Iechyd meddwl a llesiant meddyliol
Mae iechyd meddwl a lles meddyliol yn gysylltiedig ond yn bethau gwahanol. Gall y ddau amrywio dros amser ac mae ein hamgylchedd a phethau sy’n digwydd o’n cwmpas yn effeithio arnynt.
Mae’r term ‘iechyd meddwl’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio problemau neu gyflyrau iechyd meddwl, ond yn union fel yn achos ‘iechyd corfforol’ gall gyfeirio at bob math o brofiadau. Yn union fel ein hiechyd corfforol, bydd pob un ohonom yn wynebu heriau i’n hiechyd meddwl a’n lles. Ar hyn o bryd mae tua 1 o bob 3 oedolyn ac 1 o bob 5 person ifanc yn wynebu lles meddyliol isel.
Lles meddyliol yw’r teimlad cadarnhaol mewnol ein bod yn ymdopi’n dda â straen bywyd bob dydd. Mae’n hanfodol i’n hiechyd cyffredinol. Gellir ystyried cyflwr o lesiant cadarnhaol fel “teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda”. Mae’n dylanwadu ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu.
Mae ein lles meddyliol unigol yn cael ei lunio nid yn unig gan ein profiadau personol, ond hefyd gan yr amgylchiadau a’r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Mae ffactorau fel perthnasoedd, gwaith, addysg, tai, diogelwch a chysylltiad i gyd yn chwarae rhan bwysig.
Mae iechyd meddwl yn gyflwr o les meddyliol sy’n galluogi pobl i ymdopi â straen bywyd, gwireddu eu galluoedd, dysgu’n dda a gweithio’n dda, a chyfrannu at eu cymuned. Mae’n elfen annatod o iechyd a lles sy’n sail i’n galluoedd unigol ac ar y cyd i wneud penderfyniadau, meithrin perthnasoedd a llunio’r byd rydym yn byw ynddo. Mae iechyd meddwl yn hawl ddynol sylfaenol. Ac mae’n hanfodol i ddatblygiad personol, cymunedol ac economaidd-gymdeithasol. Gall pobl ag iechyd meddwl gwael gael cyflwr iechyd meddwl ond nid yw hyn bob amser nac o reidrwydd yn wir.
Mae cyflyrau iechyd meddwl yn derm eang sy’n cwmpasu cyflyrau sy’n effeithio ar emosiynau, meddwl ac ymddygiad, ac sy’n amharu’n sylweddol ar ein bywydau. Gall cyflyrau iechyd meddwl effeithio’n sylweddol ar fywyd bob dydd, gan gynnwys ein gallu i weithio, gofalu amdanom ni ein hunain a’n teulu, a’n gallu i uniaethu a rhyngweithio ag eraill. Mae’n derm sy’n cael ei ddefnyddio i gwmpasu sawl cyflwr (e.e. iselder, anhwylder straen ôl-drawmatig, sgitsoffrenia) gyda symptomau ac effeithiau gwahanol am wahanol gyfnodau o amser, ar gyfer pob person. Gall cyflyrau iechyd meddwl amrywio o salwch ysgafn i salwch difrifol a pharhaus. Mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol o brofi lefelau is o lesiant corfforol a meddyliol, ond nid yw hyn bob amser nac o reidrwydd yn wir. Gallwch chi fyw’n dda wrth fyw gyda diagnosis o gyflwr iechyd meddwl.
Beth alla i ei wneud ar gyfer fy iechyd meddwl a’m lles?
Cymerwch gamau dros iechyd meddwl a lles:
- Mae Hapus yn lle sy’n ymroddedig i les meddyliol. Mae syniadau ac adnoddau’n cael eu rhannu i’n hysbysu a’n hysbrydoli ni i gyd i gymryd camau i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol a lles meddyliol pobl eraill. Dysgwch fwy am Hapus
- Melo – hunangymorth am ddim ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch lles. Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth i’ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles. Dysgwch fwy am Melo(Saesneg yn unig)
- Mae Darllen yn Dda er Iechyd a Lles yng Nghymru yn eich cefnogi i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles gan ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol sydd ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae’r holl lyfrau wedi’u hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau y cyfeirir atyn nhw, a’u perthnasau a’u gofalwyr. Dysgwch fwy am Ddarllen yn Dda er Iechyd a Lles
Mynediad at gymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl: Mae cymorth cyfrinachol, am ddim ar gael gan:
- GIG 111 Cymru – Pwyswch 2
Cymorth iechyd meddwl brys, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i bob oed.
Ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2.
- FFONIWCH Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru
Cymorth a chyngor emosiynol cyfrinachol, 24/7.
Rhadffôn 0800 132 737 neu anfonwch neges destun gyda’r gair “help” i 81066.
- Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Llinell gymorth i unrhyw un dros 18 oed sy’n uniaethu fel pobl Dduon, Asiaidd a grwpiau ethnig lleiafrifol eraill: 0800 144 8824
- Cymorth Lles LHDTC+
Mae Sefydliad LHDT yn cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol: 0345 330 30 30
- Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth am ddim i’ch helpu i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod eich bywyd yn dod yn fwy pleserus a’ch bod yn teimlo’n fwy abl i ymdopi â meddyliau neu deimladau pryderus
- Os ydych chi’n cael trafferth gyda meddyliau am hunanladdiad, ffoniwch y Samariaid ar 116 123 neu ewch i Staying Safe (Saesneg yn unig) i greu eich cynllun diogelwch eich hun.
Os ydych chi’n pryderu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol o niweidio ei hun neu rywun arall, ffoniwch 999.
Cyhoeddiadau
- Lles Cymru
Cynnydd cenedlaethol yn erbyn nodau lles, gan gynnwys lles meddyliol.
Arsylfa
- Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru – Data a dadansoddiad
Data, dangosfyrddau a dadansoddiadau ar lefel y boblogaeth ar iechyd a lles yng Nghymru. - Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSS)
System wyliadwriaeth i gefnogi atal ac ymateb amserol yng Nghymru.
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Adroddiadau
Data
-
Ystadegau iechyd meddwl Llywodraeth Cymru: dangosfwrdd rhyngweithiol
Mae’r dangosfwrdd hwn yn dwyn ynghyd holl ddata iechyd meddwl cyfredol a gyhoeddir ar StatsCymru…
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolen i lawrlwytho taenlen Excel hygyrch sy’n cynnwys y data…
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys y tablau data sy’n gysylltiedig â’r dangosfwrdd iechyd a llesiant…
-
Offeryn adrodd asedau iechyd
Mae’r dangosyddion a gyflwynir yn cynnwys ystod o bynciau ar draws tri maes: Pobl (Iechyd,…