Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 20fed Tachwedd 2025

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Fel rhan o weledigaeth 20 mlynedd y DU i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfres o Gynlluniau Gweithredu cenedlaethol pum mlynedd.

I gyd-fynd â’r ail o’r Cynlluniau Gweithredu AMR ar gyfer y DU (2024/25 – 2029/30), cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd (WHC/2024/038) gan Lywodraeth Cymru. Roedd y cylchlythyr yn diffinio nodau gwella yn seiliedig ar ddata sylfaenol 2019/20. Un amcan allweddol oedd lleihau cyfanswm y defnydd o eitemau gwrthficrobaidd mewn gofal sylfaenol erbyn 2029/30. Roedd hyn yn gyson â gostyngiad o isafswm o 10% yn erbyn lefelau sylfaenol 2019/20.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael y dasg o adrodd ar y cynnydd yn erbyn y nodau gwella hyn. Mae’r adroddiad hwn, a baratowyd gan y tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol, yn cyflwyno’r sefyllfa bresennol o ran Deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.

Hoffem gydnabod a diolch i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) a Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP) Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025

PDF, 4MB

Llawrlwytho PDF - Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025 (4 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Adroddiad monitor Cyllun Gwên 2024 i 2025

    Mae 32.4% o blant 5 oed yng Nghymru wedi profi pydredd dannedd. Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig fod ddwywaith yn fwy tebygol o gael pydredd dannedd ac […]

    Cyhoeddwyd:

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]

    Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026

  • Ffeithlun ar bresgripsiynu gwrthficrobaidd deintyddol gan y GIG mewn gofal sylfaenol yng Nghymru 2019 i 2025

    Mae’r ffeithlun hwn yn grynodeb o ddadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd deintyddol gan y GIG mewn gofal sylfaenol yng Nghymru 2019–2025. Mae’n dangos eitemau a Dosau Diffiniedig Dyddiol fesul 1,000 o […]

    Cyhoeddwyd: 20fed Tachwedd 2025

  • Adroddiad canser y geg 2025

    Mae’r sleidiau hyn yn rhoi crynodeb o ystadegau canser y geg yn seiliedig ar Adroddiad Canser y Geg 2025, camau gweithredu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a Byrddau Iechyd, a […]

    Cyhoeddwyd: 1af Tachwedd 2025

  • Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd 2019 i 2020

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad o ddata atgyfeirio o’r System Rheoli Atgyfeirio electronig (eRMS) ar gyfer rheoli pydredd dannedd mewn plant, gan gynnwys gwybodaeth gan Fyrddau Iechyd am nifer y […]

    Cyhoeddwyd:

  • Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd 2022 i 2023

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad o ddata atgyfeirio o’r System Rheoli Atgyfeirio electronig (eRMS) ar gyfer rheoli pydredd dannedd mewn plant, gan gynnwys gwybodaeth gan Fyrddau Iechyd am nifer y […]

    Cyhoeddwyd:

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig