Communities4Change (C4C) Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae Communities4Change (C4C) Cymru yn ymagwedd gyfyngedig i amser, wedi ei llywio gan dystiolaeth, sydd yn dod â phobl ynghyd o asiantaethau lluosog gyda nod cyffredin o alluogi a chyflymu newid er mwyn gwella iechyd a thegwch iechyd.
Cafodd partneriaeth Tai Iach Cwm Taf Morgannwg (CTMHHP), wedi ei noddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ei dewis gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i brofi a gwerthuso ymagwedd C4C Cymru. Mae Partneriaeth Tai Iach Cwm Taf Morgannwg yn grŵp aml-asiantaeth gyda’r nod o wella iechyd a lles pobl yn Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr trwy wella ansawdd tai a lefel y cymorth i’r rheiny sydd yn ddigartref.
Y nod a gynigiwyd i gydweithrediaeth C4C CTMHHP oedd datblygu dull o rannu, dehongli a defnyddio data ar gyfer gweithredu ar draws partneriaid mewn perthynas â thai ac iechyd.
Roedd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o ddull gweithredu C4C Cymru, y ffordd y mae gwaith CTMHHP wedi esblygu ers cymryd rhan yng nghynllun peilot C4C Cymru a phwyntiau dysgu allweddol o’r gwerthusiad.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Communities4Change (C4C) Cymru
PDF, 2MB
Llawrlwytho PDF - Communities4Change (C4C) Cymru (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad