Cyflwyniad i Hunan-niweidio a Hunanladdiad
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar bobl ifanc, hunan-niweidio a hunanladdiad. Bydd yn amlinellu iechyd meddwl pobl ifanc, y materion mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’r rhesymau pam mae pobl ifanc yn niweidio’u hunain, y gwahaniaeth rhwng hunan-niweidio a hunanladdiad a ffyrdd o gefnogi pobl ifanc sy’n gwneud y pethau hyn. Byddwn ni’n edrych ar ffyrdd o helpu pobl ifanc a staff i ymdopi.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n hunan-niweidio neu’n arddangos syniadaeth hunanladdiad.