Brechlynnau yn ystod beichiogrwydd - I’ch amddiffyn chi a’ch babi
Cefndir
Mae brechu’n achub bywydau. Byddwch yn cael cynnig brechlynnau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o’ch amddiffyn chi a’ch babi rhag salwch difrifol.
Diogelu chi a’ch babi
Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o allu brwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a’ch babi.
Gall brechu helpu i atal clefydau neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Pa frechlynnau sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd?
Yng Nghymru, cynigir tri brechiad yn ystod beichiogrwydd.
| Brechlynnau | Pryd i gael y brechlyn |
| Pertwsis (y pas) |
Yn cael ei gynnig o 16 wythnos. Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. |
| Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) |
Yn cael ei gynnig o 28 wythnos. Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond efallai y bydd yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. |
| Y ffliw |
Yn cael ei gynnig yn ystod tymor y ffliw, sydd fel arfer yn para o fis Medi i fis Mawrth bob blwyddyn. Argymhellir brechu rhag y ffliw ar unrhyw gam o’ch beichiogrwydd. Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi. |
Bydd rhai menywod beichiog, sy’n cael eu hystyried fel rhai sydd â system imiwnedd wan, hefyd yn gymwys i gael brechiad COVID-19.
Mae’n bosibl y bydd brechlynnau eraill yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth, gan gynnwys:
- hepatitis B, a
- BCG.
Cyn beichiogrwydd
Os ydych chi’n bwriadu beichiogi, gall gwirio statws eich brechiadau eich helpu i’ch amddiffyn chi a’ch babi.
Mae’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Brechlyn byw yw’r MMR ac felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe’i hargymhellir ar gyfer menywod nad ydynt wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn naill ai cyn neu ar ôl beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi neu ar ôl i’ch babi gael ei eni.
Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch statws eich brechiad MMR gyda’ch bydwraig neu eich practis meddygon teulu. Ewch i dudalen y brechlyn MMR i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR.
I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau yn ystod beichiogrwydd, siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu nyrs y practis. I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechlynnau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu siaradwch â’ch bydwraig.
Cwestiynau Cyffredin
Ar ôl i’ch babi gael ei eni
I gael gwybodaeth am frechu o 0 i 5 oed, ewch i’r dudalen Cyn-ysgol.
Adnoddau eraill
- Mae atodlen sy’n dangos pa frechlynnau sy’n cael eu cynnig fel mater o drefn yng Nghymru ar gael.
- Mae adnoddau Pob Plentyn Cymru (safle allanol) yn rhoi gwybodaeth i rieni am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i’r dechrau gorau mewn bywyd a chymorth ar hyd y ffordd.
- Mae BUMPS (Best Use of Medicines in Pregnancy) (safle allanol, Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am feddyginiaethau a brechlynnau yn ystod beichiogrwydd. Mae’r wybodaeth wedi’i hysgrifennu ar gyfer menywod beichiog a’u teuluoedd ac mae’n cael ei gwirio gan arbenigwyr o’r DUar ddiogelwch meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Awst 2026