Neidio i'r cynnwys

Brechlyn feirws syncytial anadlol (RSV) - Brechlyn RSV ar gyfer oedolion hŷn

Cefndir

Mae feirws syncytiol anadlol (RSV) yn achos cyffredin heintiau’r llwybr anadlol. I’r rhan fwyaf o oedolion, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, ac fel arfer mae’n gwella ar ei ben ei hun.

Mewn nifer fach o oedolion hŷn, gall haint RSV arwain at broblemau. Mae pobl â chlefyd yr ysgyfaint neu system imiwnedd wan mewn mwy o berygl. Gall achosi niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) ac, mewn rhai achosion, farwolaeth. Gall RSV hefyd waethygu symptomau cyflyrau’r galon a’r ysgyfaint sy’n bodoli eisoes.

Mae’r rhan fwyaf o heintiau RSV yn digwydd yn yr hydref a’r gaeaf, ond gallwch gael y brechlyn RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Gwybodaeth:

Ffaith: Mae ymchwil diweddar yn dangos y gall y brechlyn feirws syncytiol anadlol leihau’r siawns o dderbyniadau ysbyty. Ymysg pobl rhwng 75 a 79 oed, mae’n lleihau’r risg tua 75%.

Mae’r brechlyn RSV yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro. 

Gwybodaeth:

Helpwch i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Pwy fydd yn cael cynnig brechlyn RSV?

Cewch gynnig brechlyn RSV os ydych chi: 

  • yn 75 oed neu’n hŷn 
  • yn byw mewn cartref gofal i bobl hŷn (waeth beth fo’ch oedran), neu 
  • rhwng 65 a 74 oed ac yn dioddef o un o’r cyflyrau iechyd a restrir isod: 
    • asthma sydd heb ei reoli’n dda – asthma sy’n achosi symptomau’n aml 
    • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) – grŵp o gyflyrau’r ysgyfaint sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu 
    • bronciectasis – cyflwr ar yr ysgyfaint lle mae’r llwybrau anadlu wedi’u difrodi ac yn cynhyrchu llawer o fwcws 
    • ffeibrosis systig – cyflwr genetig sy’n achosi mwcws trwchus yn yr ysgyfaint 
    • ffeibrosis interstitaidd ar yr ysgyfaint – creithio’r ysgyfaint  
    • niwmoconiosis – clefyd yr ysgyfaint a achosir gan anadlu mathau penodol o lwch  
    • dysplasia bronco-pwlmonaidd – cyflwr ar yr ysgyfaint hirdymor sy’n dechrau mewn rhai babanod 
    • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth feddygol 
A oes angen i mi gael y brechlyn bob blwyddyn?

Na. Mae treialon yn dangos bod y brechlyn yn rhoi amddiffyniad da am o leiaf dwy flynedd a’i fod yn debygol o bara’n hirach.

Pa frechlynnau eraill y gallaf fod yn gymwys i’w cael?

Mae’r brechlynnau arferol eraill hyn ar gael i oedolion 65 oed a hŷn: 

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen imiwneiddio a brechlynnau.

Gallwch hefyd weld yr amserlenni imiwneiddio arferol cyflawn ar gyfer Cymru.

Ynglŷn â’r brechlyn

Sut fyddaf yn cael fy mrechiad?

Bydd y GIG yn rhoi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi methu’r gwahoddiad, siaradwch â’ch practis meddyg teulu.

Gallwch gael y brechlyn RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r brechlyn yn cael ei roi trwy chwistrelliad yn rhan uchaf y fraich.

A ellir rhoi’r brechlyn RSV ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir rhoi’r brechlyn RSV ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd yr unigolyn sy’n rhoi eich brechlyn i chi yn rhoi gwybod i chi pa frechlynnau y gellir eu rhoi gyda’i gilydd.

Beth os byddaf yn colli fy apwyntiad?

Os na allwch fynd i’ch apwyntiad brechu, dylech ei ganslo a gwneud apwyntiad newydd. Gallwch gael eich brechiad o hyd, ond byddwch heb amddiffyniad am fwy o amser. 

Diogelwch ac effeithiolrwydd

A yw’r brechlyn RSV yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn RSV yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

 

A oes unrhyw sgil-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ol diwrnod neu ddau.I oedolion hŷn, y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yw: 

Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:  

  • poen, chwyddo a chochni yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad 
  • cur pen/ pen tost 
  • blinder 
  • poenau yn y cyhyrau neu’r cymalau 

Mae sgil-effeithiau prin neu brin iawn o’r brechlyn yn cynnwys: 

  • Syndrom Guillain-Barré (GBS), cyflwr nerfol sy’n gallu achosi gwendid yn y cyhyrau, ac 
  • adweithiau alergaidd, fel chwyddo’r wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech sydd wedi codi ac sy’n cosi). Gall pobl hefyd gael anhawster llyncu neu deimlo’n benysgafn. 

Mae GBS yn gyflwr prin ond difrifol. Y gred yw bod tua 10 i 25 achos o GBS am bob miliwn dos sy’n cael ei roi i bobl hŷn. Gall GBS ddigwydd ar ôl rhai heintiau cyffredin hefyd. Mae hyn yn cynnwys ffliw, anhwylder ar y stumog, ac yn anaml ar ôl brechlynnau eraill. 

Mae’r manteision a ddaw i oedolion hŷn o gael eu brechu yn erbyn RSV yn fwy na’r risg fach y byddant yn datblygu GBS. 

Mynnwch gymorth meddygol ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw un o’r symptomau canlynol ar ôl eich brechlyn.  

  • cosi 
  • diffyg teimlad 
  • gwendid 
  • poen sydyn 
  • pinnau bach 

Gall y symptomau hyn ddigwydd yn eich dwylo, eich coesau, eich breichiau neu eich traed. 

Gofynnwch am apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu ceisiwch gymorth gan GIG 111 Cymru. 

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael y brechiad. Gall hyn achosi anawsterau anadlu a pheri i bobl lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn. 

Mae modd trin pobl sy’n cael adwaith anaffylactig yn llwyddiannus. Fel arfer, maen nhw’n gwella cyn pen ychydig oriau.    

I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau’r brechlyn, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein: 

Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi. 

Os bydd y sgil-effeithiau’n para mwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol. Gallwch hefyd gysylltu ag GIG 111 Cymru drwy ffonio 111. 

Dylech chi roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig). Gallwch chi hefyd lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).              

Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgil-effeithiau. Gallwch helpu drwy roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau y gallech chi eu cael. 

A allaf gael RSV os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o atal salwch difrifol oherwydd RSV. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau RSV, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau ar y llwybr anadlol, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn RSV?

Ychydig iawn o bobl na allant gael y brechiad RSV.  

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:  

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu 
  • gynhwysyn yn y brechlyn.  

Mynnwch air â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol. 

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Os ydych chi yn sâl gyda thymheredd uchel (twymyn) uwchlaw 38.5C, mae’n well aros nes eich bod chi wedi gwella cyn cael y brechlyn. Fodd bynnag, dylech chi geisio cael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os na allwch chi ddod i’ch apwyntiad brechu, dylech ganslo ac aildrefnu’r apwyntiad.  

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad i chi. 

Beth os oes ofn nodwyddau arna i? 

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn. Byddan nhw’n rhoi cymorth i chi. 

Mwy o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Medi 2026