Deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i bobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas. Ers i’r ddeddf gael ei phasio drwy’r senedd, mae darpariaethau ychwanegol wedi’u gwneud megis gweithredu cadarnhaol ar gyfer recriwtio a dyrchafu, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gweithredu’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a Deddf Diogelu Gweithwyr (2024).
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus a’r rhai sy’n defnyddio arian cyhoeddus i ystyried sut mae eu gwaith yn effeithio ar bobl sy’n cael eu hamddiffyn o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol roi sylw dyledus i’r angen i:
- Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig
Am ragor o wybodaeth gweler Deddf Cydraddoldeb | Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Cyflwynwyd y ddyletswydd hon gan Lywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2021. Ei nod yw sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’n gwella’r ddeddfwriaeth gyfredol ar gydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol | LLYW.CYMRU
Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr (y ‘ddyletswydd ataliol’). Yn flaenorol nid oedd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ragweithiol ar gyflogwyr i gymryd camau i atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 (Saesneg yn unig)
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026
Ar noson 11 Fawrth 2026, pleidleisiodd y Senedd ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Canlyniad y bleidlais oedd bod y Bil Iaith Arwyddion Prydain wedi’i basio a bydd bellach yn dod yn gyfraith.
Dyletswyddau Deddf Iaith Arwyddion Prydain
- gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a pharatoi a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y bydd yn cyflawni’r ddyletswydd hon ac i gyflwyno adroddiadau am gynnydd y gwaith hwn.
- gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus rhestredig i baratoi a chyhoeddi cynllun ynghylch sut y maent yn bwriadu hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain a chyflwyno adroddiadau am gynnydd y gwaith hwn. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n nodi sut y gall cyrff cyhoeddus rhestredig hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain; mae pobl Fyddar a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu strategaeth a chynlluniau, a hynny o’r cychwyn cyntaf ac ar bob cam ohono.
- gweithredu fel platfform i sicrhau gwell gwasanaethau a chanlyniadau i’r gymuned Fyddar trwy hwyluso mynediad gwell at wasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg, gwella canlyniadau cyflogaeth arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a’u galluogi i fyw mewn cymdeithas lle mae eu hiaith a’u diwylliant yn cael eu cydnabod a’u hyrwyddo.
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys penodi Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain Statudol, gyda chymorth panel Iaith Arwyddion Prydain cynorthwyol.
Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae’r ddeddf hon yn nodi’r safonau cyffredinol i sicrhau bod anghenion sylfaenol person yn cael eu cydnabod a’u diwallu. Mae gan Gyrff Cyhoeddus ddyletswydd gorfodol i sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith i gydymffurfio â’r ddeddf.
Mae’n anghyfreithlon i sefydliad gofal iechyd weithredu mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â hawliau dynol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni drin unigolion â thegwch, parch, cydraddoldeb, urddas ac ymreolaeth. Gelwir y rhain yn egwyddorion FREDA.
Deddf y Lluoedd Arfog 2021
Bydd gan y rhan fwyaf o Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog anghenion iechyd a chymdeithasol yn gyffredin â’r boblogaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, bydd gan nifer fawr o Gyn-filwyr a fydd ag anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u gwasanaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig) gyda’r egwyddor na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog yn ei chyfanrwydd fod dan anfantais oherwydd eu profiad milwrol.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) – Dyletswydd i Ymgysylltu
Nod Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yw gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy wella ymgysylltiad y cyhoedd a sicrhau tryloywder.
Mae agweddau allweddol yn cynnwys:
- Dyletswydd Ansawdd: Rhoddir y ddyletswydd hon ar gyrff y GIG a Gweinidogion Cymru i sicrhau gwelliant parhaus mewn ansawdd gwasanaethau iechyd
- Dyletswydd Gonestrwydd: Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau’r GIG fod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau pan fydd pethau’n mynd o chwith
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd: Mae’r ddeddf yn disodli cynghorau iechyd cymunedol gyda Llais, corff dinasyddion newydd i sicrhau bod lleisiau’r cyhoedd yn cael eu clywed yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Gall gwaith ymgysylltu helpu i lywio penderfyniadau a helpu i ddarparu tystiolaeth o fewn asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.
Mae Llais wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Nod Llais yw gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn gallu dweud eu dweud am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Sefydliad Ymgynghori (Saesneg yn unig) yn sefydliad annibynnol sy’n darparu hyfforddiant a chyngor ar arferion gorau ar ymgynghori.
Rhagor o wybodaeth: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): crynodeb
Y Gymraeg
Cyflwynwyd Safonau’r Gymraeg a sefydlwyd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Pwrpas y ddeddfwriaeth hon yw sefydlu bod gan y Gymraeg statws cyfartal â’r Saesneg yma yng Nghymru, a threfnir y safonau ar yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safonau’r Gymraeg
Pwrpas safonau’r Gymraeg yw:
- Sicrhau eglurder i bobl Cymru ar yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan sefydliadau o ran y Gymraeg;
- Sicrhau bod eglurder i sefydliadau mewn perthynas â’r Gymraeg;
- Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd i ddefnyddwyr.”
Mae dros 120 o sefydliadau cyhoeddus yn defnyddio Safonau’r Gymraeg yn eu gwaith. Gellir gofyn i sefydliadau gydymffurfio’n gyfreithiol â safonau penodol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Cyflenwi gwasanaethau
- Llunio polisïau
- Llunio polisïau newydd
- Gweithredu
- Hyrwyddo
- Cadw cofnodion
Bydd gan eich Bwrdd Iechyd lleol ei hysbysiad cydymffurfio ei hun sydd ar gael.
Gofal sylfaenol – Safonau’r Gymraeg
- Mae safonau’r Gymraeg yn berthnasol i wasanaethau gofal sylfaenol y GIG a reolir yn uniongyrchol gan gynnwys deintyddion.
- Nid yw’r safonau’n berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol. Fodd bynnag, rhaid iddynt ddilyn 6 dyletswydd mewn perthynas â’r Gymraeg a ddaeth i rym ym mis Mai 2019 fel y manylir isod.
Dyletswyddau Cymraeg ar gyfer darparwyr annibynnol:
Ar gyfer unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y contract, rhaid i ddarparwyr:
- Hysbysu’r bwrdd iechyd lleol os ydynt yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Darparu fersiynau Cymraeg o’r holl ddogfennau neu ffurflenni a ddarperir i’r darparwr gan y bwrdd iechyd lleol
- Sicrhau bod unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd a ddarperir yn ddwyieithog. Gall contractwyr ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu byrddau iechyd lleol at y diben hwn.
- Annog staff i wisgo bathodyn neu laniard i ddangos eu bod yn gallu siarad neu ddysgu Cymraeg, os ydynt yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg
- Cadarnhau a chofnodi dewis iaith claf
- Annog a chynorthwyo staff i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd ar gyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau a ddarperir gan y bwrdd iechyd lleol
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
“Prif nod statudol Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Gweledigaeth y Comisiynydd yw Cymru lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yno i sicrhau y cedwir at safonau ac yn gwneud hynny drwy roi hysbysiadau cydymffurfio i’r sefydliad a dyddiad dod i rym.
Y Fframwaith Mwy na Geiriau
Mae’r fframwaith Mwy na Geiriau yn gynllun 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gymraeg wedi’i sefydlu’n gadarn ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r fframwaith yn nodi saith grŵp allweddol sydd ag angen clinigol am Wasanaethau Cymraeg:
- plant a phobl ifanc
- pobl hŷn
- pobl ag anableddau dysgu
- defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl
- pobl sy’n byw gyda dementia
- pobl sy’n defnyddio gwasanaethau strôc
- pobl sy’n defnyddio gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith
“Ein gweledigaeth ar gyfer Mwy na Geiriau yw i’r Gymraeg berthyn a chael ei hymgorffori mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, fel bod unigolion yn derbyn gofal sy’n diwallu eu hanghenion iaith, heb orfod gofyn amdano, gan arwain at ganlyniadau gwell.” – Fframwaith Mwy na Geiriau
Y Cynnig Rhagweithiol
Yn syml, mae Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg yn golygu cynnig Gwasanaethau Cymraeg i rywun heb iddynt orfod gofyn amdano. Dylai Gwasanaethau Cymraeg fod mor hygyrch â gwasanaethau Saesneg i ddefnyddwyr gwasanaeth ac ni ddylid eu trin yn llai ffafriol. Gall y Cynnig Rhagweithiol olygu llawer o bethau megis:
- Ateb y ffôn gyda chyfarchiad yn Gymraeg
- Sicrhau bod arwyddion yn ddwyieithog
- Gwisgo laniard Iaith Gwaith os ydych yn siaradwr Cymraeg.
Cyfathrebu Hygyrch Cymru Gyfan
Lansiwyd Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch GIG Cymru ym mis Medi 2025.
Gwybodaeth bellach: Safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch mewn gofal iechyd | LLYW.CYMRU