Partneriaeth Cyflawni Adferiad Gwyrdd – Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Gall cymunedau ar hyd a lled Cymru arwain y newid o ran adferiad gwyrdd mentrus a chyflym ar ôl pandemig y coronafeirws trwy wneud yr economi gylchol ac argyfyngau’r hinsawdd a natur yn greiddiol iddynt. Amlinellodd Dr Sarah Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru adroddiad ‘Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu’, fydd yn amlygu’r gweithredoedd ymarferol ac wedi eu blaenoriaethu fydd yn llywio llwybr cynaliadwy Cymru allan o bandemig y coronafeirws, yn cynnwys: atebion yn seiliedig ar natur; tai; a sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau.
Awdurdodwyd yr adroddiad ‘Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu’ gan y grŵp gorchwyl a gorffen adferiad gwyrdd, a gadeiriwyd gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, a sefydlwyd yn unol â chyfarwyddyd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ym mis Gorffennaf 2020. Cafodd y grŵp gorchwyl a gorffen y gwaith o ddatblygu syniadau mawr y gellid eu dwyn ymlaen yn y tymor byr a chanolig fel rhan o adferiad Cymru ar ôl y pandemig – syniadau sydd yn cysylltu’r economi gylchol ac argyfyngau’r hinsawdd a natur â chreu swyddi, twf economaidd cynhwysol a theg, a blaenoriaethau datblygu eraill.