Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl - Ynglŷn â’r brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Clefyd niwmococol yw’r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o’r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu haint yn y glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn ac yn gallu arwain at:
- Niwmonia – haint yn eich ysgyfaint.
- Sepsis – ymateb i haint sy’n peryglu bywyd ac yn gallu niweidio’ch corff cyfan.
- Llid yr ymennydd – chwydd o amgylch eich ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, sy’n gallu achosi problemau iechyd hirdymor neu farwolaeth.
Mae’n bosibl y byddwch chi neu’ch plentyn mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn o glefyd niwmococol os ydych chi:
- Yn 65 oed neu’n hŷn.
- Yn ddwy flwydd oed neu’n hŷn sydd â chyflyrau iechyd hirdymor penodol.
- Yn dod i gysylltiad rheolaidd â mwg metel yn y gwaith.
- Yn profi digartrefedd.
Mae pobl yn y grwpiau hyn yn gymwys i gael brechiad niwmococol am ddim gan y GIG.
Cynigir y brechlyn niwmococol hefyd i blant dan ddwy flwydd oed fel rhan o raglen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y brechlyn niwmococol i fabanod.
Mae’r brechlyn yn ddiogel, ac mae’n helpu i amddiffyn rhag rhai o’r heintiau niwmococol mwyaf difrifol.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Ynglŷn â’r brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mwy o wybodaeth
- Heintiau niwmococol – NHS inform (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Haint Niwmococol – Vaccine Knowledge Project (safle allanol, Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Medi 2026