Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd: cyflwyniad
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Rhoddodd y weminar hon, a gyflwynwyd gan Jenneth Parker o Sefydliad Schumacher, gyflwyniad hygyrch i weithredu trwy systemau a sut gall hyn ein helpu ni i ganfod ein ffordd mewn byd cymhleth – gyda phwyslais penodol ar systemau iechyd y cyhoedd a’r ffordd y maent yn dod o fewn, ac yn dylanwadu ar, systemau cymdeithasol a bioffisegol ehangach.
Canlyniadau Dysgu:
- Cael dealltwriaeth sylfaenol o’r amrywiaeth o ddulliau meddwl trwy systemau a’u defnydd
- Cael trosolwg o botensial meddwl trwy systemau yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd yng Nghymru gan gyfeirio at y fframweithiau Llesiant a chynaliadwyedd
- Dechrau ystyried ffyrdd o gynnwys meddwl trwy systemau yng ngwaith cyfranogwyr
Mae sawl rheswm pam y gall pawb ymgysylltu’n hawdd â meddwl trwy systemau. Trafododd Jenneth Parker o Sefydliad Schumacher y dysgu trwy systemau yr ydym wedi eu cael trwy bandemig COVID-19, ynghyd â rhai diagramau archwiliadol sydd yn dangos meddwl trwy systemau ar waith. Rhoddodd Jenneth gyflwyniad i rai o’r mathau gwahanol o ddulliau meddwl trwy systemau. Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth o’r ffyrdd y gall meddwl a gweithredu trwy systemau ein helpu ni i ymdrin â rhyng-ddisgyblaethu yng nghyd-destunau ymchwil ac ymarfer. Arweiniodd hyn at drafodaeth ehangach am botensial offer a gweithredu trwy systemau i helpu i lywio, a gwneud ymyriadau gwybodus, mewn systemau iechyd y cyhoedd.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd - cyflwyniad
PDF, 5MB
Llawrlwytho PDF - Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd - cyflwyniad (5 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad