Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ymestyn Mangreoedd Di-fwg Presennol ac Arfaethedig yn Fannau Cyhoeddus Di-fêp yng Nghymru

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 30ain Hydref 2026

Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg a roddwyd ar waith yng Nghymru ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig, gan ymestyn amddiffyniadau rhag mwg ail-law y tu hwnt i weithleoedd a mannau cyhoeddus caeëdig i leoliadau a ddefnyddir gan blant, teuluoedd a’r cyhoedd ehangach. Mae hyn yn adlewyrchu newid mwy cyffredinol tuag at greu amgylcheddau lle mae bod yn ddi-fwg yn ddisgwyliad
cymdeithasol ac y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw yn rhydd rhag tybaco. Mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn golygu y gellir ystyried ymestyn gofynion di-fêp i leoliadau cyhoeddus awyr agored ychwanegol. Mae hyn yn creu cyfle i Gymru gynnwys fepio mewn cyfyngiadau di-fwg presennol ac yn y dyfodol, yn enwedig mewn lleoliadau a ddefnyddir gan blant, pobl ifanc a grwpiau eraill a allai fod yn agored i niwed.


Nid yw deddfwriaeth ddi-fwg Cymru yn cynnwys gofynion di-fêp, ar hyn o bryd, gan adael i sefydliadau, tirfeddianwyr a darparwyr gwasanaethau unigol benderfynu ble y caniateir fepio. Er bod fepio’n gallu helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu a lleihau niwed ymhlith oedolion sy’n ysmygu, ceir pryderon o hyd ynglŷn â nifer y bobl ifanc sy’n dechrau fepio ac yn mynd yn ddibynnol ar nicotin, amlygiad ail law i aerosol, normaleiddio defnyddio nicotin, a chydymffurfio â pholisïau di-fwg. Felly, mae’n rhaid i bolisi yn y dyfodol gydbwyso rôl fepio wrth leihau niwed ag amddiffyn grwpiau sy’n agored i niwed ac atal dechrau defnyddio nicotin a’i normaleiddio ymhlith plant a phobl ifanc.


Dylid darllen y briff hwn ochr yn ochr â briff polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru (2026), Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru: Cyfleoedd trwy’r Ddeddf Tybaco a Fêps. Mae’r briff cysylltiedig yn
canolbwyntio ar y sail resymegol a’r dystiolaeth ynglŷn ag ymestyn gofynion di-fwg i leoliadau cyhoeddus awyr agored ychwanegol, tra bod y briff hwn yn archwilio’r achos dros gynnwys gofynion di-fêp o fewn amgylcheddau di-fwg presennol ac yn y dyfodol. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn ag effeithiau ar iechyd y cyhoedd, ystyriaethau gweithredu, goblygiadau tegwch ac opsiynau
polisi sy’n gysylltiedig ag ymestyn gofynion di-fêp ar draws mannau cyhoeddus dan do ac awyr agored yng Nghymru. Ei ddiben yw cefnogi datblygu polisi wedi’i lywio gan dystiolaeth sy’n amddiffyn iechyd y boblogaeth ar yr un pryd â chynnal cymorth i roi’r gorau i ysmygu ac uchelgais hirdymor Cymru i gyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ymestyn Mangreoedd Di-fwg Presennol ac Arfaethedig yn Fannau Cyhoeddus Di-fêp yng Nghymru

PDF, 317KB

Llawrlwytho PDF - Ymestyn Mangreoedd Di-fwg Presennol ac Arfaethedig yn Fannau Cyhoeddus Di-fêp yng Nghymru (317 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru

    Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg a roddwyd ar waith yng Nghymru ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig, gan ymestyn amddiffyniadau rhag mwg ail-law yn gynyddol y tu hwnt i weithleoedd […]

    Cyhoeddwyd: 30ain Hydref 2026

  • Fepio a Smygu ymhlith dysgwyr ym Mlwyddyn 7 i 11 yng Nghymru

    Dadansoddiad o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr(SHW) mewn Ysgolion Uwchradd y RhwydwaithYmchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), 2025.

    Cyhoeddwyd:

  • Ymyriadau rhoi’r gorau i ysmygu: map dystiolaeth

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Mehefin 2027 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig at gorff cadarn, cyfoes o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau ynghylch […]

    Cyhoeddwyd: 22ain Ionawr 2024

  • Tybacoymyriadau atal a dadnormaleiddio: map dystiolaeth

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Chwefror 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn nodi ac yn amlinellu’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud ag atal (lleihau’r nifer sy’n […]

    Cyhoeddwyd: 1af Chwefror 2024

  • Adolygiad o’r Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio

    Cefndir Smygu yw prif achos o hyd marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru, ac roedd smygu yn gyfrifol am 3,845 o farwolaethau ar gyfartaledd ymhlith oedolion 35 oed neu’n […]

    Cyhoeddwyd: 13eg Hydref 2025

  • Cost ysmygu yng Nghymru

    Cefndir a chyd-destun strategol Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rheoli tybaco dros y degawdau diwethaf ac mae ganddi ymrwymiad polisi cryf i sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030. […]

    Cyhoeddwyd: 9fed Gorffennaf 2026

Yn ôl i'r brig