Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Sut gallai cytundebau masnach newydd effeithio ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Sut gallai cytundebau masnach newydd effeithio ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn dilyn ei hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn trafod cytundebau masnach rydd rhyngwladol am y tro cyntaf ers bron 50 mlynedd.  Mae hyn yn cyflwyno risg a chyfleoedd o ran iechyd y cyhoedd.

Mae gan gytundebau masnach y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru mewn sawl ffordd – o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta i’n gwasanaethau gofal iechyd, y farchnad swyddi a’r gallu i fuddosddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.  Gallant hefyd effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i wella iechyd y cyhoedd trwy bolisi newydd.

Archwiliodd y weminar hon beth yw cytundebau masnach a pham y mae iddynt ganlyniadau posibl pwysig i iechyd a llesiant yng Nghymru.

Clywsom gan arbenigwyr annibynnol am y ffordd y mae gan ddarn newydd o ddeddfwriaeth, Deddf Marchnad Fewnol y DU, a chynlluniau’r DU i ymuno â chytundeb masnach rydd mawr, y potensial i gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i basio polisi iechyd y cyhoedd effeithiol yn y dyfodol.

Roedd y weminar yn cynnwys trafodaeth banel, lle cafodd y cyfranogwyr eu hannog i ofyn eu cwestiynau i’n panel o arbenigwyr.

Ein gobaith yw bod y weminar wedi helpu gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol a sefydliadau’r trydydd sector i ddeall sut gallai cytundebau masnach effeithio ar eu gwaith.

Fideo digwyddiad

Gwerthuso digwyddiad