Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Diogeledd Bwyd yng Nghymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Diogeledd Bwyd yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae’r boblogaeth gyfan yn cael ei heffeithio gan ddiogeledd bwyd i ryw raddau ond bydd grwpiau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed yn arbennig yn cael eu heffeithio’n negyddol, yn arbennig dros y misoedd i ddod. Mae diogeledd bwyd wedi cael ei ddiffinio fel a ganlyn “Pan fydd gan bob person, ar bob adeg, fynediad ffisegol ac economaidd at fwyd digonol, diogel a maethlon sy’n bodloni eu hanghenion deietegol a’u dewisiadau bwyd ar gyfer bywyd iach ac egnïol” (FAO, 1996).

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amlygu sut bydd dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid hinsawdd o bosibl yn effeithio arnom i gyd trwy’r bwyd yr ydym yn gallu ei brynu.

Rhoddodd y weminar hon gefndir i gyd-destun deddfwriaethol a pholisi presennol Cymru a’r DU mewn perthynas â diogeledd bwyd a’r effaith y mae diogeledd bwyd yn ei gael ar iechyd a lles y boblogaeth. Rhannodd y weminar hon hefyd y ffordd y mae partneriaethau bwyd lleol yn symud arweinwyr bwyd cymunedol ac yn eirioli dros fynediad gwell at fwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy.

Siaradwyr:

  • Zena Lopez, Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Dr Angelina Sanderson Bellamy, Prifysgol Gorllewin Lloegr
  • Chris Nottingham, Cydlynydd Mannau Bwyd Cynaliadwy Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Fideo digwyddiad

Gwerthuso digwyddiad