Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw dylunio systemau? A beth sy’n ofynnol i’w ymgorffori yn eich arferion? Mae’r gweminar hwn yn gyflwyniad i’r Cyngor Dylunio sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu fframweithiau sy’n helpu sefydliadau i ymgorffori ymarfer dylunio a ffyrdd newydd o weithio. Mae Jessie Johnson, Arweinydd Arloesedd Dylunio yn y Cyngor Dylunio, yn cyflwyno pwy yw’r Cyngor Dylunio eu diffiniad o ddylunio, cysyniad dylunio systemau a fframwaith dylunio systemig y Cyngor Dylunio…

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw dylunio systemau? A beth sy’n ofynnol i’w ymgorffori yn eich arferion?

Mae’r gweminar hwn yn gyflwyniad i’r Cyngor Dylunio sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu fframweithiau sy’n helpu sefydliadau i ymgorffori ymarfer dylunio a ffyrdd newydd o weithio.

Mae Jessie Johnson, Arweinydd Arloesedd Dylunio yn y Cyngor Dylunio, yn cyflwyno pwy yw’r Cyngor Dylunio eu diffiniad o ddylunio, cysyniad dylunio systemau a fframwaith dylunio systemig y Cyngor Dylunio – canllaw sy’n ceisio helpu sefydliadau i ddeall dylunio systemau a’i ymgorffori’n ymarferol.

Adnoddau ychwanegol:

Economi Ddylunio: Darganfyddwch werth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol dylunio yn y Deyrnas Unedig (Yn Saesneg yn unig mae’r adnodd hwn ar gael)

Y Diemwnt Dwbl: Darlun o’r broses ddylunio a dderbynnir yn gyffredinol (Yn Saesneg yn unig mae’r adnodd hwn ar gael)

Fframwaith Dylunio Systemig (Yn Saesneg yn unig mae’r adnodd hwn ar gael)

Fideos Nodweddion Ysgogwyr Newid (Yn Saesneg yn unig mae’r adnodd hwn ar gael)

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais


  • Gweminar