Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 3 Bwrw golwg yn ôl ar waith ymchwil a gwerthuso
Yn ystod y pandemig COVID-19 ac wedi hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso sydd wedi helpu gyda’r ymateb a’r ymdrechion adfer wedyn, trwy ddarparu gwybodaeth werthfawr y gellid ei rhoi ar waith.
Gyda chymorth cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cyflawnodd Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl ganolog o safbwynt cefnogi gweithgarwch ymchwil a gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy nodi cyfleoedd ymchwil a darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso.
Rhannu agenda ymchwil â phartneriaid
Ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid academaidd ac ystod o bartneriaid ymchwil i gryfhau gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:
Dull Cymru’n Un o gyflawni ymchwil COVID-19
- Yn sgil cydweithio rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru (Prif Ymchwilydd, Dr Chris Williams), Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, cymerwyd rhan yng ngham II/III treial y brechlyn Oxford-AstraZeneca a noddwyd gan Brifysgol Rhydychen.
- Bu Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cyflawni gwaith goruchwylio strategol a gwaith monitro yng nghyswllt treialon ymchwil i frechlyn yn erbyn COVID-19 a gynhaliwyd yng Nghymru.
- Bu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gyflawni’r Astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Frys SIREN (SARS-CoV2 Immunity & REinfection EvaluatioN).
Ymchwil i ddeall effaith COVID-19
- Roedd Con-COVID yn bartneriaeth rhwng y Gwasanaethau Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i greu platfform data ar gyfer cadw gwyliadwriaeth well ar y boblogaeth a gwerthuso ymyriadau, gan gynnwys cadw gwyliadwriaeth ar frechlynnau ac anghydraddoldebau.
- Labordy Data Rhwydweithiol Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth – bu dwy bartneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn cyflawni ymchwil er mwyn deall effaith COVID-19 ar wahanol boblogaethau megis gofalwyr di-dâl ac yn cyflawni ymchwil i effaith gweithio gartref.
- Sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru grant ymchwil gydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Phrifysgol Sheffield Hallam er mwyn deall a mynd i’r afael â rhwystrau a hwyluswyr lefelau brechu rhag y ffliw a COVID-19 ymysg gweithwyr y GIG yng Nghymru.
Defnyddio genomeg i ddeall COVID-19
Roedd gwaith ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ym maes genomeg yn golygu bod Cymru yn arwain y byd ym maes genomeg COVID-19. Cyfrannodd eu gwaith i brosiect gwerth £20 miliwn a arweiniwyd gan gonsortiwm COVID-19 Genomics UK (COG-UK).
Ymchwil gyda ac ynghylch grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
- Mae partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddeall profiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran iechyd (HEAR 2), wedi gwneud argymhellion polisi ynghylch comisiynu a darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yng Nghymru, sydd o fudd i gleifion, y cyhoedd a’r GIG.
- Yn ôl ymchwil gan Uned Atal Trais Cymru a Phrifysgol Caerwysg ynghylch Profiadau rhai sy’n sefyll gerllaw o drais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig COVID-19, mae pobl yn fwy tebygol o gymryd camau yn erbyn cam-drin domestig ac arwyddion achosion o’r fath os byddant yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â’u cymuned.
Datblygu diwylliant o werthuso o fewn y sefydliad
Mae Tîm Gwerthuso Canolog wedi’i sefydlu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn:
- Gweithio i bennu safonau ymarfer ar gyfer gwaith gwerthuso ac i wella gwybodaeth a sgiliau technegol.
- Gwneud gwaith gwerthuso trylwyr ac annibynnol yng nghyswllt rhaglenni craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n flaenoriaeth uchel, neu’r rhai a gyflawnir gan bartneriaid, os oes angen sefydliad annibynnol i wneud hynny.
- Gweithio gyda phawb i ddeall pwysigrwydd gwaith gwerthuso a pham y mae ei angen, a chynnwys arbenigwyr gwerthuso yn gynnar yn y broses o lunio ymyriadau.
- Datblygu cymuned ymarfer ar gyfer gwaith gwerthuso er mwyn rhannu arfer gorau a chynorthwyo eraill ar draws y sefydliad i ddatblygu sgiliau a gallu o ran gwerthuso.
Gwaith gwerthuso sydd ar y gweill ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Dreialon Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth i werthuso Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan trwy werthuso’r broses a’r canlyniadau
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026