Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi – Amheuir ffenylcetonwria (PKU)

Mae prawf smotyn gwaed (prawf pigo sawdl) eich baban newydd-anedig yn awgrymu y gallai fod ffenylcetonwria (PKU) ganddo.  

Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes ganddo PKU. 

Beth yw PKU?

Mae PKU yn gyflwr etifeddol prin ond y gellir ei drin. 

Nid oes gan fabanod â PKU ddigon o ensym sydd ei angen i dorri i lawr rhan o’r protein a geir mewn bwyd. Heb yr ensym hwn, gall rhai sylweddau gronni yn y corff. Os na chaiff ei drin, gall PKU arwain at broblemau iechyd hirdymor. 

Gyda diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â PKU dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl â PKU fyw bywydau iach a gweithgar.

Beth fydd yn digwydd nesaf? 

 Bydd tîm metabolig arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban PKU. 

Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch barhau i fwydo’ch baban ar y fron neu o botel fel arfer.

Gwybodaeth:

Os bydd eich baban yn mynd yn sâl neu os ydych chi’n poeni nad yw’n bwydo’n iawn, ceisiwch gymorth meddygol. 

Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban PKU, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.

Sut y gallech chi fod yn teimlo:

Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol: 

Metabolic Support UK 

  • Rhif ffôn: 0845 241 2173 neu 0800 652 3181 

The National Society for Phenylketonuria (NSPKU) 

  • Rhif ffôn: 030 3040 1090 

Mae llyfryn defnyddiol am PKU (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan British Inherited Metabolic Diseases Group (BIMDG)   

Fersiynau eraill