Gwybodaeth os ydych yn feichiog ac yn perthyn i grŵp gwaed D (a elwir weithiau’n grŵp RhD/Rhesws D)
Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n feichiog ac mae eich prawf gwaed yn dangos mai D negatif yw’ch grŵp gwaed. Mae’n egluro’r hyn mae bod yn D negatif yn ei olygu i chi yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i’ch baban gael ei eni.
Byddwch yn cael cynnig prawf gwaed sgrinio o’r enw DNA ffetws rhydd-o-gelloedd (cffDNA). Gall y prawf hwn ragweld grŵp gwaed D eich baban. Mae gwybod grŵp gwaed eich baban yn helpu eich bydwraig i ddarparu’r gofal iawn i chi a’ch baban drwy gydol eich beichiogrwydd.
Yr hyn y mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu
Bydd eich grŵp gwaed (eich math o waed) yn un o’r pedwar prif grŵp.
- Grŵp O
- Grŵp A
- Grŵp B
- Grŵp AB
O fewn pob grŵp gwaed, mae pobl naill ai’n D positif neu’n D negatif. Mae eich prawf gwaed yn dangos eich bod yn D negatif.
Pam mae’n bwysig gwybod fy mod i’n D negatif?
Mae gwybod eich bod yn D negatif yn golygu y gallwn gynnig prawf sgrinio ychwanegol i chi i wirio a yw eich baban yn D negatif neu’n D positif.
Esbonio eich math gwaed
Mae eich gwaed wedi’i wneud o’r canlynol:
- celloedd coch y gwaed
- celloedd gwyn y gwaed, a
- phlatennau
Mae gan gelloedd coch y gwaed farcwyr ar eu harwyneb o’r enw antigenau. Mae antigen D yn un o’r rhain.
- Os yw antigen D yn bresennol, mae eich grŵp gwaed yn D positif.
- Os nad yw’n bresennol, mae eich grŵp gwaed yn D negatif. Mae tua 15% (15 o bob 100) o bobl yn D negatif.
Pam mae bod yn D negatif yn bwysig?
Os mai D negatif yw’ch grŵp gwaed chi ac mae eich baban yn D positif a bod gwaed eich baban yn cymysgu â’ch gwaed chi, mae’n bosibl y gallai eich corff wneud gwrthgyrff gwrth-D.
Mae gwrthgyrff yn rhan o ffordd eich corff o’ch amddiffyn rhag unrhyw beth y mae’r corff yn ei ystyried yn anghyfarwydd. Gall gwrthgyrff gwrth-D groesi’r brych i lif gwaed eich baban a niweidio ei gelloedd coch y gwaed. Gall hyn wneud eich baban yn sâl ac weithiau efallai y bydd angen triniaeth arno yn yr ysbyty.
Bod â gwrthgyrff gwrth-D yw achos mwyaf cyffredin cyflwr prin o’r enw clefyd hemolytig y ffetws a’r newydd-anedig (HDFN).
Ynglŷn â’r prawf DNA ffetws rhydd-o-gelloedd (cffDNA)
Gan eich bod yn D negatif, byddwn yn cynnig prawf gwaed arall i chi, o’r enw cffDNA. Mae’r prawf hwn yn edrych ar symiau bach iawn o DNA eich baban sy’n mynd i’ch gwaed yn naturiol. DNA yw’r wybodaeth enetig a geir y tu mewn i bob cell.
Os yw’r prawf yn rhagweld bod eich baban yn D positif, byddwn yn cynnig pigiadau imiwnoglobwlin gwrth-D (gwrth-D) i chi. Mae cael pigiadau gwrth-D yn lleihau’r risg o HDFN yn fawr.
Os byddwch chi’n dewis cael prawf sgrinio cffDNA, bydd eich sampl gwaed yn cael ei storio yn ystod eich beichiogrwydd a gellir ei ddefnyddio i wirio’r canlyniad ar ôl i’ch baban gael ei eni. Gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion sicrhau ansawdd.
Beth fydd canlyniadau’r prawf cffDNA?
Bydd y prawf yn rhoi un o’r canlyniadau canlynol.
Mae eich baban yn D positif.
- Byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D.
Mae eich baban yn D negatif.
- Ni fydd pigiadau gwrth-D yn cael eu hargymell.
Mae canlyniad y prawf yn aneglur.
- Yn yr achos hwn, byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D.
Fel arfer gallwch gael y prawf hwn o tua 16eg wythnos eich beichiogrwydd hyd at 26 wythnos.
Bydd eich bydwraig yn trafod gyda chi pryd y cynigir y prawf i chi ac yn dweud wrthych pryd y dylech ddisgwyl eich canlyniadau.
Beth fydd yn digwydd os rhagwelir y bydd fy maban yn D positif?
Byddwch yn cael apwyntiad gyda’ch bydwraig pan fyddwch tua 28 wythnos yn feichiog. Yn ystod yr apwyntiad hwn:
- byddwch yn cael prawf gwaed i ganfod gwrthgyrff, a
- byddwch yn cael cynnig pigiad gwrth-D.
Mae gwrth-D yn helpu i atal gwrthgyrff rhag datblygu os yw gwaed eich baban wedi cymysgu â’ch gwaed chi. Mae hyn yn lleihau’r risg o HDFN.
Beth yw pigiadau gwrth-D?
Gwneir pigiadau gwrth-D o blasma, sef hylif y gwaed y mae’r celloedd gwaed yn arnofio ynddi wrth iddynt symud o amgylch y corff. Mae’r plasma a ddefnyddir i wneud gwrth-D yn cael ei gasglu gan roddwyr gwaed sy’n cael eu sgrinio’n ofalus. Mae’n mynd trwy sawl cam diogelwch i gael gwared ar germau a feirysau, sy’n ei wneud yn ddiogel iawn.
Ni fydd pigiadau gwrth-D yn cynnig amddiffyniad gydol oes i chi. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y bydd eu hangen arnoch eto os byddwch chi’n beichiogi eto yn y dyfodol â baban sy’n D positif. Mae rhai pobl yn dewis cael prawf sgrinio cffDNA, a all ragweld math D y baban a helpu i benderfynu a oes angen gwrth-D yn ystod y beichiogrwydd hwnnw.
Sut mae gwrth-D yn gweithio?
Mae gwrth-D yn gweithio trwy gael gwared ar gelloedd coch gwaed eich baban a allai fod wedi mynd i’ch gwaed chi. Mae hyn yn atal eich corff rhag gwneud ei wrthgyrff gwrth-D ei hun.
A yw gwrth-D yn ddiogel?
Ydy. Ystyrir bod gwrth-D yn ddiogel iawn.
- Bydd rhai pobl yn teimlo poen ysgafn pan roddir y pigiad i’r cyhyr.
- Weithiau, gall rhai pobl gael adwaith alergaidd ysgafn.
- Mae’r ffordd y cynhyrchir gwrth-D yn cael ei reoli’n llym, ac mae rhoddwyr yn cael eu sgrinio, felly mae’r risg o drosglwyddo feirws hysbys yn isel iawn.
Rhesymau eraill pam y gallai fod angen pigiad gwrth-D arnoch
Cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg ysbyty (obstetrydd) cyn gynted â phosibl os:
- byddwch chi’n gwaedu yn ystod beichiogrwydd, neu
- os byddwch chi’n anafu’ch abdomen (er enghraifft, o gwymp neu wregys diogelwch wrth stopio’n sydyn).
Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’n bosibl y gallai rhai o gelloedd coch gwaed eich baban basio i’ch llif gwaed chi. Os bydd hyn yn digwydd a bod eich baban yn D positif, efallai y bydd angen pigiad gwrth-D arnoch i leihau’r siawns y bydd gwrthgyrff yn datblygu.
Beth os bydd y prawf cffDNA yn dangos bod fy maban yn D negatif?
Os yw’r prawf yn dangos bod eich baban yn D negatif, mae’n debygol bod gan eich baban yr un grŵp D â chi. Yn yr achos hwn, ni fydd pigiadau gwrth-D yn cael eu hargymell.
Pa mor gywir yw’r prawf cffDNA?
Mae’r prawf yn 99.9% yn gywir (999 o bob 1000) wrth ragweld grŵp gwaed D baban yn gywir.
A ddylwn i gael y prawf sgrinio cffDNA?
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn prawf sgrinio ai peidio. Os penderfynwch beidio â chael y prawf cffDNA, rydym yn argymell eich bod yn cael pigiadau gwrth-D, oherwydd y bydd tua 60% (60 o bob 100) o fabanod y mae eu mamau’n D negatif yn D positif.
Os hoffech gael rhagor o help i ddeall yr wybodaeth hon, siaradwch â’ch bydwraig neu obstetrydd.
Beth os na fydd y canlyniadau’n glir?
Weithiau ni all y prawf ganfod grŵp D eich baban. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cynnig pigiadau gwrth-D i chi er mwyn bod yn ddiogel. Mae hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd gwrthgyrff yn datblygu a gwneud eich baban yn sâl.
Beth os ydw i’n feichiog gyda mwy nag un baban?
Gallwch gael y prawf os ydych chi’n feichiog â gefeilliaid. Mae’r prawf yr un mor gywir ag ydyw ar gyfer menywod sy’n feichiog ag un baban.
- Os yw un neu’r ddau faban yn D positif, byddwn yn cynnig pigiadau gwrth-D i chi.
- Os bydd y ddau faban yn D negatif (yr un peth â chi), ni chaiff pigiadau gwrth-D eu hargymell.
- Os ydych yn feichiog â mwy na dau faban, ni fyddwn yn cynnig y prawf i chi. Byddwn yn argymell eich bod yn cael pigiadau gwrth-D, oherwydd ni allwn ddweud pa grŵp D sydd gan y babanod.
Beth fydd yn digwydd pan fydd fy maban yn cael ei eni?
Ar ôl i’ch baban gael ei eni, bydd eich bydwraig yn cymryd sampl gwaed bach gennych chi a sampl o’r llinyn bogail. Mae’r profion hyn yn cadarnhau p’un ai D positif neu D negatif yw grŵp gwaed eich baban.
Beth fydd yn digwydd os yw grŵp D fy maban yn wahanol i’r hyn a ragfynegwyd gan y prawf?
Mewn tua 0.1% o achosion (1 o bob 1000), bydd y prawf yn rhagweld bod eich baban yn D negatif, ond bydd profion ar ôl yr enedigaeth yn dangos bod y baban yn D positif.
Os bydd merch sy’n D negatif na chafodd wrth-D yn ystod ei beichiogrwydd yn cael baban sy’n D positif, gallai gael ei ‘sensiteiddio’.
Mae hyn yn digwydd pan fo rhai o gelloedd coch gwaed y baban yn cymysgu â gwaed y fam, ac mae ei chorff yn gwneud gwrthgyrff gwrth-D.
Os bydd hyn yn digwydd, efallai y cewch gynnig gwrth-D ar ôl i’ch baban gael ei eni. Mae hyn oherwydd mai’r enedigaeth yw’r adeg y mae gwaed eich baban fwyaf tebygol o gymysgu â’ch gwaed chi. Os canfyddir gwrthgyrff yn eich gwaed yn eich beichiogrwydd nesaf, byddwch yn cael eich monitro’n agos ac efallai y bydd angen gofal arbenigol arnoch i’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn mynd i ysbyty gwahanol?
Mae ysbytai yng Nghymru yn dilyn yr un llwybr sgrinio cyn geni. Mae’n bosibl y bydd ysbytai y tu allan i Gymru yn dilyn polisïau gwahanol. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw wahaniaethau os byddwch yn derbyn gofal y tu allan i Gymru. Dangoswch ganlyniadau eich profion i staff yr ysbyty. Bydd eich canlyniadau yn eich cofnod mamolaeth.