Neidio i'r cynnwys

Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl - Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl sy’n wynebu risg – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol 

Gwybodaeth:

Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Cefndir

Clefyd niwmococol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio heintiau a achosir gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae. 

Mae heintiau naill ai’n ymledol neu’n anymledol. Mae clefydau anymledol yn cynnwys llid y sinysau, llid y glust ganol a broncitis. Mae clefyd niwmococol ymledol (IPD) yn fwy difrifol ac mae’n cynnwys niwmonia, sepsis neu lid yr ymennydd. Mae llid yr ymennydd niwmococol yn glefyd hysbysadwy.

Mae clefyd niwmococol ymledol yn effeithio’n bennaf ar: 

  • blant ifanc iawn  
  • yr henoed 
  • pobl heb ddueg neu sydd â chamweithrediad y ddueg 
  • phobl â chyflyrau meddygol cronig penodol ac imiwnedd gwan
  • pobl sy’n profi digartrefedd 

Mae clefyd niwmococol yn lledaenu trwy aerosol, diferion anadlol neu drwy gyswllt uniongyrchol â secretiadau anadlol rhywun sy’n cario’r organeb. Mae gan y clefyd gyfnod magu sydd wedi’i ddiffinio’n wael, ond gallai fod mor fyr ag un i dri diwrnod. 

Y brechlyn

Mae’r brechlynnau niwmococol wedi’u hanactifadu (nid ydynt yn fyw). 

SYLWCH:  Ar ImmForm, mae PCV20 wedi disodli PPV23 ar gyfer oedolion hŷn a phobl sydd mewn perygl. Os oes stociau o PPV23 yn parhau’n lleol, dylid eu defnyddio i osgoi gwastraff. Y dyddiad dod i ben ar gyfer y swp olaf o PPV23 yw Rhagfyr 2026. Gweler Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig) am fanylion pellach. 

Mae chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw a phecynnu PCV20 yn edrych yn debyg iawn i PCV13. Gwnewch yn siŵr fod brechlynnau PCV20 a PCV13 yn cael eu storio ar wahân, er enghraifft, ar silffoedd gwahanol yn yr oergell. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn nodi bod y brechlyn PCV20 yn debygol o atal mwy o glefyd na’r brechlyn PPV23, ac y gallai imiwnedd ddirywio ar gyfradd arafach.

Y rhaglen frechu

Ar gyfer pobl dros 65 oed ac unigolion dwy oed a hŷn sydd mewn grŵp risg glinigol 

Mae’r brechlyn niwmococol wedi cael ei argymell ar gyfer grwpiau risg ers 1992, a phob person 65 oed a hŷn ers 2003. Mae’r rhaglen frechu niwmococol ar gyfer unigolion mewn grŵp risg yn cynnwys unigolion dwy oed a hŷn sy’n rhan o grwpiau risg clinigol penodol. I gael manylion am y meini prawf cymhwysedd manwl, gweler tabl 2 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig).

Amlygiad i fwg metel

Profwyd bod perthynas rhwng dod i gysylltiad â mwg metel – yn enwedig ymhlith weldwyr – a risg gynyddol o glefyd niwmococol. Dylid ystyried rhoi dos sengl o’r brechlyn PPV23 neu PCV20 (pan fydd ar gael) i unigolion sy’n dod i gysylltiad â mwg metel yn aml neu’n barhaus yn eu gwaith. Gweler Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig) am fanylion pellach.

Babanod hyd at ddwy oed sy’n wynebu mwy o risg o glefyd niwmococol 

Dylai plant dan 2 oed sydd ag asplenia, camweithrediad y ddueg, anhwylder sy’n effeithio ar y system ategol neu ag imiwnedd gwan iawn hefyd gael y brechlyn PCV20 (pan fydd ar gael). Gweler tabl 3 yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig) am fanylion pellach.  

Pobl sy’n profi digartrefedd 

Mae gan bobl sy’n profi digartrefedd gyfradd uchel o glefydau cronig wedi’u diagnosio a heb eu diagnosio. Gall hyn gyfrannu at farwolaethau cynharach a mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd brys. Mae llawer yn byw mewn amgylcheddau a rennir sy’n orlawn. Mae hyn yn cynyddu’r risg o drosglwyddo brigiadau o heintiau anadlol acíwt, gan gynnwys clefyd niwmococol.  

Mae unigolyn yn gymwys i gael y brechlyn niwmococol os ydyw: 

  • yn cysgu ar y stryd, 
  • yn aros mewn llety brys (e.e. hostel neu loches), neu 
  • wedi cael ei hun yn ddigartref yn ddiweddar ac mewn llety â chymorth. 

Sylwer: Dylai meddygfeydd gynnig brechlyn o fewn 12 wythnos o’r dyddiad y bydd person yn dod yn gymwys. Yr oedran cymwys ar gyfer y rhaglen oedolion hŷn yw 65, sy’n cyd-fynd ar hyn o bryd ag oedran cymwys ar gyfer rhaglenni brechu yr eryr a’r ffliw arferol. Gan y gall unigolion gael y brechlynnau hyn gyda’i gilydd, dylid manteisio ar gyfleoedd i’w rhoi gyda’i gilydd ble’n bosibl.   

Maint y dos a gweinyddu

Oedolion 65 oed a hŷn, ac unigolion 2 oed neu hŷn mewn grwpiau risg glinigol: 

  • un dos 0.5 ml o’r brechlyn PPV23 neu PCV20 
PCV20

Dylid rhoi PCV20 trwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol i gyhyr deltoid rhan uchaf y fraich (yn y rhai sy’n flwydd oed a hŷn) ac ar flaen ochr allanol y glun mewn babanod o dan flwydd oed. 

PPV23

Ni argymhellir rhoi’r brechlyn PPV23 i blant o dan 2 oed.  

Dylid rhoi’r brechlyn PPV23 trwy bigiad mewngyhyrol neu isgroenol, yn ddelfrydol yng nghyhyr deltoid y fraich uchaf. Defnyddir y llwybr mewngyhyrol fel arfer oherwydd bod adweithiau lleol yn fwy cyffredin pan roddir brechlynnau’n isgroenol. 

Canllawiau ar ail-frechu

Unigolion ag asplenia, camweithrediad y ddueg neu glefyd arennol cronig

Mae lefelau gwrthgyrff yn debygol o ostwng yn gyflym mewn unigolion ag asplenia, camweithrediad y ddueg neu glefyd arennol cronig. Felly, argymhellir ail-imiwneiddio’r grwpiau hyn bob pum mlynedd. 

Unigolion mewn grŵp risg clinigol

Os yw unigolyn eisoes wedi cael brechlyn PPV23 am ei fod mewn grŵp risg clinigol, nid oes angen dos arall arno yn 65 oed, ni waeth pa mor hir yn ôl y cafodd frechlyn PPV23.

Unigolion 65 oed

Os bydd unigolyn eisoes wedi cael PCV20 neu PPV23 oherwydd ei fod mewn grŵp risg clinigol, nid oes angen dos arall arno yn 65 oed, ni waeth pa mor hir yn ôl y cafodd PCV20 neu PPV23. 

Ar hyn o bryd, ni argymhellir ail-frechu â’r brechlyn niwmococol ar gyfer unrhyw grwpiau risg clinigol na grwpiau oedran eraill. 

Cyfeiriwch at Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth am y dos a’r amserlen. 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC)

Mae adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl brechu yn bwysig. Mae’n helpu i fonitro diogelwch a manteision y brechlyn. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir i frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig). Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ap Yellow Card, neu ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh). 

Mae gan feddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol symbol triongl du â’i ben i lawr (▼) ar y daflen yn y pecyn a’u Crynodeb o Nodweddion y cynnyrch (SmPC), ynghyd â brawddeg fer yn esbonio ystyr y triongl. Dylech roi gwybod am bob adwaith niweidiol a amheuir wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn. 

Mae’r canllawiau ar yr amserlen yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli’r SmPC.

Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes. 

Cyd-weinyddu brechlynnau 

Fel arfer, gellir rhoi dosau o wahanol frechlynnau wedi’u hanactifadu unrhyw adeg cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â’i gilydd, oni nodir yn wahanol. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u hanactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw ac i’r gwrthwyneb. 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau 

Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu imiwneiddio.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs)

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol). 

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Medi 2026