ar gyfer ymchwil a gwerthuso ochr yn ochr â meysydd sydd o ddiddordeb o ran ymchwil a gwerthuso.

Mae’n hanfodol sicrhau cydberchnogaeth ar y strategaeth hon ar draws y sefydliad a gyda phartneriaid, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu a’i chyflawni’n llwyddiannus.

Creu diwylliant o ymchwil a gwerthuso

Mae ymchwil a gwerthuso’n cynnig cyfleoedd o ran datblygiad staff a swyddi gwell, sy’n helpu i recriwtio a chadw staff ac sydd hefyd yn datblygu arweinwyr a phobl sy’n gallu meddwl yn feirniadol o fewn y sefydliad. Rydym am greu diwylliant, o fewn y sefydliad, sy’n rhoi gwerth ar weithgareddau ymchwil a gwerthuso ac sy’n cynorthwyo staff i ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymchwil a gwerthuso er mwyn cynyddu capasiti a gallu’r gweithlu, cryfhau ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyfrannu at greu sefydliad sy’n dysgu.

Mae hynny’n cynnwys ffocws ar y ‘sut’, ‘beth sy’n gweithio’ a ‘sut mae darparu’ ymyriadau ym maes iechyd cyhoeddus. Byddwn yn gweithio ar draws sefydliadau ac ar draws y system ymchwil ehangach i hybu rhagoriaeth a diwylliant cadarnhaol o wella’n barhaus trwy ymchwil a gwerthuso.

Byddwn yn gwneud hynny trwy:

  • Rymuso ymchwilwyr ar bob lefel i gyflawni rhaglenni ymchwil a gwerthuso trylwyr, dylanwadol a chydlynus sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth yn unol â blaenoriaethau ar gyfer iechyd cyhoeddus.
  • Cefnogi staff i ddatblygu cynigion ar gyfer ymchwil a gwerthuso a cheisiadau am gyllid ar sail eu profiad o ymarfer ym maes iechyd cyhoeddus, mewn cydweithrediad â phartneriaid a rhwydweithiau academaidd.
  • Creu capasiti a gallu i gyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso ymhlith yr holl staff, trwy ddatblygu a gweithredu rhaglen ddatblygu gynaliadwy ar gyfer ymchwil a gwerthuso a fydd yn mynd i’r afael â gwybodaeth a sgiliau technegol a thrwy roi ymchwil ar waith yn ymarferol – gan ymdrin â meysydd megis dylunio agweddau ystadegol, dylunio holiaduron, a dulliau gwerthuso.
  • Datblygu arweinyddiaeth o ran ymchwil a gwerthuso, trwy ddatblygu teuluoedd o swyddi a llwybrau gyrfa yn fewnol a sicrhau bod pob cyfle posibl yn cael ei gymryd i fanteisio ar raglenni ymchwil a gaiff eu hariannu’n fewnol ac yn allanol.
  • Hwyluso gwaith cydweithredol ar draws sefydliadau a nodi cyfleoedd i gyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso rhyngddisgyblaethol o fewn y sefydliad.
  • Buddsoddi er mwyn hybu a chryfhau capasiti a gallu i ymgymryd â gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Sicrhau bod gan holl staff Iechyd Cyhoeddus Cymru lefel o ymwybyddiaeth o werth gwaith ymchwil a gwerthuso, er mwyn gallu nodi bylchau mewn gwybodaeth a defnyddio offer cadarn.
  • Sicrhau bod safonau wedi’u pennu ar gyfer ansawdd allbynnau gwaith ymchwil a gwerthuso (e.e. safonau ar gyfer dylunio holiadur ac ar gyfer methodoleg arolwg) ac ar gyfer y modd y caiff gwybodaeth am yr allbynnau hynny ei rhannu.
  • Dangos ymrwymiad clir swyddogion gweithredol ac aelodau bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwil a gwerthuso, gydag aelodau’n arwain y gwaith o bennu agenda, yn cyfrannu at y gwaith hwnnw ac yn asesu perfformiad ac effaith.
  • Penodi aelod annibynnol o’r bwrdd i fod yn gyfrifol am ymchwil ac i fod yn llysgennad ac yn hyrwyddwr ymchwil a gwerthuso ar fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ar draws y sefydliad.
Cryfhau’r gefnogaeth i weithgareddau ymchwil a gwerthuso a’r modd y cânt eu rheoli

Mae gwreiddio gwaith ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad yn hollbwysig er mwyn gallu cynhyrchu’r dystiolaeth y mae ei hangen i fynd i’r afael â meysydd sy’n flaenoriaeth ar gyfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd creu seilwaith galluogi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi a rheoli gwaith ymchwil yn hybu’r broses o weithredu’r strategaeth hon. Bydd hynny’n gymorth i ddatblygu amgylchedd ymchwil a gwerthuso llewyrchus yn y sefydliad.

Byddwn yn gwneud hynny trwy:

  • Gryfhau’r seilwaith a’r drefn lywodraethu ar gyfer ymchwil a gwerthuso trwy gael goruchwyliaeth, prosesau, systemau a threfniadau adrodd tryloyw.
  • Hwyluso sefydlu a chyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso o safon trwy brosesau llywodraethu ystwyth, clir a systematig y GIG – dan arweiniad y Swyddfa Ymchwil a Datblygu.
  • Hwyluso mynediad i gymorth ar gyfer pob aelod o staff ar bob lefel yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dymuno cyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso, gan gynnig cyngor ynghylch sut mae tramwyo’r amgylchedd ymchwil a datblygu a’u cyfeirio at ffynonellau mewnol ac allanol o wybodaeth (e.e. am ffrydiau cyllido, datblygu, ysgrifennu ceisiadau am gyllid, cymorth o ran ystadegau, dylunio ymchwil, dylunio protocol, a dulliau).
  • Sicrhau bod cymorth ariannol yn cael ei ddarparu, er mwyn rhoi cyngor am yr holl gostau sy’n gysylltiedig ag ymchwil fasnachol ac anfasnachol ac er mwyn monitro’r costau hynny.
  • Cynnwys ymchwil a gwerthuso yn strategaethau a chynlluniau ariannol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Sicrhau bod y seilwaith a’r cytundebau o ran data yn eu lle er mwyn gallu rhoi mynediad lle bo hynny’n briodol.
  • Cynllunio gweithgareddau ymchwil a gwerthuso, adrodd yn eu cylch a’u goruchwylio trwy Bwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan adrodd i Dîm Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gweithio ar y cyd ac mewn modd cydweithredol

Mae cydweithio effeithiol ar draws seilwaith ymchwil helaeth, gyda’r system iechyd a gofal ehangach, sectorau heblaw’r sector iechyd, partneriaid masnachol a phartneriaid ym maes diwydiant, yn y DU ac yn rhyngwladol, yn gallu arwain at waith ymchwil a gwerthuso mwy helaeth a dylanwadol ar gyfer iechyd poblogaethau yng Nghymru. Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o ecosystem ehangach o waith ymchwil a gwerthuso, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid a chyllidwyr i ddylanwadu ar yr agenda o ran iechyd poblogaethau ar gyfer pobl yng Nghymru, ac i gefnogi’r agenda a’i chryfhau.

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyllidwr ymchwil mawr. Fodd bynnag, rydym am ddylanwadu ar gyfeiriad strategol gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus, gan gynnwys trwy gyllidwyr ymchwil (e.e. cyllidwyr academaidd cenedlaethol a rhyngwladol megis y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Feddygol a’r sector gwirfoddol), y sector llywodraethau (e.e. Llywodraeth Cymru ac eraill) ac agendâu ymchwil y byd academaidd a sefydliadau sy’n bartneriaid i ni.

 Byddwn yn gwneud hynny trwy:

  • Gryfhau cysylltiadau â’r seilwaith ymchwil a gwerthuso yng Nghymru, yn genedlaethol a gyda phartneriaid rhyngwladol.
  • Hwyluso datblygu partneriaethau ymchwil a gwerthuso strategol mewn cydweithrediad â’r byd academaidd, y sector cyhoeddus, llywodraeth leol a chenedlaethol, byrddau iechyd, y trydydd sector, ac eraill sydd wedi’u halinio â’n meysydd blaenoriaeth ni, er mwyn manteisio ar sgiliau a data nad ydynt gennym ni ond y mae eu hangen arnom.
  • Cefnogi a datblygu grwpiau ymchwil a gwerthuso sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys partneriaid yn y byd academaidd ac mewn meysydd eraill, i wneud yn fawr o gyfleoedd.
  • Datblygu gweledigaeth a gydgynhyrchwyd ar gyfer ymchwil academaidd ym maes iechyd cyhoeddus mewn cydweithrediad â’r gymuned ymchwil a phartneriaid eraill yng Nghymru.
  • Cymryd camau rhagweithiol i nodi a hwyluso cyfleoedd i gynnig lleoliadau academaidd, goruchwylio ôl-raddedigion, secondio staff, cynnig contractau anrhydeddus a swyddi ar y cyd ar draws ffiniau sefydliadau (e.e. contractau anrhydeddus, partneriaethau, secondiadau a modelau staffio ar y cyd).
  • Gweithio gyda’r byd academaidd a’r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus i gryfhau rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y cyfleoedd hyfforddi a datblygu a gynigir i Gofrestryddion Arbenigedd academaidd ym maes Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru; a pharhau i ymwneud ag ymchwil ymhlith meddygon ymgynghorol ym maes iechyd cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Gwneud Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fwy gweladwy fel pwynt cyswllt cychwynnol clir er mwyn hwyluso cyfleoedd i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym maes ymchwil, masnach a diwydiant, ac yn academaidd.
  • Gweithio gyda’r system iechyd a gofal ehangach i gefnogi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso, gan sicrhau data o ansawdd gwell, systemau data agored y gellir eu rhannu, a threfniadau rhannu data.
  • Cynyddu aelodaeth ar fyrddau cyllido cenedlaethol ar gyfer ymchwil ym maes iechyd er mwyn gallu dylanwadu ar gyllidwyr i fynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth a mynd i’r afael ag anghenion o ran ymchwil a gwerthuso.
Cynhyrchu gwaith ymchwil a gwerthuso gyda’n gilydd a rhannu’r canfyddiadau â phawb

Mae cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â nhw’n gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso’n fwy perthnasol, yn fwy dibynadwy ac yn fwy tebygol o newid ymarfer. Mae gwneud gwaith gwych i gynnwys y cyhoedd yn rhan hanfodol o ymchwil ym maes iechyd, ac rydym am gynnwys pobl sydd â diddordeb mewn iechyd poblogaethau ac mewn cyflawni nodau llesiant, er mwyn gwella perthnasedd, ansawdd ac effaith yr ymchwil.

Er bod gennym rai rhaglenni ymchwil llwyddiannus ac amlwg iawn sy’n gyfarwydd i randdeiliaid mewnol ac allanol, rydym yn cydnabod yr angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yn fwy gweladwy fel sefydliad sy’n arwain gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau, ac iddo ddatblygu ymhellach fel sefydliad sy’n weithredol ym maes ymchwil gydlynus a dylanwadol. At hynny, rydym am fod yn amgylchedd ymchwil dibynadwy sy’n agored ac yn dryloyw ac sy’n amgylchedd y mae modd ei atgynhyrchu, ac rydym am gael allbynnau y mae modd eu defnyddio ac sy’n ddylanwadol.

Byddwn yn gwneud hynny trwy:

  • Ddatblygu a gweithredu dull systematig o nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer ymchwil a gwerthuso yng nghyswllt iechyd poblogaethau, sydd wedi’u halinio â blaenoriaethau ar gyfer iechyd poblogaethau yng Nghymru, mewn cydweithrediad â’r sawl sy’n llunio polisïau, y cyhoedd ac ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol.
  • Bod yn agored am ein diddordebau a’n blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso, trwy ddatblygu a rhannu meysydd sydd o ddiddordeb o ran ymchwil o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn allanol.
  • Sicrhau bod gennym fodel effeithiol ac ystyrlon ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, er mwyn dylanwadu ar ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso a rhannu gwybodaeth amdanynt.
  • Mabwysiadu Safonau’r DU ar gyfer cynnwys y cyhoedd, er mwyn gallu dilyn ymarfer da o ran cynnwys y cyhoedd.
  • Bod â chynrychiolaeth weithredol ar Gynghrair Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Gofal ac Iechyd Cymru.
  • Cysylltu’n effeithiol â sefydliadau sy’n ymwneud â chynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu/cydgynhyrchu, er mwyn llunio rhaglenni ymchwil a gwerthuso ar y cyd â’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaethau.
  • Sicrhau ein bod yn cynnwys ac yn cynrychioli pob rhan o gymdeithas wrth ddatblygu gweithgareddau ymchwil a gwerthuso.
  • Cofnodi gwybodaeth am gydraddoldeb mewn modd systematig er mwyn gallu gwerthuso rhaglenni iechyd cyhoeddus yn gadarn.
  • Cynnwys ymchwil a gwerthuso yn rhan o gynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn dangos gwerth a phwysigrwydd ymchwil, dathlu llwyddiannau a chodi proffil ymhlith y staff a’r cyhoedd.
  • Bod â chynrychiolaeth weithredol ar Gynghrair Cyfathrebu Ymchwil Gofal ac Iechyd Cymru.
  • Cydnabod a dathlu llwyddiannau ein hymchwilwyr a gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fwy gweladwy.
  • Bod â safonau cyffredin ar gyfer allbynnau gwaith ymchwil a gwerthuso, a chyhoeddi allbynnau gwaith ymchwil a gwerthuso sy’n targedu anghenion defnyddwyr.
  • Bod yn agored ynghylch pa feysydd ymchwil a gwerthuso sy’n cael eu datblygu, trwy waith cyfathrebu allanol, e.e. blogiau a diweddariadau newyddion rheolaidd.
  • Bod yn agored ynghylch ein data a’n dulliau, gan sicrhau bod modd atgynhyrchu’r gwaith, a rhannu gwybodaeth am yr hyn na wnaethom ei ganfod.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026