Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 30ain Hydref 2026

Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg a roddwyd ar waith yng Nghymru ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig, gan ymestyn amddiffyniadau rhag mwg ail-law yn gynyddol y tu hwnt i weithleoedd a mannau cyhoeddus caeëdig i ystod o amgylcheddau, gan gynnwys y rhai hynny a ddefnyddir gan blant a theuluoedd. Trwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, estynnwyd gofynion di-fwg i dir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus, lleoliadau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn yr awyr agored, cerbydau sy’n cludo plant a thir ysbytai. Estynnodd mesurau dilynol amddiffyniadau di-fwg i lety gwyliau hunangynhwysol ac unedau iechyd meddwl. Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu newid ehangach i bolisi rheoli tybaco o amddiffyn unigolion yn unig rhag amlygiad i fwg ail-law tuag at greu amgylcheddau lle mae ysmygu’n llai amlwg, yn llai derbyniol, ac yn cael ei ystyried fwyfwy yn rhywbeth sy’n groes i ddisgwyliadau cymdeithasol.

Mae’r newid hwn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc, y mae’r amgylcheddau maen nhw’n byw, dysgu a chymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar eu hagweddau a’u hymddygiad. Trwy leihau amlygrwydd a derbynioldeb ysmygu mewn lleoliadau pob dydd, gall polisïau di-fwg gyfrannu at ddadnormaleiddio defnyddio tybaco, gan helpu i leihau nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu yn y dyfodol
ar yr un pryd â pharhau i amddiffyn pobl nad ydynt yn ysmygu rhag amlygiad i fwg ail-law. Mae cyfleoedd o hyd i gryfhau’r buddion hyn mewn mannau cyhoeddus awyr agored nad ydynt yn dod o dan y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys parciau, traethau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, ardaloedd aros am drafnidiaeth, digwyddiadau awyr agored a lleoliadau lletygarwch, lle y gallai ymestyn polisïau di-fwg leihau amlygiad i fwg ail-law ac amlygrwydd ysmygu mewn mannau a fynychir yn aml gan blant a theuluoedd, gan gefnogi uchelgeisiau ehangach am Gymru Ddi-fwg.

Ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn gyfle pwysig i gryfhau mesurau rheoli tybaco a helpu i greu cenhedlaeth ddi-fwg. Yn ogystal â mesurau a gynlluniwyd i roi terfyn ar werthu cynhyrchion tybaco i genedlaethau’r dyfodol yn raddol, mae’r Ddeddf yn cynnwys pwerau i ymestyn cyfyngiadau di-fwg (a chreu mannau cyhoeddus di-fêp dan do ac yn yr awyr agored – nad yw’r briff hwn yn ymdrin ag ef), gan ddarparu dull deddfwriaethol o ddatblygu polisi ymhellach yng Nghymru.

Dylid darllen y briff hwn ochr yn ochr â briff polisi cynharach Iechyd Cyhoeddus Cymru (2022), ‘Ymestyn Deddfwriaeth Ddi-fwg Bresennol Cymru i Fannau Awyr Agored Cyhoeddus Eraill’. Sefydlodd y briff cynharach y sail resymegol dros ymestyn amgylcheddau awyr agored di-fwg yng Nghymru o safbwynt iechyd y cyhoedd, tra bod y diweddariad hwn yn cynnwys canfyddiadau o adolygiad cyflym o dystiolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen yn darparu’r sylfaen dystiolaeth fwyaf cyfredol i gefnogi datblygu polisi yn y dyfodol yng Nghymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru

PDF, 221KB

Llawrlwytho PDF - Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru (221 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig