Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys – adroddiad terfynol
Cyhoeddwyd ar: 31ain Mawrth 2023
- Blynyddol
Dyma grynodeb o’r Adroddiad Terfynol ar y Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2023.
Mae’r papur hwn yn adolygu’r effaith a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod Rhaglen Genedlaethol Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSBau) Cymru Gyfan. Dechreuodd y rhaglen yng ngaeaf 2020/2021 fel rhan o ffrwd waith 24/7 y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ac fe’i cwblhawyd ym mis Mawrth 2023. Adeiladodd hyn ar gynlluniau peilot a ddechreuodd ym mis Ionawr 2019.
Ceisiodd y Rhaglen ddylunio a darparu, trwy gyllid ychwanegol, fodel gofal sylfaenol brys newydd i boblogaeth Cymru. Y nod oedd darparu gofal sylfaenol brys di-dor, ar lefel leol, ni waeth y ffiniau sefydliadol, i bobl o fewn 8 awr iddynt gysylltu â’u gwasanaeth lleol. Bydd y papur hwn yn cyfuno’r dysgu o Gam 3 â’r dysgu o Gamau 1 a 2, (Medi 2020 – Mawrth 2023), gan ddangos arloesedd eithriadol, gallu i addasu a ffocws ar gleifion gan yr holl gyfranogwyr.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys - adroddiad terfynol
Word doc, 239KB
Llawrlwytho Word doc - Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys - adroddiad terfynol (239 KB)
Llawrlwytho Word docAdroddiadau perthnasol
-
Fframwaith Galluoedd a Hyfforddiant Amlbroffesiynol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cynhwysiant, Carchardai a Dalfeydd yng Nghymru
Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r galluoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau allweddol ar gyfer staff gofal iechyd aml-broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl sydd â nifer o anghenion iechyd a gofalcymdeithasol difrifol […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Cefnogi Ymddygiadau Iach: Canllaw ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol
Amlygodd Cymru Iachach yr angen i symud tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl a chefnogi cynaliadwyedd ein system iechyd a […]
Cyhoeddwyd:
-
Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol 2022 i 2024
Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol , sy’n cwmpasu mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024, wedi’i ddylunio i gefnogi’r gwaith o weithredu elfennau sylfaenol a gofal yn y gymuned […]
Cyhoeddwyd: 1af Ebrill 2022
-
Deall Ymddygiad y Gweithlu Gofal Sylfaenol o ran Cefnogi Pobl i Reoli eu Pwysau
Mae gordewdra a rheoli pwysau yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol sydd ar gynnydd yng Nghymru. Ar lefel polisi, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r achosion o ordewdra drwy […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2021
-
Cefnogi Rheoli Pwysau Ôl-enedigol mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Edrychodd ein hymchwil ar sut y gellir ymwreiddio cefnogaeth rheoli pwysau ôl-enedigol mewn gofal sylfaenol neu gymunedolarferol.
Cyhoeddwyd:
-
Deall Ymddygiad y Gweithlu Gofal Sylfaenol o ran Cefnogi Pobl i Reoli Eu Pwysau: Crynodeb
Mae’r ddogfen hon yn adroddiad cryno ar y ddealltwriaeth o ymddygiad y gweithlu gofal sylfaenol o ran cefnogi pobl i reoli eu pwysau. Mae adroddiad technegol llawn, a gynhyrchwyd gan […]
Cyhoeddwyd: