Oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Mae allgáu digidol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd, ond mae llawer o sefydliadau’n wynebu heriau o ran nodi, deall a mynd i’r afael â’i effaith. Yn y weminar hon, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy’n archwilio’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd. Cyfunodd y prosiect adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid, a mewnwelediadau gan Banel Cynghori â phrofiad…
Mae allgáu digidol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ffactor sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd, ond mae llawer o sefydliadau’n wynebu heriau o ran nodi, deall a mynd i’r afael â’i effaith. Yn y weminar hon, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy’n archwilio’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd. Cyfunodd y prosiect adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau â rhanddeiliaid, a mewnwelediadau gan Banel Cynghori â phrofiad rheng flaen o allgáu digidol.
Bydd y weminar yn cyflwyno cyfres o adnoddau a gynhyrchwyd ar y cyd a gynlluniwyd i gefnogi ymarferwyr, darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi i ddeall y berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd yn well a darparu gwasanaethau mwy cynhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys canllaw ymarferol, ffeithlun, a phersonâu ymarferwyr sy’n dangos sut mae allgáu digidol yn effeithio ar wahanol grwpiau poblogaeth a sut y gellir teilwra cymorth i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael trosolwg o’r dystiolaeth, gwersi allweddol o’r prosiect, ac offer ymarferol i helpu i nodi, mynd i’r afael ag, a gwerthuso allgáu digidol o fewn eu sefydliadau a’u cymunedau eu hunain.
Deilliannau Dysgu
- Datblygu gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau iechyd a chydnabod pam mae allgáu digidol yn fater iechyd y cyhoedd pwysig.
- Cydnabod y ffyrdd amrywiol y profir allgáu digidol a’r goblygiadau ar gyfer dylunio a darparu gwasanaethau.
- Cymhwyso a/neu addasu adnoddau’r prosiect i fyfyrio ar allgáu digidol yn eu cyd-destun eu hunain, nodi camau gweithredu posibl, a chefnogi dylunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau, mentrau, rhaglenni neu ymyriadau mwy cynhwysol.
- Gweminar