Neidio i'r cynnwys

Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Gwybodaeth brechlyn HPV i weithwyr iechyd proffesiynol

Cefndir

Mae’r feirws papiloma dynol (HPV) yn feirws DNA edefyn dwbl sy’n heintio celloedd epithelia cennog yn cynnwys y croen a philenni lludiog y llwybrau anadlol uchaf a’r llwybrau anogenhedol. Mae haint HPV yn lledaenu drwy gyswllt croen-i-groen agos â rhywun heintiedig. Gall y cyswllt hwn gynnwys rhyw a gweithgareddau rhywiol.  

Mae’r rhan fwyaf o heintiau HPV yn asymptomatig ac yn hunangyfyngol, ond gall haint parhaus ymddangos fel: 

  • defaid gwenerol  
  • rhai mathau o ganser mewn dynion a menywod, yn cynnwys: 
    • Canser ceg y groth 
    • Canser yr anws 
    • Canser y pidyn 
    • Canser y fwlfa  
    • Canser y wain (fagina) 
    • Canser y pen a’r gwddf 

Mae dros 150 math o’r feirws papiloma dynol (HPV). Mae’r feirysau hyn wedi’u dosbarthu fel mathau ‘risg uchel’ neu ‘risg isel’ yn dibynnu ar eu cysylltiad â’r risg o achosi canser. 

Dangoswyd bod brechiad HPV yn hynod effeithiol wrth atal haint HPV ar gyfer y seroteipiau sydd wedi’u cynnwys yn y brechlyn. Dangoswyd hefyd bod gostyngiad dramatig yng nghyfraddau canser ceg y groth yn y rhai sydd wedi derbyn y brechlyn, a gostyngiad mewn achosion o ddefaid gwenerol.   

Amcangyfrifir y bydd 64,000 o ganserau ceg y groth a 50,000 o ganserau eraill wedi’u hatal erbyn 2058, ar ôl 50 mlynedd o’r rhaglen frechu hon (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU 2019) (safle allanol, Saesneg yn unig).

Canllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)   

Dechreuodd y rhaglen frechu HPV yng Nghymru yn 2008 ac mae wedi cael ei hadolygu a’i hehangu ers hynny. Mae’r JCVI yn defnyddio tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg i lywio ei gyngor ar ehangu’r rhaglen frechu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu GOV.UK (gwefan allanol, Saesneg yn unig). 

Rhaglen frechu HPV 

Ers 1 Medi 2023, mae rhaglen frechu HPV yng Nghymru yn argymell: 

Cwrs un dos o’r brechlyn HPV ar gyfer y canlynol: 

  • Pob gwryw a benyw 12-13 oed (blwyddyn ysgol 8)
  • Gwrywod* a benywod mewn carfanau cymwys hyd at 25 oed a fethodd y brechlyn HPV pan gynigiwyd ef neu na allent gael y brechlyn yn yr ysgol (e.e. oherwydd eu bod yn derbyn addysg yn y cartref)
    (* Mae hyn yn berthnasol i wrywod a aned ar ôl 1 Medi 2006) 

Dynion hoyw, dynion deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) hyd at 25 oed sy’n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV. 

Argymhellir amserlen dau ddos ​​o’r brechlyn HPV ar gyfer y canlynol: 

  • GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed sy’n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV. 
  • Ar gyfer y rhai sy’n 25 oed a hŷn, argymhellir amserlen dau ddos ​​o 0, 6-24 mis ar gyfer pob brechlyn HPV. Mae unrhyw fwlch rhwng dosau o rhwng 6 a 24 mis yn dderbyniol yn glinigol. Os torrir ar draws y cwrs, dylid ei ailddechrau ond nid ei ailadrodd, hyd yn oed os oes mwy na 24 mis wedi mynd heibio ers y dos cyntaf. 

Dylid cynnig 3 dos o’r brechlyn HPV i unigolion sy’n gymwys i gael brechiad HPV ac sy’n imiwnoataliedig neu’n HIV positif.  Mae amserlen frechu o 0, 1, 4-6 mis yn briodol ar gyfer y brechlyn HPV i unigolion sy’n HIV positif neu sydd ag imiwnedd gwan. Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r tri dos o fewn cyfnod o 12 mis. Os torrir ar draws y cwrs, dylid ei ailddechrau ond nid ei ailadrodd, ac yn ddelfrydol dylid gadael y cyfnod priodol rhwng y dosau sy’n weddill.  

Mae rhagor o fanylion am amserlennu a chyfnodau ar gael o Feirws Papiloma Dynol (HPV): y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig).

Y brechlyn 

Gardasil 9 (gwefan allanol, Saesneg yn unig) yw enw brand y brechlyn a ddefnyddir yn y DU.   

Mae Gardasil 9 yn rhoi amddiffyniad yn erbyn naw math o HPV risg uchel (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mathau o HPV: Mae 16 a 18 yn fathau o HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau o HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod. 

Canllawiau 

Mae argymhellion ynghylch y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod. 

Y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (safle allanol, Saesneg yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau gan y JVCI; chwiliwch am e.e. HPV. 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Mae polisi diweddaraf Cymru ar HPV i’w weld yma: Diweddariad ynghylch y rhaglen imiwneiddio rhag feirws papiloma dynol. Gweithredu ar symud i drefn un dos o’r brechlyn Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru (WHC/2023/016) (safle allanol) 

Mae rhagor o fanylion i’w gweld mewn dogfennau polisi Cylchlythyrau Iechyd Cymru blaenorol, Cylchlythyrau Iechyd (safle allanol).

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau 

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein eraill a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy’r dudalen E-ddysgu. 

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant. 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Llythyrau templed ac adnoddau  

 

Cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs)  

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol, Saesneg yn unig).   

Rhagor o wybodaeth 

  • Cefnogi sgyrsiau gwell am frechlynnau (safle allanol, Saesneg yn unig): Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, iechyd y cyhoedd ac addysg, i gael sgyrsiau hyderus ac adeiladol gyda rhieni a phobl ifanc am frechiadau HPV.  Noder mai adnodd Saesneg yn unig yw hwn, a gall polisi a chanllawiau brechu fod yn wahanol yng Nghymru.  
  • Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru. 

Data a gwyliadwriaeth 

  • Gellir dod o hyd i ddata gwyliadwriaeth ar nifer y bobl sy’n cael eu brechu’n rheolaidd yn ystod plentyndod yma: COVER – Data cenedlaethol ar imiwneiddio i blant 
  • Gellir dod o hyd i’r dangosfyrddau o’r nifer sy’n cael eu brechu ar gyfer Awdurdodau Lleol, MSOA, Practisiau Meddygon Teulu/Clwstwr ac Ysgolion (staff mewnol y GIG yn unig) ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yma: Imiwneiddio i Blant (COVER) 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Tachwedd 2026