Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – 14 Gorffennaf 2026
Gwybodaeth am y cyfarfod
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n un o Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2025/26 ar draws ein rolau a’n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.
Eleni, bydd cyflwyniad ar yrfaoedd a phrentisiaethau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yna digwyddiad Darganfod Gyrfaoedd.
Bydd y digwyddiad yn ddigwyddiad ar ffurf diwrnod agored lle gallwch ddod i weld pa fath o swyddi a llwybrau gyrfa sydd gennym yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y staff ar y stondinau yn arddangos eu gwaith gyda gweithgareddau rhyngweithiol ac arddangosiadau byw.
Cwestiynau i’r Bwrdd o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2026
Cwestiwn 1
“A fyddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried cyflwyno cydnabyddiaeth gwasanaeth hir i staff?”
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol: Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Weithdrefn Cydnabod Gweithwyr ar waith. Diben y weithdrefn hon yw sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i’r sefydliad ac am eu hymrwymiad i’r GIG. Mae ein Gweithdrefn Cydnabod Gweithwyr yn cynnwys pedwar gwobr mewn gwasanaeth ac un wobr y gellir ei derbyn ar ymddeoliad.
Mae rhagor o fanylion ar ein tudalen Polisi Gweithlu ac ar dudalen Cydnabod Gweithwyr y fewnrwyd:
Cwestiwn 2
“Gyda’r pwysau parhaus ar y gweithlu, ac achosion busnes ar gyfer swyddi clinigol yn yr adran sgrinio yn cael eu gwrthod (hyd yn oed os ydynt o fewn y sefydliad), sut mae’r bwrdd yn bwriadu gwella morâl staff clinigol yn y 12 mis nesaf?”
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: Rydym yn cydnabod y gall pwysau parhaus ar y gweithlu, ynghyd â’r anallu i gymeradwyo rhai swyddi yn yr Adran Sgrinio, effeithio ar forâl staff. Oherwydd y cyfyngiadau ariannol, ni ellir cefnogi pob cais am y gweithlu, ac mae’r Adran wedi ymrwymo i wella profiad ein gweithlu clinigol drwy raglen ehangach o gefnogaeth ac ymgysylltu, gan gynnwys cryfhau cynllunio’r gweithlu, blaenoriaethu recriwtio i swyddi rheng flaen hanfodol, buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu teg, gwella gwelededd arweinyddiaeth ac ymgysylltu staff, a mynd i’r afael â’r materion diwylliannol a gweithredol a amlygwyd drwy adborth staff ac adolygiadau gwasanaeth diweddar.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch y gweithlu yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â diogelwch, cynaliadwyedd, a gweledigaeth hirdymor y sefydliad. Byddwn yn parhau i weithio gyda thimau Adrannol i nodi cyfleoedd i leihau pwysau, gwella amgylcheddau gwaith, a chefnogi llesiant, cadw staff a datblygiad proffesiynol ar draws yr Adran Sgrinio. Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i’r Adran Sgrinio.
Cwestiwn 3
“Sut bydd barn cyfranogwyr sgrinio a staff yr adran sgrinio yn cael ei cheisio ar gyfer unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau yn ystod y 12 mis nesaf?”
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: Bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth yn cael eu datblygu trwy raglen o ymgysylltu ac ymwneud â chyfranogwyr sgrinio a staff yr Adran Sgrinio. Bydd cyfleoedd i staff adolygu cynigion, cyfrannu syniadau a helpu i lunio cynlluniau gweithredu cyn cyflwyno newidiadau sylweddol. Bydd adborth yn dylanwadu’n weithredol ar y broses benderfyniadau, gyda chyfathrebu clir ynghylch sut mae safbwyntiau wedi’u hystyried a’u hymgorffori yn y cynigion terfynol.
I gyfranogwyr, mae gennym bartneriaethau â grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gefnogi casglu mewnwelediad trwy arolygon wedi’u targedu, grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgysylltu i gasglu gwybodaeth, gan ddefnyddio arolygon lleol, ffurflenni ar-lein a negeseuon testun SMS, i lywio dylunio gwasanaethau, trwy gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu lle bo’n briodol. Bydd newidiadau yn y ffordd y darperir gwasanaethau yn gofyn am gyfranogiad ac ymgynghori â Llais er mwyn sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i effaith unrhyw newidiadau arfaethedig yn y ffordd y darperir gwasanaethau ar gyfranogwyr.
Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig: Bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar wella Ansawdd ein gwasanaethau yn unol â’r Ddyletswydd Ansawdd a’n hymrwymiad i wasanaethau sy’n Ddiogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg ac yn Canolbwyntio ar Unigolion. Mae ymgysylltu a chyd-gynhyrchu’n rhan annatod o’r dull hwn.
Rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai grwpiau yn y boblogaeth yn profi rhwystrau gwahanol i gymryd rhan mewn sgrinio.
Mae ein Strategaeth Tegwch Sgrinio, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector iechyd a’r trydydd sector yn nodi ein gweledigaeth, sef y gall pawb yng Nghymru sy’n gymwys am sgrinio gael hynny’n hawdd gyda chyfle teg i gymryd rhan. Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cydweithio â Byrddau Iechyd Lleol, y Trydydd Sector, a phobl ledled Cymru i wneud i hyn ddigwydd. Mae’r strategaeth yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i weithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ond hefyd â phobl sy’n gweithio gyda chymunedau mewn llywodraeth leol, y sector cyhoeddus ac elusennau. Byddwn yn defnyddio perthnasoedd sefydledig i gynnwys llais y defnyddiwr gwasanaeth mewn unrhyw newidiadau, gan gynnwys sicrhau bod grwpiau sydd heb eu gwasanaethau’n ddigonol yn cael eu cynrychioli.
Yn ogystal ag ymgysylltu ynghylch y newidiadau arfaethedig, mae’r Is-adran Sgrinio wedi gweithio’n galed gyda chydweithwyr o Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig i wella sut rydym yn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i roi adborth i ni, a sut rydym yn gwrando ar ymatebion fel mater o drefn yn ein gwaith bob dydd.
Cwestiwn 4
“Sut mae strategaethau’r byrddau wedi llwyddo i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf?”
Cadeirydd: Cydnabod anghydraddoldebau iechyd a gwneud rhywbeth yn eu cylch yw’r ffordd orau o wneud gwahaniaeth i iechyd hirdymor ein ffrindiau, ein teuluoedd a’n cymunedau. Pan rydyn ni’n sôn am flociau adeiladu iechyd, allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain mewn gwirionedd, ac felly yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gwneud mwy o waith nag erioed gyda Chwaraeon Cymru a CGGC, lle rydyn ni’n cydweithio â’r sectorau gwirfoddol a chymunedol ochr yn ochr â chwaraeon a gweithgarwch corfforol i geisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau. Bydd yn cymryd amser i newid y sefyllfa, ond mae gennym ni rai prosiectau gwych fel Pipyn a Pipyn actif sy’n dangos i ni beth yn union y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd.
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles: Mae’r rhaglen dybaco yn un o’n hesiamplau cryfaf o gyffredinoliaeth gymesur ac ymateb i anghydraddoldebau iechyd ar waith. Rydym yn defnyddio monitro manwl o amddifadedd, oedran, ethnigrwydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol i lunio’r ddarpariaeth ac rydym wedi gweld canlyniadau teg o ran y grwpiau sy’n rhoi’r gorau i ysmygu.
Dydyn ni ddim yn mesur faint o bobl sy’n rhoi’r gorau i ysmygu’n unig; rydyn ni’n mesur pwy sy’n rhoi’r gorau iddi, ac mae ein data yn dangos canlyniadau teg ar draws amddifadedd, ethnigrwydd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn cynnal archwiliadau iechyd y cyhoedd rheolaidd o’r mater hwn.
Drwy ymgyrchoedd wedi’u targedu, gwasanaethau mewn ysbytai, cymorth mamolaeth a chyflenwi cymunedol, rydym yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu wrth helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: Mae ein gwaith ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy ein rhaglenni sgrinio wedi’i ategu gan y Strategaeth Tegwch ym maes Sgrinio. Mae hyn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a chymunedau sy’n cael eu tan-sgrinio i fanteisio ar eu cynnig sgrinio, gan gynnwys cymunedau sydd â diddordeb cyffredin a chymunedau daearyddol. Mae cyd-gynhyrchu, cynnwys a chydweithio â phartneriaid wrth wraidd ein gwaith i sicrhau’r ymgysylltiad gorau posibl â chymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu, fel pobl ag anableddau dysgu, niwroamrywiaeth, traws, anneuaidd, a chymunedau ffydd. Rydym yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth sgrinio i weithwyr iechyd cymunedol a hyrwyddwyr i gefnogi gwaith ar lefel gymunedol. Rydym hefyd yn gwella mynediad trwy ddefnyddio unedau sgrinio symudol mewn lleoliadau cymunedol lleol.
Mae pob un o’r meysydd ffocws hyn yn helpu i leihau anghydraddoldebau ac rydym yn cydnabod yr angen i barhau i ddatblygu dulliau arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol: Mae ein strategaeth hirdymor yn nodi ein hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae maint yr her yn sylweddol gyda data diweddar yn dangos bod disgwyliad oes iach wedi gostwng am y trydydd cyfnod yn olynol (2019/21 i 2021/23), i wrywod a benywod ac ers 2020-2022, mae disgwyliad oes iach menywod wedi bod yn is na dynion. Ar ben hynny, mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y rhai sy’n byw yn ardaloedd y pumed â’r amddifadedd lleiaf wedi bod yn cynyddu i fenywod a dynion.
Mae gennym raglen draws-sefydliadol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd wedi’i ymgorffori yn ein chwe blaenoriaeth strategol. Rydym yn gwneud hyn drwy ganolbwyntio’n barhaus ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ein gwasanaethau (er enghraifft ein gwasanaethau sgrinio a’n gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu), cefnogi datblygu a rhoi polisïau ar waith, gweithio gyda’n partneriaid a thrwyddynt gan gynnwys y system iechyd a gofal, defnyddio data, ymchwil, gwerthuso a dysgu rhyngwladol a gwella data anghydraddoldebau iechyd.
Cwestiwn 5
“Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud ar gyfer dementia?”
Prif Weithredwr: Mae atal dementia wedi’i wreiddio yn null cwrs bywyd y sefydliad, gyda gwaith yn cwmpasu’r blynyddoedd cynnar, ymddygiadau iach, a chefnogaeth i ofalwyr, yn ogystal â chydweithio â rhwydweithiau a’r comisiynydd pobl hŷn.
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles: Oherwydd bod ffactorau risg sy’n gysylltiedig â dementia hefyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd mawr eraill, gan gynnwys ysmygu, anweithgarwch corfforol, defnydd niweidiol o alcohol, gordewdra, diabetes, pwysedd gwaed uchel, clefyd cardiofasgwlaidd, arwahanu cymdeithasol a llesiant meddyliol gwael. Rydym yn canolbwyntio ar leihau’r risg o ddementia drwy ystod o raglenni atal sy’n cefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu, bod yn fwy egnïol yn gorfforol, cyflawni a chynnal pwysau iach, gwella iechyd a llesiant cardiofasgwlaidd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd cadw pobl yn iach am hirach a lleihau’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â dementia yn gwneud gwahaniaeth i ddechrau a chyfraddau dementia yn y boblogaeth.
Rydym hefyd yn cefnogi GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddeall anghenion y boblogaeth yn y dyfodol ar gyfer gofal dementia a chynllunio gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio. Enghraifft ddiweddar o hyn yw’r gwaith gyda phartneriaid i ddarparu tystiolaeth a chyngor iechyd cyhoeddus i gefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd yr ymennydd, gan gynnwys yr ymgyrch Take Five for Dementia, sy’n annog pobl i gymryd camau ymarferol i ofalu am iechyd eu hymennydd drwy gydol eu hoes.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sefydliadau’r trydydd sector a rhwydweithiau dementia i gefnogi blaenoriaethau dementia cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl, hyrwyddo cymunedau sy’n gyfeillgar i oedran a dementia, a sicrhau bod atal a heneiddio iach wedi’u hymgorffori ar draws polisi ac ymarfer yng Nghymru.
Recordiad o'r cyfarfod
Yn Saesneg yn unig mae'r fideo hwn ar gael